Mae adran 151 o Fesur Llywodraeth Leol 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynghorau Cymuned a Thref gyhoeddi, o fewn ardal eu hawdurdod, y gydnabyddiaeth ariannol a dderbynnir gan eu haelodau erbyn 30 Medi ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol flaenorol.
Cydnabyddiaeth Ariannol
Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn trosglwyddo swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o 1 Ebrill 2025.
Bydd rhagor o dudalennau’n cael eu cyhoeddi ar yr adran hon o’r wefan wrth i’r broses o drosglwyddo swyddogaethau fynd rhagddo. Bydd peth o’r cynnwys a geir yma wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Y penderfyniadau sydd ar waith ar hyn o bryd ar gydnabyddiaeth ariannol
Cyhoeddwyd y dogfennau hyn gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, cyn trosglwyddo swyddogaethau ar gydnabyddiaeth ariannol i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Trosglwyddo swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru