Datganiad o Daliadau - Cynghorau Cymuned a Thref
Mae adran 151 o Fesur Llywodraeth Leol 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynghorau Cymuned a Thref gyhoeddi, o fewn ardal eu hawdurdod, y gydnabyddiaeth ariannol a dderbynnir gan eu haelodau erbyn 30 Medi ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol flaenorol.
Rhaid i'r wybodaeth hon hefyd gael ei hanfon at Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru i remuneration@dbcc.gov.wales erbyn yr un dyddiad. Rhaid rhannu copi o'r datganiad gydag Archwilio Cymru i post@archwilio.cymru i sicrhau cydymffurfiaeth.
Mae angen dychwelyd datganiadau dim hefyd.
Y taliadau a wneir gan gynghorau cymuned a thref i aelodau a enwir fel:
- taliadau gorfodol tuag at dreuliau ychwanegol yr aelwyd o weithio gartref ar fusnes y cyngor. Dylid adrodd y ffigurau hyn yn gyflawn ar y datganiad o daliadau.
- taliadau gorfodol tuag at ddeunyddiau traul swyddfa sy'n deillio o weithio gartref. Dylid adrodd y ffigurau hyn yn gyflawn ar y datganiad o daliadau.
- taliadau cyfrifoldeb
- lwfansau a wneir i faer neu gadeirydd a dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd
- iawndal am golled ariannol
- costau teithio a chynhaliaeth. Dylid adrodd y ffigurau hyn yn gyflawn ar y datganiad o daliadau
- unrhyw daliadau a wneir am fynychu busnes swyddogol neu ddyletswydd gymeradwy
O ran cyhoeddi'r cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol, mae ond yn ofynnol i'r awdurdodau perthnasol gyhoeddi’r cyfanswm a ad-dalwyd yn ystod y flwyddyn. Mae'n fater i bob awdurdod benderfynu ar ei ymateb i unrhyw geisiadau Rhyddid Gwybodaeth y mae'n eu derbyn. Fodd bynnag, nid yw'n fwriad bod manylion hawliadau unigol yn cael eu datgelu.
Taliad |
Disgrifiad |
Enw'r Cyngor Cymuned a Thref |
|
Ardal Awdurdod Lleol (Sir) |
Ardal yr awdurdod lleol lle mae eich Cyngor wedi'i lleoli |
Dyddiad y ffurflen wedi'i gyflwyno i CDFfC |
|
Datganiad DIM |
Ni dderbyniodd yr un Cynghorwr yn eich Cyngor daliad ar gyfer 2024-2025 |
Grŵp - 1 i 5 (nodwch rif y Grŵp y mae’ch Cyngor yn perthyn iddo) |
|
Cyfanswm cost y lwfansau a dalwyd i gynghorwyr sy'n derbyn taliad o £156 y pen - i gydnabod bod cynghorwyr yn ysgwyddo costau i gyflawni eu rôl. |
Beth yw’r cyfanswm y mae'r Cyngor wedi'i dalu i'w Gynghorwyr o ran y taliad o £156 |
Cyfanswm cost y lwfansau a dalwyd i gynghorwyr sy'n derbyn taliad o £52 - taliadau am gostau a ysgwyddwyd o ran ffôn, band eang ac ati. |
Beth yw cyfanswm y swm y mae'r Cyngor wedi'i dalu i'w Gynghorwyr o ran y taliad o £52 |
Taliad Cyfrifoldeb (hyd at £500 i derfyn o 5 aelod) - £ |
Beth yw’r cyfanswm y mae'r Cyngor wedi'i dalu i'w Gynghorwyr sy'n â rôl uwch |
Cadeirydd / Maer lwfans y Cyngor Cadeirydd neu Daliad Personol y Maer |
Beth yw'r swm y mae'r Cyngor wedi'i dalu i'w Gadeirydd / Maer y Cyngor Mae hyn yn eithrio unrhyw Gyllideb Ddinesig ar gyfer eu gwaith ychwanegol |
Lwfans Is-gadeirydd / Dirprwy Faer y Cyngor. Mae hyn yn eithrio unrhyw Gyllideb Ddinesig am eu gwaith ychwanegol. |
Beth yw'r swm y mae'r Cyngor wedi'i dalu i'w Is-gadeirydd / Dirprwy Faer y Cyngor. Mae hyn yn eithrio unrhyw Gyllideb Ddinesig ar gyfer eu gwaith ychwanegol |
Lwfans Colled Ariannol |
Beth yw cyfanswm y swm y mae'r Cyngor wedi'i dalu i'w Gynghorwyr sydd wedi derbyn lwfans colled ariannol, i gyflawni eu rôl. Mae hwn yn daliad dewisol. |
Costau teithio a chynhaliaeth |
Beth yw’r cyfanswm y mae'r Cyngor wedi'i dalu i'w Gynghorwyr sydd wedi derbyn lwfans teithio a chynhaliaeth, i gyflawni eu rôl. Mae hwn yn daliad dewisol. |
Cyfanswm y Lwfans Mynychu a dalwyd i'r holl aelodau (£30 fesul aelod, fesul cyfarfod y Cyngor) |
Beth yw cyfanswm y swm y mae'r Cyngor wedi'i dalu i'w Gynghorwyr sydd wedi derbyn lwfans mynychu. Mae hwn yn daliad dewisol. |
Cyfraniad at Gostau Gofal a Chymorth Personol (CPA) |
Beth yw’r cyfanswm y mae'r Cyngor wedi'i dalu i'w Gynghorwyr sydd wedi derbyn cyfraniad at gostau gofal a chymorth personol, i gyflawni eu rôl. Dyma'r cyfanswm a ad-dalwyd yn y flwyddyn ac NID y taliad i bob aelod. |
Arall |
Unrhyw daliadau eraill a wneir i Gynghorwyr |
Cyfanswm |
Beth yw’r cyfanswm y mae'r Cyngor wedi'i dalu i'w Gynghorwyr |
CYFANSWM NIFER Y CYNGHORWYR a wrthododd lwfans o £156 - ar gyfer costau ag ysgwyddwyd o ran gweithio gartref |
Faint o Gynghorwyr a ysgrifennodd at y Clerc yn cadarnhau nad oeddent eisiau derbyn y lwfans o £156 |
CYFANSWM NIFER Y CYNGHORWYR a wrthododd lwfans o £52 - ar gyfer costau a ysgwyddwyd o ran ffôn, band eang ac ati. |
Faint o Gynghorwyr a ysgrifennodd at y Clerc yn cadarnhau nad oeddent eisiau derbyn y lwfans o £52 |
Gweler isod y ffurflenni sydd eu hangen i ddychwelyd eich datganiad taliadau.
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 34.99 KB
-
Maint ffeil: 35.34 KB
-
Maint ffeil: 36.48 KB
-
Maint ffeil: 21.2 KB
-
Maint ffeil: 37.28 KB
-
Maint ffeil: 21.43 KB