Cynnig ffiniau Newydd ar gyfer wardiau cyngor Bro Morgannwg
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi ei gynigion drafft ar gyfer newidiadau i ffiniau wardiau cyngor ym Mro Morgannwg.
Mae arolwg etholiadol Bro Morgannwg yn archwilio ffiniau wardiau cyngor ar draws y fwrdeistref sirol gyda'r bwriad o sicrhau bod gan bob ward gyngor gymhareb fras gyfartal o etholwyr i gynghorwyr.
Cwblhawyd yr arolwg diwethaf o wardiau cyngor Bro Morgannwg yn 2021, a chyflwynwyd arolwg cymunedol, yn edrych ar ffiniau a threfniadau etholiadol cymunedau yn y sir, yn 2024.
Ar ôl cwblhau eu harolwg blaenorol o wardiau cyngor Bro Morgannwg 4 blynedd yn ôl, bydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn ceisio dod â phob ward o fewn 20% o gyfradd gyfartalog y cyngor o etholwyr i gynghorwyr.
Ar hyn o bryd, mae 5 o'r wardiau presennol y tu allan i'r ystod honno.
Mae'r arolwg hefyd yn ystyried ffactorau eraill, megis gwledigrwydd wardiau, cysylltiadau lleol, ac amddifadedd cymharol wardiau wrth iddo ddatblygu ei gynigion.
Mae'r Comisiwn wedi cynnig cyngor o 59 aelod, cynnydd o'r 58 aelod presennol, gyda chyfartaledd sirol arfaethedig o 1,752 o etholwyr fesul aelod.
Mae'r Comisiwn yn cynnig y bydd 26 ward, heb unrhyw newidiadau arfaethedig ar gyfer 20 o'r wardiau etholiadol presennol.
Y tangynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) o fewn y cynigion yw Gwenfô (23% uwchlaw'r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, y tangynrychiolaeth fwyaf yw yn Llandŵ (42% uwchlaw cyfartaledd y sir).
Y gorgynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) o fewn y cynigion yw Llandŵ (19% islaw cyfartaledd y sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, y gorgynrychiolaeth fwyaf yw yn Cosmeston (61% islaw cyfartaledd y sir).
Mae'r Comisiwn yn cynnig 20 ward aml-aelod yn y sir sy'n cynnwys: 10 ward etholiadol dau aelod, 7 ward etholiadol tri aelod, a 3 ward etholiadol pedwar aelod.
Mae'r Comisiwn yn gwahodd ymatebion i'w gynigion tan 12 Tachwedd 2025, a gall trigolion anfon eu sylwadau drwy e-bost i ymgynghoriadau@cdffc.llyw.cymru, yn y post i CDFfC, 4ydd Llawr, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, neu drwy'r porth ymgynghori ar-lein yn www.arolygoncymru.cymru.
Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, bydd y Comisiwn yn myfyrio ar yr ymatebion a dderbyniwyd ac yn datblygu ei Benderfyniadau Terfynol ar gyfer map newydd o wardiau cyngor, cyn cyflwyno'r map hwnnw i Lywodraeth Cymru.
Wrth wneud sylwadau ar agor yr ymgynghoriad, dywedodd prif weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:
“Mae’r Comisiwn yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda phobl ym Mro Morgannwg, a’i bartneriaid mewn llywodraeth leol, wrth iddo geisio sicrhau bod pobl ledled y sir yn cael eu cynrychioli’n gyfartal, bod pleidleisiau pobl yr un cryfder, a bod cynghorwyr yn gallu rhannu llwyth gwaith mwy cyfartal.
“Yr arolwg etholiadol blaenorol ar gyfer Bro Morgannwg oedd y cyntaf ers sawl blwyddyn, sy’n golygu bod yn rhaid i’r Comisiwn argymell newidiadau sylweddol i wardiau ledled y sir.
“Gyda arolygon bellach yn digwydd yn fwy rheolaidd, rydym yn falch o fod mewn sefyllfa lle mae mwyafrif helaeth y wardiau eisoes o fewn y gymhareb darged o etholwyr i gynghorwyr.
“Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y nifer fawr o wardiau nad ydynt yn cael eu cynnig i newid yn yr arolwg hwn.
“Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn cynnig rhai newidiadau, felly rydym yn argymell yn gryf bod y rhai sydd â barn ar siâp eu ward yn ymateb i’n hymgynghoriad i wneud i’w lleisiau gael eu clywed.”