Bro Morgannwg: Cynigion Drafft

Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi ei gynigion drafft ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.

Gallwch weld y cynigion ar y porth ymgynghori, eu cymharu â'r trefniadau presennol a gwneud unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud.

Mae'r cyfnod ymgynghori 6 wythnos yn dechrau ar 2 Hydref 2025 ac yn cau ar 12 Tachwedd 2025.

Ar ôl y dyddiad hwn bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl sylwadau derbyniwyd, yn paratoi Argymhellion Terfynol ac yn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Yn ogystal â'r porth ymgynghori, gellir anfon sylwadau yn ystod y cyfnod hwn at:

ymholiadau@cdffc.cymru

neu

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

4ydd Llawr

Adeilad Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ

Neu trwy’r porth ymgynhori:

arolygoncymru.cymru

Beth yw Arolwg Etholiadol?

Mae'r Comisiwn yn adolygu ffiniau wardiau etholiadol 22 prif gyngor (awdurdodau lleol) Cymru bob 12 mlynedd.

Y rheswm dros adolygu'r ffiniau hyn yw, dros amser, bod nifer yr etholwyr mewn gwahanol ardaloedd yn newid, efallai oherwydd bod ystâd dai newydd wedi'i hadeiladu.

Mae'r arolygon yn ceisio cadw'r gymhareb o etholwyr i gynghorwyr yn fras gyfartal o fewn pob cyngor fel bod pobl yn cael eu cynrychioli'n dda, bod eu pleidleisiau'n cario cryfder cyfartal, a bod cynghorwyr yn rhannu llwyth gwaith cyfartal.

Beth yw'r broses?

Mae'r Comisiwn yn dechrau Arolygon Etholiadol trwy nodi'r sefyllfa bresennol o fewn ardal cyngor a gofyn am feddyliau cychwynnol pobl ar newidiadau posibl. Ar ôl i ni dderbyn y safbwyntiau hynny, mae'r Comisiwn yn cyhoeddi cynigion drafft ar gyfer set newydd o drefniadau ac yn ymgynghori ar y rheini hefyd.

Yna mae'r Comisiwn yn ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriadau, a ffactorau fel cymhareb yr etholwyr fesul cynghorydd, gwledigrwydd, amddifadedd, a chysylltiadau cymunedol cyn cyhoeddi ei argymhellion terfynol.

Ar y pwynt hwnnw, nid oes cyfleoedd pellach i anfon sylwadau at y Comisiwn am yr arolwg.

Os bydd Gweinidogion Cymru yn dewis gweithredu argymhellion y Comisiwn (gyda neu heb addasiadau) byddant yn gwneud hynny drwy wneud Gorchymyn. Bydd hyn o leiaf 6 wythnos ar ôl i'r Comisiwn gyflwyno ei Adroddiad Argymhellion Terfynol. Yn ystod y cyfnod hwn, gall pobl ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gyflwyno eu barn.

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am ddull y Comisiwn o ymdrin ag Arolygon Etholiadol yn ei ddogfen Polisi ac Arfer.

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 637.8 KB
  2. Maint ffeil: 673.09 KB
  3. Maint ffeil: 940.4 KB
  4. Maint ffeil: 599.3 KB
  5. Maint ffeil: 510.01 KB
  6. Maint ffeil: 612.56 KB
  7. Maint ffeil: 3.09 MB

  1. Maint ffeil: 25.19 KB
  2. Maint ffeil: 24.82 KB

  1. Maint ffeil: 1.16 MB

  1. Maint ffeil: 173.01 KB
  2. Maint ffeil: 415.57 KB
  3. Maint ffeil: 193.95 KB

Amser darllen amcangyfrifedig:

2 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: