“Mwy o hyblygrwydd” wrth i etholaethau’r Senedd gael eu hadolygu

Bydd etholaethau’r Senedd yn cael eu hadolygu eto wrth i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gyhoeddi ei Ganllaw i Arolwg 2030.

Mae’r Canllaw, sydd ar gael ar wefan y Comisiwn, yn egluro’r broses adolygu, sut y gall pobl gymryd rhan, a phryd y gall pobl ddisgwyl y set gyntaf o gynigion.

Adolygwyd etholaethau’r Senedd ddiwethaf cyn etholiad eleni, i ffurfio 16 etholaeth a oedd yr un yn ethol 6 Aelod i’r Senedd estynedig â 96 sedd.

Cafodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru y dasg o baru 32 etholaeth seneddol Cymru i greu’r 16 etholaeth Senedd (gostyngiad o’r 40 etholaeth flaenorol) yn yr Arolwg hwnnw.

Fodd bynnag, rhoddodd Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ac ati 2013 y dasg hefyd i’r Comisiwn gynnal Arolwg newydd ar ôl yr etholiad o dan reolau newydd, mwy hyblyg.

Ni fydd etholaethau yn yr Arolwg hwn yn cael eu creu trwy baru etholaethau seneddol. Yn lle hynny, bydd y Comisiwn yn defnyddio cwota etholiadol, sy'n golygu bod rhaid i bob etholaeth fod o fewn +/-10% o nifer cyfartalog yr etholwyr ledled Cymru.

Bydd y Comisiwn hefyd yn edrych ar ffiniau llywodraeth leol, ystyriaethau daearyddol, a chysylltiadau lleol wrth iddo ddatblygu ei gynigion.

Mae'r Ddeddf yn nodi bod rhaid i'r Comisiwn geisio lleihau faint o newid y mae'n ei argymell ac ystyried yr anghyfleustra a fyddai'n cael ei achosi gan wneud newidiadau.

Fel gydag Arolygon blaenorol, ni fydd y Comisiwn yn ystyried materion y tu allan i'w gylch gwaith, megis yr effaith ar ganlyniadau etholiadau yn y dyfodol neu faterion gweinyddol eraill fel dyraniadau cod post neu fynediad at wasanaethau lleol.

Yn ogystal ag archwilio newidiadau posibl i'r 16 etholaeth, rhaid i'r Comisiwn hefyd enwi pob un.

Mae'r Ddeddf yn nodi bod rhaid rhoi enw iaith sengl i etholaethau, oni bai bod y Comisiwn yn ystyried y byddai gwneud hynny'n annerbyniol. Ar hyn o bryd, mae gan bob un o'r 16 etholaeth enw iaith sengl.

Bydd yr Arolwg newydd yn cynnwys mwy o gyfleoedd i bobl rannu eu barn. Mae'r cynigion cychwynnol i'w cyhoeddi ddechrau 2027. Bydd cyfnod ymgynghori 8 wythnos yn dilyn y cyhoeddiad hwn lle bydd pobl yn cael eu hannog i rannu eu hadborth ar y cynigion.

Yna bydd y Comisiwn yn cyhoeddi'r sylwadau y mae'n eu derbyn ac yn cynnal ei ail gyfnod ymgynghori lle bydd pobl yn cael eu gwahodd i gefnogi, neu wneud gwrth-ddadleuon i'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyntaf.

Yn ystod yr ymgynghoriad hwn, bydd y Comisiwn hefyd yn cynnal gwrandawiadau cyhoeddus lle gall pobl fynegi eu barn yn bersonol. Cyhoeddir manylion y gwrandawiadau hyn maes o law.

Yn dilyn yr ymgynghoriadau hyn, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei gynigion diwygiedig, os bydd yn penderfynu yn seiliedig ar yr ymgynghoriadau y dylai wneud newidiadau i'w gynigion cychwynnol. Byddai'r cynigion hyn yn cael eu rhoi ar ymgynghoriad 4 wythnos.

Yn olaf, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a dderbyniwyd ar draws ei 3 ymgynghoriad a gwrandawiadau cyhoeddus, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei Benderfyniadau Terfynol, y mae'n rhaid eu cyflwyno i Weinidogion Cymru cyn 1 Rhagfyr 2028.

Yna bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi effaith i'r penderfyniadau, a fydd yn dod i rym cyn etholiad Senedd 2030.

Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi'r Canllaw, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:

“Mae'r Comisiwn yn edrych ymlaen at gynnal Arolwg llawn ar gyfer etholaethau'r Senedd, gyda mwy o gyfle i bobl rannu eu barn a dylanwadu ar y cynigion.

“Pryd bynnag y bydd y Comisiwn yn cynnal Arolwg, mae adborth y cyhoedd, yn enwedig ar eu hardal leol, yn hanfodol i sicrhau bod ein penderfyniadau mor gryf â phosibl.

“Mae'r symudiad o baru etholaethau seneddol i ddefnyddio cwota etholiadol yn golygu y bydd angen rhai newidiadau yn yr Arolwg hwn, ond mae hefyd yn rhoi cyfle inni ymateb gyda mwy o hyblygrwydd i farn y cyhoedd, gan sicrhau ein bod yn lleihau newidiadau lle bynnag y gallwn.”

Amser darllen amcangyfrifedig:

3 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: