Canllaw i Arolwg 2030
Hawdd ei Ddarllen
Rydym wedi gwneud fersiwn Hawdd ei Ddarllen o'r Canllaw hwn.
Gallwch ddarllen y fersiwn Hawdd ei Ddarllen drwy glicio yma.
Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi ei Ganllaw i Arolwg 2030 o etholaethau'r Senedd. Mae'r Canllaw hwn yn cynnwys yr holl wybodaeth bwysig am yr arolwg, y dyddiadau allweddol, a sut y gallwch chi effeithio ar y cynigion.
Mae'r Canllaw yn cynnwys gwybodaeth am y Comisiwn a phwy yw'r Comisiynwyr, sut y byddwn yn datblygu cynigion, sut a pham y dylech chi gymryd rhan, a beth yw camau allweddol yr arolwg.
Mae'r ddogfen hefyd yn nodi cyfrifoldeb y Comisiwn i'ch hysbysu am gynnydd yr arolwg a'ch cyfleoedd i ymateb i ymgynghoriadau, a beth sy'n digwydd ar ôl i'r Comisiwn gwblhau'r arolwg.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr arolwg drwy ddychwelyd i'r adran Aolygon ar y wefan hon, a thrwy ddilyn y Comisiwn ar draws y cyfryngau cymdeithasol.
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 267.88 KB
-
Maint ffeil: 1.4 MB