Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn cyhoeddi cynigion drafft ar gyfer lwfansau cynghorwyr
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol Blynyddol Drafft, a fydd yn gymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026 i 2027. Bydd y cynigion hyn ar agor ar gyfer wyth wythnos o ymgynghori rhwng 23 Medi a 18 Tachwedd 2025.
Mae'r cysylltiad ag enillion cyfartalog Cymru wedi'i gynnal ar gyfer prif gynghorau. Mae'r Comisiwn o’r farn bod cynnal cysylltiadau ag enillion cyfartalog yn allweddol wrth gydbwyso tegwch i bob aelod etholedig a fforddiadwyedd i awdurdodau lleol. Cyfrifir enillion cyfartalog drwy gyfeirio at yr Arolwg Blynyddol ar gyfer Oriau ac Enillion (ASHE) 2024 a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Felly, mae'r Comisiwn yn cynnig cyflog blynyddol sylfaenol o £21,044. Yn unol â'r cynnydd mewn enillion cyfartalog y cynnydd yn y cyflog blynyddol sylfaenol yw 6.4%.
Mae'r Comisiwn o'r farn bod gan ddeiliaid swyddi arweinwyr ac aelodau gweithredol gyfrifoldeb swyddogaethol sylweddol ac felly bydd elfen rôl eu cydnabyddiaeth ariannol yn cynyddu yn yr un modd yn unol ag enillion cyfartalog.
Bydd y prif lwfansau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer cynghorau cymuned a thref yn aros yr un fath.
Gellir gweld yr adroddiad drafft a phenderfyniadau blaenorol yma
DIWEDD
Nodyn i olygyddion:
- Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn pennu'r gydnabyddiaeth ariannol sy'n daladwy gan gynghorau i'w haelodau etholedig a'u haelodau cyfetholedig. Mae cylch gorchwyl y Comisiwn yn cynnwys Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Tân ac Achub a Chynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.
- Yn unol â gofynion Rhan 5A o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru bellach wedi cyhoeddi ei Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol Blynyddol Drafft. Gellir gweld yr adroddiad hwn, a'r penderfyniadau blaenorol, yn https://www.cdffc.llyw.cymru/cydnabyddiaeth-ariannol.
- Cyfrifir enillion cyfartalog drwy gyfeirio at yr Arolwg Blynyddol ar gyfer Oriau ac Enillion (ASHE) 2024 a gyhoeddwyd gan ONS.