Adolygu ffiniau wardiau cyngor Bro Morgannwg
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi agor ei ymgynghoriad cychwynnol wrth i arolwg etholiadol o Fro Morgannwg ddechrau.
Bydd yr arolwg yn archwilio ffiniau wardiau cyngor ar draws y fwrdeistref sirol gyda'r bwriad o sicrhau bod gan bob ward gyngor gymhareb fras gyfartal o etholwyr i gynghorwyr.
Cyn gwneud unrhyw gynigion i newid map wardiau’r cyngor, mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi agor ymgynghoriad yn ceisio barn gychwynnol trigolion a rhanddeiliaid.
Cwblhawyd yr arolwg diwethaf o wardiau cyngor Bro Morgannwg yn 2021, a chwblhawyd arolwg cymunedol, yn edrych ar ffiniau a threfniadau etholiadol cymunedau yn y Fro, yn 2024.
Ar ôl cwblhau eu harolwg blaenorol o wardiau cyngor Bro Morgannwg 4 blynedd yn ôl, bydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn ceisio dod â phob ward o fewn 20% o gyfradd gyfartalog y cyngor o etholwyr i gynghorwyr.
Ar hyn o bryd, mae 5 o'r wardiau presennol y tu allan i'r ystod honno, gyda ward Cosmeston dros 50% islaw cyfartaledd y cyngor, sy'n golygu bod ganddi lawer llai o etholwyr fesul cynghorydd na'r rhan fwyaf o wardiau.
Mae’n bosib y bydd y Comisiwn hefyd yn edrych i wneud newidiadau i wardiau hyd yn oed lle maent ar hyn o bryd o fewn y targed o 20%. Gall hyn fod oherwydd effeithiau canlyniadol newid ffiniau wardiau cyfagos, neu oherwydd bod trigolion lleol a rhanddeiliaid wedi nodi angen i newid ffiniau i gyd-fynd yn well â chysylltiadau cymunedol.
Bydd yr arolwg hefyd yn ystyried ffactorau eraill, megis gwledigrwydd wardiau neu amddifadedd cymharol wardiau wrth iddo ddatblygu ei gynigion.
Mae'r Comisiwn yn gwahodd sylwadau ac awgrymiadau cychwynnol ar gyfer yr arolwg tan 16 Gorffennaf 2025, a gall trigolion anfon eu sylwadau drwy e-bost i ymgynghoriadau@cdffc.llyw.cymru, yn y post i CDFfC, 4ydd Llawr, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, neu drwy'r porth ymgynghori ar-lein yn https://arolygoncymru.cymru/.
Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, bydd y Comisiwn yn myfyrio ar yr ymatebion a dderbyniwyd ac yn datblygu cynigion drafft ar gyfer map newydd o wardiau cyngor, cyn cyflwyno'r map hwnnw ar gyfer ail ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Wrth wneud sylwadau ar agor yr ymgynghoriad, dywedodd prif weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:
“Mae'r Comisiwn yn edrych ymlaen at weithio gyda phobl ym Mro Morgannwg, a'i bartneriaid mewn llywodraeth leol, wrth iddo geisio sicrhau bod pobl ledled y Fro yn cael eu cynrychioli'n gyfartal, bod gan bleidleisiau pobl yr un cryfder, a bod cynghorwyr yn gallu rhannu llwyth gwaith mwy cyfartal.
“Yr arolwg etholiadol blaenorol ar gyfer Bro Morgannwg oedd y cyntaf ers sawl blwyddyn, ac felly bu’n rhaid i'r Comisiwn argymell newidiadau sylweddol i wardiau ledled y sir.
“Gydag arolygon bellach yn digwydd yn fwy rheolaidd, rydym yn falch o fod mewn sefyllfa lle mae mwyafrif helaeth y wardiau eisoes o fewn y gymhareb darged o etholwyr i gynghorwyr.
“Fodd bynnag, bydd rhai newidiadau i’r map o hyd, felly mae’r Comisiwn yn argymell yn gryf bod y rhai sydd â barn ar siâp eu ward yn ymateb i’n hymgynghoriadau i leisio barn.”