Arolwg Etholiadol Bro Morgannwg

Mae'r Comisiwn yn cynnal arolwg o trefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morganwg gyda'r bwriad o ystyried a llunio cynigion ar gyfer trefniadau yn y dyfodol. Byddai'r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau y gallech fod eisiau eu gwneud.

Mae'r cyfnod ymgynghori 6 wythnos yn dechrau ar 5 Mehefin 2025 ac yn dod i ben ar 16 Gorffennaf 2025.

Ar ôl y dyddiad hwn bydd y Comisiwn yn paratoi Cynigion Drafft ar gyfer y trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morganwg. Bydd hyn yn gyfle pellach i wneud sylwadau a chynrychiolaethau.

Gellir anfon cynrychiolaethau yn ystod y cyfnod hwn i:

ymgynghoriadau@cdffc.llyw.cymru

neu

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

4ydd Llawr

Adeilad Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ

Neu drwy'r porth ymgynghori:

arolygoncymru.cymru a fydd yn mynd yn fyw ar ddechrau'r cyfnod ymgynghori (5 Mehefin 2025).

Beth yw Arolwg Etholiadol?

Mae'r Comisiwn yn adolygu ffiniau wardiau etholiadol 22 prif gyngor (awdurdodau lleol) Cymru bob 12 mlynedd.

Y rheswm dros adolygu'r ffiniau hyn yw, dros amser, bod nifer yr etholwyr mewn gwahanol ardaloedd yn newid, efallai oherwydd bod ystâd dai newydd wedi'i hadeiladu.

Mae'r arolygon yn ceisio cadw'r gymhareb o etholwyr i gynghorwyr yn fras gyfartal o fewn pob cyngor fel bod pobl yn cael eu cynrychioli'n dda, bod eu pleidleisiau'n cario cryfder cyfartal, a bod cynghorwyr yn rhannu llwyth gwaith cyfartal.

Beth yw'r broses?

Mae'r Comisiwn yn dechrau Arolygon Etholiadol trwy nodi'r sefyllfa bresennol o fewn ardal cyngor a gofyn am feddyliau cychwynnol pobl ar newidiadau posibl. Ar ôl i ni dderbyn y safbwyntiau hynny, mae'r Comisiwn yn cyhoeddi cynigion drafft ar gyfer set newydd o drefniadau ac yn ymgynghori ar y rheini hefyd.

Yna mae'r Comisiwn yn ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriadau, a ffactorau fel cymhareb yr etholwyr fesul cynghorydd, gwledigrwydd, amddifadedd, a chysylltiadau cymunedol cyn cyhoeddi ei argymhellion terfynol.

Ar y pwynt hwnnw, nid oes cyfleoedd pellach i anfon sylwadau at y Comisiwn am yr arolwg.

Os bydd Gweinidogion Cymru yn dewis gweithredu argymhellion y Comisiwn (gyda neu heb addasiadau) byddant yn gwneud hynny drwy wneud Gorchymyn. Bydd hyn o leiaf 6 wythnos ar ôl i'r Comisiwn gyflwyno ei Adroddiad Argymhellion Terfynol. Yn ystod y cyfnod hwn, gall pobl ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gyflwyno eu barn.

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am ddull y Comisiwn o ymdrin ag Arolygon Etholiadol yn ei ddogfen Polisi ac Arfer.

Gallwch ddod o hyd i Bolisi ac Arfer y Comisiwn ar gyfer Arolygon Etholiadol yma.

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 28.66 KB
  2. Maint ffeil: 2 MB
  3. Maint ffeil: 783.08 KB

Amser darllen amcangyfrifedig:

6 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: