Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer 2025
Rhagair
Mae Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (“Deddf 2013”) yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (“y Comisiwn”) adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal yng Nghymru o leiaf unwaith bob 12 mlynedd.
Cyn cynnal arolwg o’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal (y mae’r Comisiwn yn ei ddisgrifio fel “arolwg etholiadol”), mae’n ofynnol i’r Comisiwn ymgynghori â chyrff penodedig penodol (a adnabyddir fel “ymgyngoreion gorfodol”) ar ei weithdrefn a’i fethodoleg arfaethedig ar gyfer yr arolwg, ac yn benodol ar sut y mae’n cynnig penderfynu ar y nifer briodol o aelodau ar gyfer unrhyw brif gyngor yn y brif ardal neu ardaloedd sy’n cael eu hadolygu.
Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno gweithdrefn a methodoleg arfaethedig a pholisi maint cynghorau’r Comisiwn ar gyfer y rhaglen o arolygon etholiadol y mae’n rhaid eu cynnal yn ystod y cyfnod o 12 mlynedd a ddechreuodd ar 30 Medi 2023. Mae’r Comisiwn yn rhagweld y bydd yr arolygon hyn yn cychwyn yn 2025, ac felly’n cyfeirio at y cylch hwn o arolygon fel “rhaglen 2025”.
Beverley Smith
Cadeirydd
Mae’r Comisiwn yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg neu Saesneg.
Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg
Cefndir
Mae’n ofynnol i’r Comisiwn gynnal arolygon cyfnodol o drefniadau etholiadol prif ardaloedd yng Nghymru. Disgrifir yr adolygiadau hyn yn y ddogfen hon fel “arolygon etholiadol”. Diffinnir y ffordd y mae’r Comisiwn yn cynnal arolwg etholiadol gan ddeddfwriaeth a gall gael ei llywio gan gyfarwyddiadau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno gweithdrefn a methodoleg a pholisi maint cynghorau arfaethedig y Comisiwn ar gyfer y rhaglen o arolygon etholiadol y mae’n rhaid ei chyflawni yn ystod y cyfnod o 12 mlynedd a ddechreuodd ar 30 Medi 2023 (ac a adnabyddir fel “rhaglen 2025”).
Gofynion Statudol
Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013
Mae Deddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn adolygu trefniadau etholiadol prif gynghorau yng Nghymru. Diwygiwyd Deddf 2013 yn ddiweddar (a rhoddwyd ei enw newydd iddi) gan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
Mae Adran 21(3) Deddf 2013 yn darparu bod yn rhaid i’r Comisiwn, wrth gyflawni ei ddyletswyddau, geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Dyma swyddogaeth bennaf a phrif swyddogaeth y Comisiwn.
Mae Adran 29 Deddf 2013 yn cyflwyno’r ddyletswydd ar y Comisiwn i adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu o 12 mlynedd.
Diben arolwg etholiadol yw ystyried pa un a ddylid gwneud newidiadau i drefniadau etholiadol y brif ardal. Ar ddiwedd yr arolwg, bydd y Comisiwn yn argymell newidiadau y mae’n eu hystyried sy’n briodol i’r trefniadau etholiadol hynny (neu’n argymell bod dim newidiadau yn cael eu gwneud). Caiff argymhellion y Comisiwn eu gwneud i Weinidogion Cymru, sy’n penderfynu wedyn a ddylid gweithredu newidiadau a argymhellwyd gan y Comisiwn (gydag addasiadau neu hebddynt).
Yn y cyd-destun hwn, diffinnir “trefniadau etholiadol” prif ardal yn Adran 29 (9) Deddf 2013 fel:
nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal;
nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol y rhennir y brif ardal iddynt am y tro at ddibenion ethol aelodau;
nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol yn y brif ardal honno; a
enw unrhyw ward etholiadol.
Pan fydd y Comisiwn yn argymell newidiadau i drefniadau etholiadol ar ddiwedd arolwg etholiadol, gallai hefyd argymell newidiadau canlyniadol i ffiniau, cyngor a/neu drefniadau etholiadol cymuned yn yr ardal sy’n cael ei hadolygu, yn ogystal â newidiadau canlyniadol i ardal sir wedi’i chadw (mae Cymru wedi’i rhannu’n wyth o siroedd wedi’u cadw. Ardaloedd yw’r rhain a ddefnyddir at ddibenion defodol rhaglawiaeth a siryddiaeth).
Ystyriaethau ar gyfer Arolwg o Drefniadau Etholaethol Prif Ardaloedd
Wrth gynnal arolwg etholiadol, mae’n ofynnol i’r Comisiwn roi sylw i’r ffactorau canlynol o dan Adran 30 Deddf 2013-
dymunoldeb cael cymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol sydd yr un fath, neu bron yr un fath, ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal (y mae’r Comisiwn yn cyfeirio ato fel “cydraddoldeb etholiadol”);
ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol maint, siâp a hygyrchedd ward etholiadol; a
unrhyw gwlwm lleol (gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg) a fyddai’n cael ei dorri gan newidiadau i’r trefniadau etholiadol yn yr ardal.
Pan fydd y Comisiwn yn cymryd ystyriaethau o gydraddoldeb etholiadol i ystyriaeth (yn unol ag ystyr pwynt (a) uchod), mae hefyd yn ofynnol i’r Comisiwn gymryd i ystyriaeth:
unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol); a
unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl canlyniad adolygiad etholiadol y Comisiwn.
Cydbwysedd
Tasg y Comisiwn yw gwneud dyfarniad cytbwys gan gymryd yr holl ystyriaethau perthnasol i ystyriaeth, gyda’r nod o wneud argymhellion ar gyfer trefniadau etholiadol a fydd yn sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Mewn sefyllfa ddelfrydol, byddai’n bosibl llunio patrwm o ffiniau wardiau etholiadol lle mae gan bob ward etholiadol mewn prif ardal gymhareb gyfartal o etholwyr i gynghorwyr, sy’n dod â phobl ynghyd mewn cymunedau y gellir eu hadnabod yn eglur, yn dangos yn eglur sut y byddai llywodraeth leol yn effeithiol ac yn gyfleus, ac yn arwain at y nifer briodol o gynghorwyr.
Fodd bynnag, nid yw cyfansoddiad daearyddol, cymdeithasol, economaidd a gweinyddol Cymru mor syml fel ei fod yn hwyluso llunio patrymau etholiadol delfrydol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r Comisiwn ystyried yr holl ffactorau perthnasol a gwneud dyfarniad gyda’r nod o sicrhau patrwm o wardiau etholiadol sydd mor agos â phosibl i’r delfryd a ddisgrifir uchod. Mae datblygu strwythur sy’n sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus yn hollbwysig.
Amserlen
Mae amserlen arfaethedig y Comisiwn ar gyfer rhaglen 2025 o arolygon etholiadol ar gael yn Atodiad 1.
Mae Adran 36B(2) Deddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn wneud ei ymdrechion gorau i gyhoeddi ei adroddiad terfynol mewn arolwg etholiadol o fewn 12 mis i ddechrau’r arolwg.
Polisi Maint Cynghorau
Ar gyfer rhaglen 2025, mae’r Comisiwn yn cynnig neilltuo ystod y dylai cyfanswm y cynghorwyr ar gyfer cyngor fod ynddo i bob prif gyngor. Nodir manylion y fethodoleg a ddilynwyd gan y Comisiwn a’r ystod briodol o niferoedd cynghorwyr ar gyfer pob prif gyngor yn Atodiad 2.
Os nad yw prif gyngor yn cytuno â'r ystod a ddyrannwyd gan y Comisiwn, yna bydd angen cyflwyno dadl cryf cyn dechrau'r arolwg. Mae’r Comisiwn wedi darparu templed ymateb i gynorthwyo hwn a mae’r dogfen ar gael ar ar wefan y Comisiwn. Bydd y Comisiwn yn ystyried unrhyw gyflwyniadau fesul achos.
Gweithdrefn
Cyflwynir y weithdrefn ar gyfer cynnal arolygon etholiadol ym Mhennod 4 Deddf 2013 ac fe’i crynhoir yn yr adrannau canlynol.
Gweithdref Cyn Arolwg
Bydd y Comisiwn yn neilltuo Comisiynydd Arweiniol ar gyfer pob arolwg etholiadol, a’i swyddogaeth fydd i arwain staff y Comisiwn drwy’r adolygiad a chyflwyno cynigion ac argymhellion yn fewnol ar gyfer ystyriaeth a chymeradwyaeth gyfunol y Comisiwn.
Cyn cynnal arolwg etholiadol, bydd y Comisiwn yn gwneud cais i’r prif gyngor ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu i ddarparu data ar yr etholaeth a ffigurau etholaeth rhagweledig pum mlynedd, wedi’u dadansoddi ym mhob achos i lefel wardiau cymuned. Mae’r nodyn cyngor technegol yn Atodiad 3 i’r ddogfen hon yn cynnig canllawiau i brif gynghorau ar ofynion y Comisiwn ac ar sut y gellir cynhyrchu ffigurau etholaeth rhagweledig.
Mae hefyd yn ofynnol ar ddechrau’r arolwg i’r Comisiwn gymryd y fath gamau ac y mae’n eu hystyried yn briodol i dynnu sylw aelodau’r cyhoedd sy’n cael eu heffeithio gan yr arolwg, yr ymgyngoreion gorfodol ac unrhyw unigolyn arall y mae’n ei ystyried ei bod yn debygol y bydd ganddo ddiddordeb yn yr arolwg at yr arolwg. Os rhoddwyd unrhyw gyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru sy’n berthnasol i’r arolwg, yna mae hefyd yn ofynnol i’r Comisiwn wneud ymgyngoreion gorfodol ac unigolion eraill â diddordeb o’r fath yn ymwybodol o’r rhain.
At y dibenion hyn, diffinnir yr “ymgyngoreion gorfodol” yn Adran 34(3) y Ddeddf fel:
unrhyw awdurdod lleol y mae’r arolwg yn effeithio arno;
y comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer unrhyw ardal heddlu y gall yr arolwg effeithio arni;
unrhyw awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ar gyfer ardal yng Nghymru y gallai’r arolwg effeithio arni;
yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol mewn ardal yr effeithir arni gan yr arolwg,
yr awdurdod Iechyd Porthladd a gyfansoddir o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22) ar gyfer rhanbarth iechyd porthladd mewn ardal yr effeithir arni gan yr arolwg,
Comisiynydd y Gymraeg
unrhyw gorff sy’n cynrychioli’r staff a gyflogir gan awdurdodau lleol sydd wedi gofyn am ymgynghoriad â hwy; a
unrhyw bersonau eraill a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
Cyn cychwyn y rhaglen arolygon, bydd y Comisiwn yn darparu nifer o sesiynau briffio ar-lein am y broses adolygu y gall unrhyw bartïon â diddordeb fanteisio arnynt. Bydd y sesiynau briffio hyn yn disgrifio arferion a gweithdrefnau’r Comisiwn wrth gynnal arolygon etholiadol.
Ymgynghori ac ymchwilio cychwynnol
Ar ddechrau swyddogol arolwg etholiadol, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi datganiad yn nodi’r dyddiad pan fydd yr arolwg yn cychwyn, fel sy’n ofynnol o dan adran 36B(1) Deddf 2013.
Bydd y Comisiwn hefyd yn cyfathrebu â’r prif gyngor sy’n cael ei adolygu, yr holl gynghorau tref a chymuned yn yr ardal, yr Aelodau Seneddol a’r Aelodau o’r Senedd ar gyfer yr etholaethau lleol a phartïon eraill â buddiant yn ogystal â’r ymgyngoreion gorfodol a restrir uchod i’w hysbysu am yr arolwg ac i wneud cais am safbwyntiau rhagarweiniol ar y materion i’w hystyried yn yr arolwg.
Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi datganiadau i’r wasg ar yr arolwg i hysbysebu’r arolwg i’r cyfryngau.
Bydd y cyfnod ymgynghori cychwynnol, pan all unrhyw un â diddordeb yn yr arolwg gyflwyno safbwyntiau cychwynnol i’r Comisiwn, yn para 6 wythnos.
Cynigion Drafft
Yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori cychwynnol, bydd y Comisiwn yn ystyried y sylwadau y mae wedi eu derbyn ac yn cyhoeddi cynigion drafft ar gyfer ymgynghori. Bydd y Comisiwn yn ysgrifennu at y prif gyngor sy’n cael ei adolygu, yr holl gynghorau cymuned yn yr ardal, yr Aelodau Seneddol a’r Aelodau o’r Senedd ar gyfer yr etholaethau lleol a phartïon eraill â buddiant yn ogystal â’r ymgyngoreion gorfodol i’w hysbysu am y cynigion drafft ac i ofyn am eu safbwyntiau. Bydd y Comisiwn hefyd yn cyhoeddi datganiadau i’r wasg ar y cynigion ac yn darparu deunydd cyhoeddusrwydd y bydd yn gwneud cais i’r prif gyngor a chynghorau tref a chymuned eu dosbarthu mewn mannau priodol, fel llyfrgelloedd cyhoeddus, hysbysfyrddau trefi a chymunedau, gwefannau a chylchlythyrau cyngor ac ati er mwyn codi proffil yr arolwg ac i annog ymgysylltiad cyhoeddus.
Ar ôl cyhoeddi Adroddiad y Cynigion Drafft, bydd cyfnod ymgynghori a fydd yn para 6 wythnos pan ellir cyflwyno sylwadau ar y cynigion drafft i’r Comisiwn.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y Comisiwn yn cynnig sesiwn friffio i swyddogion y prif gyngor sy’n cael ei adolygu i drafod y cynigion drafft a chamau nesaf yr adolygiad.
Ymgynghori Pellach
Yn dilyn cyfnod o ymgynghori ar gynigion drafft y Comisiwn, bydd y Comisiwn yn ystyried sylwadau y mae wedi eu derbyn ac yn paratoi ei argymhellion terfynol. Efallai y bydd argymhellion terfynol y Comisiwn yr un fath â’r cynigion yn Adroddiad Cynigion Drafft y Comisiwn, neu efallai y bydd y Comisiwn yn newid ei gynigion yng ngoleuni’r sylwadau y mae wedi eu derbyn ac yn gwneud argymhellion yn ei adroddiad terfynol sy’n adlewyrchu’r cynigion diwygiedig hynny.
Weithiau, fodd bynnag, ar iddo dderbyn sylwadau, efallai y bydd y Comisiwn yn dymuno cyflwyno newidiadau i drefniadau etholiadol yr ardal sy’n cael ei hadolygu sydd mor wahanol i’r cynigion yn Adroddiad Cynigion Drafft y Comisiwn bod y newidiadau arfaethedig yn gyfystyr â chynigion newydd. Pan fo hyn yn wir, efallai y bydd y Comisiwn yn cynnal ymgynghoriad atodol o ran ei gynigion newydd.
Bydd unrhyw gyfnod ymgynghori atodol yn para 4 wythnos fel rheol. Bydd y Comisiwn yn ysgrifennu at y prif gyngor sy’n cael ei adolygu, yr holl gynghorau cymuned yn yr ardal, yr Aelodau Seneddol a’r Aelodau o’r Senedd ar gyfer yr etholaethau lleol a phartïon eraill â buddiant yn ogystal â’r ymgyngoreion gorfodol i’w hysbysu am y cynigion drafft ac i ofyn am eu safbwyntiau. Bydd y Comisiwn hefyd yn cyhoeddi datganiadau i’r wasg ar y cynigion pellach ac yn darparu deunydd cyhoeddusrwydd y bydd yn gwneud cais i’r prif gyngor a chynghorau tref a chymuned eu dosbarthu mewn mannau priodol, fel llyfrgelloedd cyhoeddus, hysbysfyrddau trefi a chymunedau, gwefannau a chylchlythyrau cyngor ac ati er mwyn codi proffil yr arolwg ac i annog ymgysylltiad cyhoeddus.
Argymhellion Terfynol
Pan fydd y Comisiwn yn barod, bydd yn cyhoeddi ei argymhellion terfynol yn yr arolwg (mewn adroddiad a adnabyddir fel Adroddiad Argymhellion Terfynol) ac yn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Bydd y Comisiwn yn ysgrifennu at y prif gyngor sy’n cael ei adolygu, yr holl gynghorau cymuned yn yr ardal, yr Aelodau Seneddol a’r Aelodau o’r Senedd ar gyfer yr etholaethau lleol a phartïon eraill â buddiant yn ogystal â’r ymgyngoreion gorfodol i’w hysbysu am gyflwyno ei argymhellion i Lywodraeth Cymru. Bydd y Comisiwn hefyd yn cyhoeddi datganiadau i’r wasg ar y cynigion pellach ac yn darparu deunydd cyhoeddusrwydd y bydd yn gwneud cais i’r prif gyngor a chynghorau tref a chymuned eu dosbarthu mewn mannau priodol, fel llyfrgelloedd cyhoeddus, hysbysfyrddau trefi a chymunedau, gwefannau a chylchlythyrau cyngor ac ati.
Ar ôl i’r Comisiwn gyhoeddi ei Adroddiad Argymhellion Terfynol, ni fydd unrhyw gyfle arall i wneud sylwadau i’r Comisiwn.
Cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru wedyn fydd penderfynu sut maent yn dymuno bwrw ymlaen o ran argymhellion y Comisiwn. Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu gweithredu argymhellion y Comisiwn (gydag addasiadau neu hebddynt) byddant yn gwneud hynny trwy wneud Gorchymyn, ar ôl aros am gyfnod o chwe wythnos fel sy’n ofynnol o dan adran 37(3A) Deddf 2013. Yn ystod y cyfnod hwnnw o chwe wythnos, bydd cyfle i unrhyw un â diddordeb wneud sylwadau i Weinidogion Cymru ynghylch y sylwadau.
Materion y bydd y Comisiwn yn eu hystyried yn ystod arolwg etholiadol
Yn nodweddiadol, mae arolygon etholiadol yn cyflwyno amrywiaeth o faterion a heriau sy’n gofyn am ddyfarniad ar gydbwysedd, gan gymryd i ystyriaeth materion, yn ogystal â gofynion statudol, sy’n cynnwys y canlynol:
llywodraeth leol effeithiol a chyfleus;
cydraddoldeb etholiadol (nifer yr etholwyr fesul cynghorydd);
ystyriaethau a allai gyfiawnhau lefelau annodweddiadol o gydraddoldeb etholiadol, fel cysylltiadau cymunedol penodol;
topograffi’r tir, bryniau ac afonydd yn creu ffiniau naturiol a thraffyrdd/rheilffyrdd yn ffurfio ffiniau artiffisial;
ffactorau newidiol (fel amddifadedd, poblogaethau myfyrwyr a thwristiaeth);
gwahaniaethau rhwng ardaloedd gwledig a threfol; a,
ffiniau ardaloedd cymunedol ac unrhyw ffiniau wardiau cymunedol – gan y bydd y Comisiwn yn defnyddio cymunedau a wardiau cymunedol fel y “blociau adeiladu” ar gyfer wardiau etholiadol prif ardaloedd.
Bydd y Comisiwn yn cymryd yr holl ffactorau hyn i ystyriaeth wrth ddylunio cynigion a gwneud argymhellion, ac mae’n gwahodd ymatebwyr i ystyried pob un o’r rhain wrth gyflwyno sylwadau i’r Comisiwn yn ystod adolygiadau etholiadol.
Llywodraeth leol effeithiol a chyfleus
Mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn i argymell trefniadau etholiadol i Weinidogion Cymru sydd wedi’u dylunio i sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i brif gynghorau.
Wrth geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, mae’r Comisiwn, wrth ystyried trefniadau etholiadol posibl, yn ceisio sicrhau bod wardiau etholiadol yn gydlynol yn fewnol. Ym marn y Comisiwn, mae hyn yn golygu bod cysylltiadau ffyrdd rhesymol ar draws y ward etholiadol fel y gellir ei chroesi yn rhwydd, ac y gall yr holl etholwyr yn y ward gymryd rhan ym materion a gweithgareddau pob rhan ohoni heb orfod teithio trwy ward gyfagos. Efallai na fydd hyn yn wir, er enghraifft, os bydd ffin ward etholiadol bosibl yn uno dwy gymuned lle mae nodwedd fel mynydd neu afon yn eu rhannu.
Bydd ffactorau sy’n cynnwys mynediad cyfleus at aelodau etholedig gan yr etholwyr a’r bobl y maent yn eu cynrychioli, patrymau aneddiadau a rhwyddineb cyfathrebu o fewn ardaloedd etholiadol yn cael eu cymryd i ystyriaeth.
Cydraddoldeb etholiadol a Niferoedd Cynghorwyr
Fel y disgrifir uchod, mae’n ofynnol i’r Comisiwn gymryd dymunoldeb cydraddoldeb etholiadol i ystyriaeth pan fydd yn cynnal arolygon etholiadol. Mae cydraddoldeb etholiadol yn cyfeirio at sefyllfa lle mae’r gymhareb etholwyr i aelodau etholedig yr un fath, neu bron yr un fath, ym mhob ward etholiadol yn y brif ardal.
Bydd yr wybodaeth y mae’r Comisiwn yn ei derbyn am nifer yr etholwyr mewn ardal yn caniatáu iddo benderfynu ar ffiniau wardiau, a nifer y cynghorwyr etholedig ar gyfer pob ward, gyda’r nod o sicrhau cydraddoldeb etholiadol. Bydd y Comisiwn yn ceisio sicrhau cymarebau etholiadol ar gyfer wardiau etholiadol sy’n agos at gyfartaledd y cyngor, ond mae’r Comisiwn yn cydnabod serch hynny bod rhyw lefel o anghysondeb yn anochel yn ymarferol.
Polisi’r Comisiwn fydd ceisio sicrhau lefel o anghysondeb nad yw’n fwy nag 20% o gyfartaledd y cyngor ar gyfer unrhyw ward etholiadol. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn bod pob cyngor yn wahanol ac y bydd rhai cynghorau a wardiau etholiadol yn gallu darparu ar gyfer lefel well o gydraddoldeb etholiadol nag eraill. Bydd y Comisiwn yn ceisio darparu’r lefel orau o gydraddoldeb etholiadol o bob ardal sy’n cael ei hadolygu ac yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod. Mae’r Comisiwn o’r farn y gellir cyfiawnhau gwyro o’r gymhareb gyfartalog ar gyfer y cyngor dim ond trwy dystiolaeth eglur o ffactorau cydbwyso eraill, fel cysylltiadau lleol neu ystyriaethau perthnasol eraill.
Mae gan lawer o brif gynghorau wardiau etholiadol trefol a gwledig. Yn achlysurol, mae’r Comisiwn wedi derbyn sylwadau i’r perwyl y dylai fod gan ardaloedd trefol fwy o gynghorwyr yn gymesur nag ardaloedd gwledig gan fod ardaloedd trefol yn cyflwyno materion mwy cymhleth. Mae eraill wedi dadlau y dylai fod gan ardaloedd gwledig fwy o gynghorwyr yn gymesur gan fod poblogaethau gwledig yn fwy gwasgaredig, ac felly’n anoddach eu cysylltu. Nid oes unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth ar gyfer dull o’r fath. Nid yw cynyddu’r defnydd o ddulliau cyfathrebu electronig yn gyffredinol yn gwahaniaethu o gwbl rhwng ardaloedd trefol a gwledig. Fodd bynnag, efallai y bydd eithriadau lle mae nodweddion lleol, gan gynnwys topograffi a’r ffaith fod band eang cyflym iawn ar gael, yn arwain at dderbyniad o anghysondeb penodol mewn cymhareb etholiadol ar gyfer un neu fwy o wardiau etholiadol.
Mae’r Comisiwn wedi comisiynu ymchwil annibynnol ar lwyth gwaith Cynghorwyr Sir yng Nghymru. Mae’r ymchwil yn dangos mai’r effaith fwyaf ar lwyth gwaith cynghorydd yw’r gwahanol gyfrifoldebau cabinet a phwyllgor, ond mae amddifadedd hefyd yn cael effaith fawr ar lwyth gwaith cynghorydd. Mae’r adroddiad ar gael ar wefan y Comisiwn, ac mae’r Comisiwn wedi ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar y dull o ymdrin â’i bolisi maint cynghorau a nodir uchod.
Fel y nodir uchod, mae Deddf 2013 yn cyflwyno gofyniad pellach ar y Comisiwn i gymryd i ystyriaeth “…unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol)”. Mae’r Comisiwn yn dibynnu ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddarparu ffigurau poblogaeth, y gellir asesu’r anghysondeb rhwng nifer yr etholwyr cofrestredig a’r boblogaeth leol ar eu sail. Fodd bynnag, mae’n aml yn wir bod ffigurau poblogaeth a nifer etholwyr yn cael eu cofnodi ar draws ardaloedd lleol ychydig yn wahanol, felly gall yr anghysondeb fod yn destun amcangyfrif bras yn unig. Bydd y Comisiwn yn defnyddio’r ystadegau sydd ar gael yn y ffordd orau bosibl a lle mae’n briodol gwneud hynny.
Nod cyffredinol y Comisiwn yw y dylai cydraddoldeb etholiadol mewn prif ardal wella o ganlyniad i arolwg etholiadol. Bydd hyn yn cael ei hysbysu gan y data a ddarperir gan gynghorau ar etholwyr cyfredol yn ogystal â rhagolygon etholiadol pum mlynedd. Bydd y Comisiwn yn ystyried ac yn ymateb i oblygiadau newidiadau i nifer a dosbarthiad etholwyr a ragwelir. Mae’r Comisiwn yn disgwyl i gynghorau ddarparu amcangyfrifon o newidiadau etholaethol wedi’u hategu gan dystiolaeth briodol. Fodd bynnag, ym mhrofiad y Comisiwn, mae’r ffigurau rhagweledig yn aml yn wahanol iawn i newidiadau gwirioneddol i nifer yr etholwyr sy’n digwydd wedi hynny, a bydd y Comisiwn yn cymryd hyn i ystyriaeth hefyd yn ei broses o wneud penderfyniadau (gweler ymhellach isod).
Wardiau etholiadol aml-aelod
Mae’r Comisiwn o’r farn bod wardiau etholiadol aml-aelod yn fwy tebygol o fod yn effeithiol a chyfleus mewn ardaloedd trefol nag mewn ardaloedd gwledig. Mewn ardaloedd â phoblogaeth ddwysach, fel y gwelir mewn ardaloedd trefol, mae’n bosibl y gallai llawer o’r materion y gellid galw ar gynghorydd i fynd i’r afael â nhw fod yn gyffredinol debyg eu natur ac felly gallent ganiatáu i gynghorwyr lluosog ymdrin â materion tebyg. Mae’r Comisiwn o’r farn y byddai wardiau aml-aelod mewn ardaloedd gwledig yn arwain at ardaloedd daearyddol mawr iawn a fyddai’n achosi problemau i’r etholwyr a’r aelodau etholedig, fel teithio ac amser.
Ffigurau rhagweledig pum mlynedd
Mae’n rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r ffigurau etholaeth rhagweledig pum mlynedd yn rhan o’i ystyriaethau wrth lunio cynigion ac argymhellion. Fel y nodwyd uchod, mae’r Comisiwn yn gofyn am yr amcanestyniadau hyn gan y prif gyngor sy’n cael ei adolygu. Mae’r Comisiwn yn ymwybodol nad yw amcanestyniadau yn wyddor fanwl ac felly er y bydd y Comisiwn yn rhoi sylw i ffigurau amcanestynedig y prif gyngor, bydd y Comisiwn yn neilltuo mwy o bwys i ffigurau etholaeth cyfredol a ddarperir gan y cyngor.
Ffigurau poblogaeth
Bydd y Comisiwn yn rhoi sylw i’r ffigurau poblogaeth a ddarperir iddo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fel y disgrifir uchod. Mae’r Comisiwn yn defnyddio’r amcangyfrifon canol blwyddyn o boblogaeth ar gyfer ardaloedd cenedlaethol a lleol. Mae’r rhain yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad, wedi’u diweddaru gyda gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau a gyhoeddir yn flynyddol. Bydd y Comisiwn yn cyfeirio yn ei ystyriaethau at yr amcangyfrif canol blwyddyn diweddaraf a gyhoeddwyd ar yr adeg pan ddechreuodd yr arolwg etholiadol.
Cymunedau
Gall fod rhywfaint o ddryswch ynghylch yr hyn a olygir gan y gair cymuned. Mae rhai o’r farn ei fod yn cyfeirio at y stryd y maent yn byw arni, eraill at ardal pentref ehangach, eraill at ardaloedd llawer mwy. Mae pob un o’r rhain yn gwbl gywir ac yn adlewyrchu bywydau pobl a’r agweddau gwahanol a thebyg ar leoedd lle’r ydym yn byw, yn gweithio ac yn rhyngweithio. Fodd bynnag, yng Nghymru, ceir ystyr ychwanegol a mwy technegol i’r gair gan fo Cymru gyfan wedi’i rhannu’n ardaloedd cymunedol.
Mae gan lawer o ardaloedd cymunedol gynghorau tref neu gymuned. Lle mae gan ardal gymunedol gyngor cymuned neu dref, yna gellir rhannu’r ardaloedd hyn yn wardiau at ddibenion etholiadol. Mae dros ddwy ran o dair o boblogaeth Cymru wedi’u cwmpasu gan gynghorau tref a chymuned.
Bydd y Comisiwn yn defnyddio cymunedau a wardiau cymunedol fel ei brif “flociau adeiladu” sy’n cyfansoddi wardiau etholiadol.
Mae Deddf 2013 hefyd yn galluogi’r Comisiwn i argymell newidiadau i ffiniau cymunedau a wardiau cymunedol o ganlyniad i newidiadau i ffiniau’r wardiau etholiadol.
Yn unol â hynny, mae gan y Comisiwn hyblygrwydd o ran sut y mae’n defnyddio’r cymunedau a’r wardiau cymunedol presennol fel blociau adeiladu i greu wardiau etholiadol. Fodd bynnag, wrth greu wardiau etholiadol, mae’n rhaid i’r Comisiwn roi ystyriaeth i ddymunoldeb sefydlu ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod ac yn parhau felly, a dymunoldeb peidio â thorri cysylltiadau lleol (ystyrir y gofynion hyn yn fwy manwl isod). Bydd y Comisiwn yn sicrhau bod cynigion ar gyfer newidiadau sylweddol i ffiniau wardiau etholiadol ac ar gyfer newidiadau canlyniadol i ffiniau cymunedau a wardiau cymunedol yn destun ymgynghoriad (naill ai mewn adroddiad cynigion drafft neu mewn ymgynghoriad atodol) cyn cael eu cynnwys mewn Adroddiad Argymhellion Terfynol. Bydd y Comisiwn yn croesawu yn arbennig sylwadau yn ymwneud â chynigion ar gyfer newidiadau i ffiniau a gefnogir gan dystiolaeth eglur a pherthnasol.
Ffiniau y gellir eu hadnabod yn rhwydd
Yn gyffredinol, bydd y Comisiwn yn defnyddio ardaloedd cymunedol, a lle maent yn bodoli, wardiau cymunedol fel y prif flociau adeiladu ar gyfer wardiau etholiadol. Mae hyn i bob pwrpas yn golygu bod ffiniau unrhyw wardiau etholiadol arfaethedig fel rheol yn cael eu ffurfio o ffiniau ardaloedd llywodraeth leol presennol ac felly dylai fod yn hawdd eu hadnabod. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar ffiniau cymunedau a ffiniau wardiau cymunedol yn cael eu hadolygu yn rheolaidd gan y prif gyngor i gymryd datblygiadau newydd sy’n croesi ffiniau presennol i ystyriaeth.
Yn achlysurol yn ystod arolwg etholiadol, gallai’r Comisiwn nodi newidiadau sydd wedi digwydd mewn ardal leol a allai awgrymu y dylid newid ffiniau wardiau etholiadol, o dan amgylchiadau lle nad yw’r newidiadau hynny yn yr ardal wedi cael eu hadlewyrchu eto mewn newidiadau i gymunedau neu wardiau cymunedol. Er enghraifft, gallai fod yn wir bod datblygiad tai newydd mawr wedi cael ei greu ar draws ffiniau ward etholiadol a chymunedol presennol. Yn y sefyllfaoedd hyn, efallai y bydd y Comisiwn yn ystyried yn ystod arolwg etholiadol pa un a ddylid newid ffiniau’r ward etholiadol fel y gellir eu hadnabod yn haws yng ngoleuni’r newidiadau i’r ardal. Os bydd y Comisiwn o’r farn y dylid newid ffiniau wardiau etholiadol fel hyn, gallai hefyd ystyried a ddylid gwneud newidiadau canlyniadol i ffiniau cymuned neu ward gymunedol am yr un rhesymau neu resymau cysylltiedig.
Pan fo newidiadau i ffiniau cymunedau neu wardiau cymunedol yn cael eu hystyried o ganlyniad i newidiadau a gynigiwyd i ffiniau ward etholiadol, bydd y Comisiwn yn ceisio sicrhau y gellir adnabod y ffiniau newydd hyn yn rhwydd yn yr un ffordd.
Yn fwy cyffredinol, gall ffyrdd ddylanwadu ar y ffiniau rhwng wardiau etholiadol neu gymunedau, er enghraifft os ydynt yn lleoliad ar gyfer siopau neu gyfleusterau cymunedol y mae pobl yn ymweld â nhw yn rheolaidd a lle maent yn rhyngweithio, neu os ydynt yn ffynhonnell o ryngweithio cymunedol, er enghraifft o ran ystyriaethau diogelwch, amgylcheddol neu economaidd. Fel arall, mae priffyrdd mawr, afonydd neu linellau rheilffordd yn aml yn rhwystrau ffisegol sy’n nodi’r ffin rhwng gwahanol gymunedau. Bydd y Comisiwn yn cymryd elfennau daearyddol fel y rhain i ystyriaeth wrth geisio penderfynu ar ffiniau y gellir eu hadnabod rhwng unedau etholiadol.
Cysylltiadau lleol
Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw gysylltiadau lleol a fyddai’n cael eu torri gan newidiadau i drefniadau etholiadol. Gallai hyn fod yn arbennig o berthnasol pan fo cynigion yn cael eu gwneud ar gyfer trefniadau newydd sy’n rhannu wardiau etholiadol presennol. Fodd bynnag, cymaint yw cymhlethdod y term “cysylltiadau lleol” y gallai pobl ystyried fod gan eu hardal gysylltiadau â nifer o ardaloedd eraill. Gall hefyd fod yn wir y gallai’r rhai sy’n rhannu buddiant mewn cynnal a chadw a rheolaeth ffisegol eu hamgylchedd byw uniongyrchol fod o’r farn bod eu cysylltiadau lleol o fewn ffiniau gweddol gyfyngedig.
Fodd bynnag, gallai’r Comisiwn dderbyn sylwadau hefyd gan y rhai a allai fod â buddiant yn y ffordd y mae eu hysbyty cyffredinol neu eu hysgol uwchradd yn darparu gwasanaethu neu ym mharhad cyflogwr graddfa fawr, ac felly cysylltu eu hunain fel rhan o gymuned lawer ehangach hefyd. Mae hyn yn aml yn arwain at awgrymiadau o gysylltiadau lleol rhwng sawl ardal gymunedol (pa un a oes ganddynt gyngor cymuned neu dref ai peidio) a gall arwain yn aml at wrthwynebiad dwys i rannu’r ardaloedd hynny yn 2 (neu fwy) o wardiau etholiadol pan roeddent wedi’u cynnwys o fewn 1 yn flaenorol.
Gallai enghraifft arall o gysylltiadau lleol olygu bod ardal yn adnabod ei hun fel ardal Cymraeg ei hiaith. Mae’r Comisiwn yn cymryd nodweddion iaith Gymraeg ardal i ystyriaeth wrth gynnal adolygiad etholiadol, ac mae ganddo ddyletswydd gyffredinol i hybu’r defnydd o’r Gymraeg. Bydd y Comisiwn yn defnyddio data cyfrifiad i geisio sicrhau nad yw’n gwneud cynigion a fyddai’n tanseilio’r defnydd o’r Gymraeg.
Yn aml, mae’r Comisiwn yn clywed dim ond gan ymatebwyr sy’n gwrthwynebu ei gynigion ar y sail y byddent yn torri cysylltiadau lleol. Mae’r Comisiwn hefyd yn gofyn i ymatebwyr ei hysbysu pan fo ei gynigion yn adlewyrchu cysylltiadau lleol, fel y gellir cymryd unrhyw gefnogaeth i gynigion y Comisiwn i ystyriaeth pan fydd y Comisiwn yn penderfynu a ddylai adlewyrchu ei gynigion yn ei argymhellion terfynol.
Mewn llawer o ardaloedd, bydd angen i wardiau etholiadau fod yn fwy o ran rhychwant ffisegol na chymunedau unigol oherwydd ystyriaethau cydraddoldeb etholiadol. Yn yr achosion hyn, bydd y Comisiwn yn cyfuno 2 neu fwy o gymunedau mewn wardiau etholiadol unigol.
Enwau wardiau etholiadol
Yn rhan o arolwg etholiadol, mae’r Comisiwn yn ystyried enwau wardiau etholiadol yn yr ardal sy’n cael ei hadolygu. Arfer cyffredinol y Comisiwn fydd argymell newidiadau i enw ward etholiadol os yw o’r farn y gellir gwella’r enw, pa un a yw’r Comisiwn hefyd yn argymell newidiadau i drefniadau etholiadol eraill sy’n effeithio’r ward honno ai peidio.
Yng ngoleuni dyletswydd y Comisiwn i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg, ffafriaeth gyffredinol y Comisiwn fydd i wardiau etholiadol fod ag un enw yn y Gymraeg sy’n dderbyniol i’w ddefnyddio yn y Saesneg.
Bydd y Comisiwn yn ystyried enw Cymraeg yn dderbyniol i’w ddefnyddio yn y Saesneg os yw’r farn bod yr enw yn debygol o fod yn adnabyddadwy i drigolion yr un ardal eang o Gymru nad Cymraeg yw eu prif iaith. Gallai hyn fod oherwydd (er enghraifft) bod yr enw wedi’i gyfansoddi o enw lle sydd yr un fath neu’n debyg yn y Gymraeg a’r Saesneg neu oherwydd bod enw’r lle yn y Gymraeg yn arbennig o adnabyddus yn yr ardal.
Os yw’r enw Cymraeg wedi’i gyfansoddi o fwy nag 1 gair, bydd y Comisiwn yn ystyried bod yr enw hwnnw yn dderbyniol i’w ddefnyddio yn y Saesneg dim ond os yw pob gair o’r enw yn debygol o fod yn adnabyddadwy yn y ffordd hon. Yn unol â hynny:
os yw’r enw Cymraeg yn ymgorffori 1 neu fwy o enwau lleoedd sy’n debygol o fod yn adnabyddadwy yn y ffordd hon yn ogystal ag enw lle nad yw hynny’n debygol o fod yn wir amdano, ni fydd y Comisiwn yn ystyried bod yr enw hwnnw yn dderbyniol i’w ddefnyddio yn y Saesneg;
os yw’r enw Cymraeg yn ymgorffori geiriau nad ydynt yn enwau lleoedd (er enghraifft, dynodiad daearyddol fel “gogledd”, “de” neu “canolbarth”) ni fydd y Comisiwn fel rheol yn ystyried bod yr enw hwnnw yn dderbyniol i’w ddefnyddio yn y Saesneg;
fodd bynnag, os yw’r enw Cymraeg wedi’i gyfansoddi dim ond o enwau lleoedd sy’n debygol o fod yn adnabyddadwy yn y ffordd hon ynghyd â gair Cymraeg sy’n golygu “and”, bydd y Comisiwn yn ystyried bod yr enw hwnnw yn dderbyniol i’w ddefnyddio yn y Saesneg.
Bydd y Comisiwn hefyd yn cynnig enwau sydd â’r nod o osgoi’r angen am dreigladau yn y Gymraeg er mwyn gwneud enwau yn fwy adnabyddadwy.
Os nad yw’r Comisiwn yn gallu nodi enw unigol priodol yn y Gymraeg sy’n dderbyniol i’w ddefnyddio yn y Saesneg o ran ward etholiadol, bydd y Comisiwn yn cynnig enwau eraill ar gyfer y ward honno yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd y Comisiwn yn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar enwau’r wardiau etholiadol yn yr ardal sy’n destun arolwg etholiadol. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol am gynghori ar ffurfiau safonol enwau lleoedd yng Nghymru. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cynnull Panel Safoni Enwau Lleoedd i ddarparu argymhellion a chyngor arbenigol yn y maes hwn. Wrth lunio ei argymhellion, mae’r Panel yn dilyn canllawiau safoni cenedlaethol a hefyd yn rhoi ystyriaeth i ystyr, hanes a tharddiad enwau’r lleoedd, yn ogystal â’u defnydd. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno i ddarparu cyngor arbenigol i’r Comisiwn ar sut y dylid sillafu enwau wardiau etholiadol mewn cyd-destunau swyddogol.
Mae’r Comisiwn yn croesawu awgrymiadau o enwau wardiau etholiadol ar bob cam o arolwg etholiadol.
Sylwadau
Mae’r Comisiwn yn annog prif gynghorau, cynghorau tref a chymuned, aelodau etholedig, partïon â buddiant a’r cyhoedd i wneud sylwadau ac awgrymiadau yn rhan o broses arolygon etholiadol. Mae’r Comisiwn yn croesawu sylwadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a ffeithiau sy’n berthnasol i’r trefniadau etholiadol sy’n cael eu hystyried. Bydd y Comisiwn yn ystyried ac yn cydnabod pob sylw sy’n cael ei wneud. Os bydd unrhyw unigolyn neu gorff yn gwneud sylw i’r Comisiwn a ddim yn derbyn cydnabyddiaeth, dylai gysylltu â’r Comisiwn i sicrhau ei fod wedi derbyn y sylw. Os na chydnabyddir eich sylw, yna mae’n hynod debygol nad yw’r Comisiwn wedi derbyn y sylw ac na fydd yn cael ei ystyried yn ystod ystyriaethau’r Comisiwn. Os nad ydych wedi derbyn cydnabyddiaeth mewn ymateb i’r sylwadau, cysylltwch â’r Comisiwn.
Bydd yr holl sylwadau y mae’r Comisiwn yn eu derbyn yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Comisiwn ochr yn ochr ag Adroddiadau Cynigion Drafft ac Argymhellion Terfynol y Comisiwn. I ddiogelu preifatrwydd unigolion sy’n cymryd rhan yn yr arolygon, bydd y Comisiwn yn mabwysiadu’r dull canlynol o hepgor unrhyw wybodaeth bersonol sydd yn y sylwadau ysgrifenedig a gyhoeddir gan y Comisiwn.
Sylwadau gan ffigyrau cyhoeddus a swyddogion (megis cynghorwyr, Aelodau Seneddol neu Aelodau’r Senedd) sy’n gweithredu yn rhinwedd eu swydd:
bydd y Comisiwn yn cyhoeddi enw unrhyw ffigwr cyhoeddus neu swyddog sy’n ysgrifennu yn rhinwedd ei swydd
fodd bynnag, bydd pob cyfeiriad post ac ebost, rhif ffôn a llofnod yn cael eu hepgor.
Sylwadau gan aelodau’r cyhoedd a gan ffigyrau cyhoeddus neu swyddogion sy’n ysgrifennu i fynegi eu safbwyntiau personol:
bydd y Comisiwn yn hepgor enw a chyfeiriad post unigolion sy’n cyflwyno sylwadau, ond bydd yn cyhoeddi lleoliad bras cyfeiriad post yr unigolyn – hynny yw, drwy gyfeirio at y pentref, y dref neu’r ddinas a nodwyd
bydd pob cyfeiriad ebost, rhif ffôn a llofnod yn cael eu hepgor.
Bydd y Comisiwn hefyd yn hepgor unrhyw beth mewn sylw a allai fod yn anghyfreithlon, yn enllibus, neu’n anghyfreithlon ac yn enllibus.
Hoffai’r Comisiwn annog sylwadau gan y rhai â gwybodaeth leol am eu hardal i awgrymu trefniadau etholiadol priodol i’r Comisiwn pan fydd adolygiad yn cael ei gynnal. Bydd y Comisiwn yn derbyn sylwadau drwy e-bost, llythyr neu drwy ei borth ymgynghori. Bydd yr holl fanylion cyfathrebu yn cael eu darparu ar ddechrau adolygiad.
Casgliad
Mae arolwg etholiadol yn arferiad o gyfrifoldeb statudol y Comisiwn, y defnydd o bwerau a roddwyd i’r Comisiwn, a’r defnydd o grebwyll y mae’r ddeddfwriaeth yn galw amdano. Ni fwriedir i bolisïau’r Comisiwn roi hyder o ran sut y bydd yn mynd i’r afael â’r heriau mewn unrhyw arolwg, ond nid ydynt yn atal taro’r cydbwysedd cywir o dan amgylchiadau penodol y cymunedau a’r prif gyngor sy’n cael eu hadolygu. Mae’r Comisiwn yn arfer dyfarniad cyfunol o ran penderfynu ar faterion yn ei arolygon a bydd yr ystyriaeth a roddwyd i’r materion a’r rhesymeg a fabwysiadwyd yn cael ei esbonio yn adroddiadau’r Comisiwn.
Mai 2025
Gallwch agor PDF o'r ddogfen hon, ynghyd â'r atodiadau, isod.
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 615.37 KB