Dod o hyd i'ch etholaeth Senedd

Mae etholiad nesaf y Senedd yn digwydd ar 7 Mai 2026.

Bydd 16 ardal pleidleisio yn yr etholiad. Gelwir y rhain yn etholaethau.

Bydd 6 Aelod o'r Senedd yn cael eu hethol ymhob etholaeth.

Crëwyd yr etholaethau newydd yn dilyn arolwg gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Gallwch ddod o hyd i Benderfyniadau Terfynol y Comisiwn, a benderfynodd ar yr etholaethau hyn, ar y wefan yma.

I greu'r 16 etholaeth, roedd yn rhaid i'r Comisiwn gyfuno 32 etholaeth seneddol y DU yng Nghymru yn barau.

Map o'r holl etholaethau

Dyma enwau'r 16 etholaeth:

  1. Bangor Conwy Môn
  2. Clwyd
  3. Fflint Wrecsam
  4. Gwynedd Maldwyn
  5. Ceredigion Penfro
  6. Sir Gaerfyrddin
  7. Gŵyr Abertawe
  8. Brycheiniog Tawe Nedd
  9. Afan Ogwr Rhondda
  10. Pontypridd Cynon Merthyr
  11. Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
  12. Sir Fynwy Torfaen
  13. Casnewydd Islwyn
  14. Caerdydd Penarth
  15. Caerdydd Ffynnon Taf
  16. Pen-y-bont Bro Morgannwg

Map rhyngweithiol

Mae'r Senedd wedi cynhyrchu map rhyngweithiol defnyddiol lle gallwch gymharu'r etholaethau hen a newydd, a dod o hyd i'ch etholaeth eich hun drwy chwilio gyda'ch cod post.

Newidiadau eraill yn yr etholiad hwn

Mae'r system bleidleisio a nifer yr Aelodau o'r Senedd hefyd yn newid yn etholiad 2026. Gallwch ddysgu mwy am y newidiadau ar wefan y Senedd.

Dysgwch fwy

Mae Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru yn datblygu bwrwpleidlais.cymru, gwefan a fydd yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn yr etholiad. Bydd bwrwpleidlais.cymru yn cael ei lansio ym mis Mawrth 2026.

Mae rhagor o wybodaeth am etholiad y Senedd hefyd ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.