Arolwg 2026: Penderfyniadau Terfynol

Mae’r Comisiwn wedi cyflwyno ei Benderfyniadau Terfynol ar gyfer 16 o etholaethau Senedd newydd Cymru i Weinidogion Cymru.
Bydd y penderfyniadau hyn yn dod i rym yn awtomatig yn etholiad y Senedd 2026.
Penderfyniadau Terfynol
- Cliciwch yma i weld yr adroddiad llawn
- Mae nifer o ffeiliau sy'n ymwneud â'r penderfyniadau hyn ar gael i'w lawrlwytho ar waelod y dudalen hon.
Hawdd ei Ddarllen
Rydym wedi gwneud fersiwn hawdd ei darllen o’r adroddiad hwn.
Gallwch ddarllen y fersiwn hawdd ei ddarllen trwy glicio yma.
Mae'r Adroddiad Penderfyniadau Terfynol llawn ar gael fel PDF ar waelod y dudalen hon. Isod, gallwch ddod o hyd i'r Penderfyniadau Terfynol yn fanwl.
Rhagair
Ar 3 Medi 2024, cyhoeddodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ei gynigion cychwynnol a dechreuodd broses ymgynghori ar y cynigion hynny. Cafodd y Comisiwn 3,741 o gynrychiolaethau ynglŷn â’i gynigion cychwynnol. Mae’r Comisiwn yn ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd. O ganlyniad, cyhoeddodd y Comisiwn ei gynigion diwygiedig ar 17 Rhagfyr 2024. Cynigiodd newidiadau i 2 o’r 16 o etholaethau arfaethedig. Yn ogystal, cynigiodd enwau gwahanol ar gyfer 14 o etholaethau. Gwahoddwyd y cyhoedd, grwpiau a sefydliadau i gyflwyno cynrychiolaethau ynglŷn â’r cynigion diwygiedig yn ystod y cyfnod ymgynghori diwygiedig a gynhaliwyd o 17 Rhagfyr 2024 tan 13 Ionawr 2025. Edrychodd y Comisiwn yn ofalus ar y 365 o gynrychiolaethau a gafodd yn ystod y cyfnod ymgynghori diwygiedig i weld a ellid diwygio a gwella’r cynigion diwygiedig. Fodd bynnag, bu’n rhaid i’r Comisiwn gydbwyso’r materion a godwyd mewn cynrychiolaethau â’r holl ffactorau eraill y mae’n rhaid iddo eu hystyried, yn ogystal â’r cyfyngiadau a amlinellir yn y ddeddfwriaeth.
Bu’n rhaid cynnal yr arolwg o etholaethau yn unol â darpariaethau’r statud perthnasol, sef Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (y Ddeddf). Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd rhaid i benderfyniadau terfynol y Comisiwn ddychwelyd 16 o etholaethau’r Senedd a ffurfir trwy gyfuno 2 etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig sy’n cydffinio â’i gilydd. Cynrychiolir pob etholaeth gan 6 aelod, gan roi cyfanswm o 96 o aelodau’r Senedd. Mae’n rhaid cwblhau’r arolwg erbyn 1 Ebrill 2025. Bydd penderfyniadau’r Comisiwn yn cael eu gweithredu trwy’r rheol ‘awtomatigrwydd’. Fel y cyfryw, ni fydd angen i’r penderfyniadau gael eu cymeradwyo gan y Senedd. Mae’n rhaid i’r penderfyniadau terfynol gael eu gweithredu fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn.
Wrth ddatblygu ei benderfyniadau terfynol, mae’r Comisiwn wedi rhoi sylw i’r ffactorau statudol y caiff eu hystyried. Lle y bo’n bosibl, mae’r Comisiwn wedi ystyried ffiniau llywodraeth leol presennol; mae wedi ceisio osgoi neu leihau torri cysylltiadau lleol, ac, ar adegau, mae’r Comisiwn wedi rhoi sylw i ystyriaethau daearyddol arbennig.
Yn olaf, yn bersonol, hoffwn ddiolch i’r Comisiynwyr – Dianne Bevan, Frank Cuthbert, Michael Imperato, Karen Jones, Ginger Weigand a Bethan Williams Price – am eu cyfraniadau amhrisiadwy, yn ogystal â’r Prif Weithredwr a swyddogion eraill y Comisiwn am eu cymorth â’n gwaith.

Beverley Smith
Cadeirydd
Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
Y cynigion terfynol yn fanwl


Bangor Conwy Môn
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Bangor Aberconwy,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Ynys Môn.
Cafodd y Comisiwn 7 cynrychiolaeth ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Bangor Aberconwy ac Ynys Môn. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 6 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn, cynigiwyd 1 trefniant amgen i baru Ynys Môn â Dwyfor Meirionnydd.
Cafodd y Comisiwn 3 cynrychiolaeth ynglŷn â’r enw Bangor Conwy Môn. O’r rhain, roedd 2 o blaid ac 1 yn erbyn. Yr enw amgen a gynigiwyd oedd Aberconwy Môn Menai.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Bangor Aberconwy ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Ynys Môn fel pâr. Mae gan etholaeth Ynys Môn gysylltiadau ffyrdd â’r tir mawr trwy etholaeth Bangor Aberconwy yn unig. Mae’r Ddeddf yn datgan bod rhaid i’r Comisiwn greu etholaethau sy’n gyffiniol. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau cyfathrebu a theithio clir yn rhan hanfodol o allu darparu ar gyfer cynrychiolaeth effeithiol a chyfleus. Mae’r Comisiwn yn cydnabod bod cysylltiadau ieithyddol, diwylliannol a hanesyddol cryfach rhwng etholaethau Dwyfor Meirionnydd ac Ynys Môn a nifer y cynrychiolaethau sy’n cefnogi paru’r 2 ardal hyn a gafwyd drwy gydol yr arolwg. Fodd bynnag, mae’r diffyg cysylltiadau ffyrdd a thrafnidiaeth uniongyrchol, a amlinellir yn y ddeddfwriaeth, yn cyfyngu ar yr opsiynau sydd ar gael i baru etholaeth Ynys Môn ag unrhyw etholaeth arall. Mae’r Comisiwn yn ystyried ei bod yn briodol cyfuno’r ardaloedd o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth arfaethedig. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad yn creu etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Bangor Conwy Môn ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu ar yr enw gan fod y tri gair sy’n cynrychioli’r ardaloedd sydd wedi’u cynnwys yn yr etholaeth newydd yn adnabyddadwy. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi’r enw dynodedig.

Clwyd
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Clwyd,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gogledd Clwyd.
Cafodd y Comisiwn 4 cynrychiolaeth ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Clwyd a Gogledd Clwyd. O’r rhain, roedd 2 o blaid a 2 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn, cynigiodd 2 ddewis amgen i baru Dwyrain Clwyd ag Alun a Glannau Dyfrdwy.
Cafodd y Comisiwn 3 cynrychiolaeth ynglŷn â’r enw Clwyd. O’r rhain, roedd 2 o blaid ac 1 yn erbyn. Yr enw amgen a gynigiwyd oedd Bryniau Clwyd a’r Glannau.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Clwyd ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gogledd Clwyd fel pâr. O ganlyniad i etholaeth newydd Bangor Conwy Môn, yr unig etholaeth arall sy’n rhannu ffin ag etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gogledd Clwyd yw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Clwyd. Mae’r Ddeddf yn datgan bod rhaid i’r Comisiwn gyfuno etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig sy’n gyffiniol. Mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad yn briodol o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth newydd, sy’n rhan bwysig o allu darparu ar gyfer cynrychiolaeth effeithiol a chyfleus, ym marn y Comisiwn. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad newydd yn creu etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Clwyd ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr yr un rhanbarth eang o Gymru gan ei fod yn enw a ddefnyddir yn gyffredin ac sydd wedi’i hen sefydlu ar gyfer y rhanbarth. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi’r enw dynodedig.

Fflint Wrecsam
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Alun a Glannau Dyfrdwy,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Wrecsam.
Cafodd y Comisiwn 6 chynrychiolaeth ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Alun a Glannau Dyfrdwy a Wrecsam. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 5 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn, cynigiwyd 2 drefniant amgen i baru Alun a Glannau Dyfrdwy â Dwyrain Clwyd a pharu Wrecsam â Sir Drefaldwyn a Glyndŵr.
Cafodd y Comisiwn 10 cynrychiolaeth ynglŷn â’r enw Fflint Wrecsam. O’r rhain, roedd 2 o blaid ac 8 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Dwyrain Sir y Fflint a Wrecsam, Wrecsam Dyfrdwy, neu ffurfiau unigol Alun neu Wrecsam.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Alun a Glannau Dyfrdwy ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Wrecsam fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y byddai cynnig amgen i baru etholaethau Seneddol presennol y Deyrnas Unedig Wrecsam a Sir Drefaldwyn a Glyndŵr yn aduno dinas gyfan Wrecsam o fewn un etholaeth. Fodd bynnag, o ganlyniad i etholaeth newydd Clwyd, yr unig etholaeth Seneddol arall y Deyrnas Unedig sy’n rhannu ffin ag etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Alun a Glannau Dyfrdwy yw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Wrecsam. Mae’r Comisiwn yn ystyried bod cysylltiadau cyfathrebu a theithio clir yn rhan bwysig o allu darparu ar gyfer cynrychiolaeth effeithiol a chyfleus, ac mae’r Comisiwn o’r farn bod yr ardaloedd hyn wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd trwy gysylltiadau trafnidiaeth, a’u bod o gymeriad tebyg. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad newydd yn creu etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Fflint Wrecsam ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn adlewyrchu enwau’r awdurdodau lleol o fewn yr etholaeth newydd, a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr yr un rhanbarth eang o Gymru nad yw’r Gymraeg yn brif iaith iddynt. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi’r enw dynodedig.

Gwynedd Maldwyn
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyfor Meirionnydd,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Sir Drefaldwyn a Glyndŵr.
Cafodd y Comisiwn 15 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyfor Meirionnydd a Sir Drefaldwyn a Glyndŵr. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 14 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn, cynigiodd 13 drefniadau amgen, gan gynnwys paru Dwyfor Meirionnydd ag naill ai Ceredigion Preseli, Bangor Aberconwy neu Ynys Môn a pharu Sir Drefaldwyn a Glyndŵr ag naill ai Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe neu Wrecsam.
Cafodd y Comisiwn 3 cynrychiolaeth ynglŷn â’r enw Gwynedd Maldwyn. Roedd pob un o’r rhain o’i blaid. Ni chynigiwyd unrhyw enwau amgen.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyfor Meirionnydd ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Sir Drefaldwyn a Glyndŵr fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau a dderbyniwyd o blaid paru Dwyfor Meirionnydd ag Ynys Môn ar sail cysylltiadau ieithyddol, diwylliannol a hanesyddol, yn ogystal â’r cynrychiolaethau a wnaed i aduno Wrecsam yn un etholaeth trwy baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Sir Drefaldwyn a Glyndŵr a Wrecsam. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd rhesymol rhwng ardaloedd yr etholaeth newydd, fel rhwng Machynlleth a Dolgellau. Er nad yw’r Comisiwn o’r farn bod etholaeth mor fawr yn ddelfrydol, dyma’r opsiwn gorau o ran cynnig cyfuniad cyffiniol o 2 etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig yn yr ardal o ganlyniad i etholaeth newydd Bangor Conwy Môn.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Gwynedd Maldwyn ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys enw 1 o’r awdurdodau lleol o fewn yr etholaeth newydd a Maldwyn yw enw Cymraeg hanesyddol Trefaldwyn. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi’r enw dynodedig.

Ceredigion Penfro
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Ceredigion Preseli,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Canol a De Sir Benfro.
Cafodd y Comisiwn 7 cynrychiolaeth ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Ceredigion Penfro a Chanol a De Sir Benfro. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 6 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn, cynigiodd 4 drefniadau amgen, gan gynnwys paru Ceredigion Preseli ag naill ai Dwyfor Meirionnydd neu Sir Drefaldwyn Glyndŵr a pharu Canol a De Sir Benfro â Chaerfyrddin.
Cafodd y Comisiwn 5 cynrychiolaeth ynglŷn â’r enw Ceredigion Penfro. O’r rhain, roedd 3 o blaid a 2 yn erbyn. Cynigiwyd yr enw amgen Ceredigion Sir Benfro, a defnyddio Pembrokeshire neu Pembroke ac nid Penfro.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Ceredigion Preseli ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Canol a De Sir Benfro fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau a wnaed i baru Ceredigion Preseli â Dwyfor Meirionnydd. Fodd bynnag, mae’r unig gysylltiad ffordd uniongyrchol o Geredigion i Ddwyfor Meirionnydd yn mynd trwy wardiau Machynlleth a Glantwymyn, sy’n rhan o etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, nad yw’n ddymunol ym marn y Comisiwn. Yn ogystal, cafodd y Comisiwn gynrychiolaethau a awgrymodd baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Canol a De Sir Benfro â Chaerfyrddin. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn bod ei etholaeth newydd, sy’n cadw ardal gyfan Cyngor Sir Caerfyrddin o fewn un etholaeth y Senedd trwy baru Caerfyrddin a Llanelli, yn fwy dymunol. Mae’r Comisiwn yn nodi y byddai’r etholaeth newydd yn cyfuno ardaloedd cyfan prif gynghorau Ceredigion a Sir Benfro yn 1 etholaeth, sydd â chysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal ac sydd felly’n etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Ceredigion Penfro ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn adlewyrchu’r awdurdodau lleol sydd wedi’u cynnwys yn yr etholaeth newydd a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi’r enw dynodedig.

Sir Gaerfyrddin
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Caerfyrddin,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Llanelli.
Cafodd y Comisiwn 7 cynrychiolaeth ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Caerfyrddin a Llanelli. O’r rhain, roedd 3 o blaid a 4 yn erbyn. Cynigiodd y cynrychiolaethau gwrthwynebol drefniadau amgen a oedd yn paru Caerfyrddin â Chanol a De Sir Benfro ac yn paru Llanelli â Gŵyr.
Cafodd y Comisiwn 8 cynrychiolaeth ynglŷn ag enw’r cynnig diwygiedig, sef Sir Gâr. O’r rhain, roedd 3 o blaid a 5 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Sir Gaerfyrddin, a, Llanelli a Chaerfyrddin.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Caerfyrddin ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Llanelli fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau o blaid paru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Llanelli a Gŵyr, i ganiatáu ar gyfer paru Castell-nedd a Dwyrain Abertawe â Gorllewin Abertawe er mwyn cyfuno ardaloedd Abertawe o fewn un etholaeth y Senedd. Fodd bynnag, byddai etholaeth newydd y Comisiwn yn cyfuno ardal gyfan prif gyngor Sir Gaerfyrddin yn un etholaeth. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol cyfuno’r ardaloedd o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth da a’r cysylltiadau cyfathrebu sefydledig o fewn yr etholaeth newydd. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad newydd yn creu etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Sir Gaerfyrddin ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn yn cydnabod bod yr enw’n mynd yn groes i Bolisi Enwi’r Comisiwn trwy gynnwys ffurf dreigledig o enw’r Sir. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn bod yr enw’n adnabyddadwy ac y byddai’n helpu etholwyr i wahaniaethu rhwng enw’r cyngor sir, sef Sir Gâr, ac enw etholaeth y Senedd. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw dynodedig.

Gŵyr Abertawe
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gŵyr,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Abertawe.
Cafodd y Comisiwn 6 chynrychiolaeth ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Gŵyr a Gorllewin Abertawe. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 5 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn, cynigiodd 5 drefniadau amgen yn cynnwys paru Gŵyr â Llanelli a pharu Gorllewin Abertawe â Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe.
Cafodd y Comisiwn 5 cynrychiolaeth ynglŷn ag enw’r cynnig diwygiedig, sef Gorllewin Abertawe Gŵyr. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 4 yn erbyn. Mae’r enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Gŵyr Tawe, a Gŵyr Abertawe.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gŵyr ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Abertawe fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau a wnaed i baru Gŵyr a Llanelli i allu paru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Abertawe â Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe er mwyn uno mwyafrif Dinas a Sir Abertawe o fewn un etholaeth y Senedd. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol cyfuno’r ardaloedd fel yr amlinellir uchod o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth newydd yn ogystal â chaniatáu i’r Comisiwn greu etholaeth sy’n uno ardal gyfan prif gyngor Sir Gaerfyrddin o fewn 1 etholaeth y Senedd. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad newydd yn creu etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Gŵyr Abertawe ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn adlewyrchu’r ardaloedd sydd wedi’u cynnwys yn yr etholaeth newydd a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr yr un rhanbarth eang o Gymru nad yw’r Gymraeg yn brif iaith iddynt. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw dynodedig.
Hoffai’r Comisiwn amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021, y bydd wardiau etholiadol Clydach a’r Glannau yn cael eu rhannu rhwng yr etholaeth hon ac etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd.

Brycheiniog Tawe Nedd
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Castell-nedd a Dwyrain Abertawe.
Cafodd y Comisiwn 27 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe a Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe. O’r rhain, roedd 2 o blaid a 25 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn, cynigiodd 15 drefniadau amgen gan gynnwys paru Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe ag naill ai etholaethau Blaenau Gwent a Rhymni, Caerfyrddin, Sir Fynwy, Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, Ceredigion Preseli neu Ferthyr Tudful ac Aberdâr. Roedd y cynigion amgen hefyd yn cynnwys cyfuno Castell-nedd a Dwyrain Abertawe ag naill ai Gorllewin Abertawe, neu Aberafan Maesteg.
Cafodd y Comisiwn 10 cynrychiolaeth ynglŷn â’i gynnig diwygiedig i enwi’r etholaeth hon yn Dde Powys Tawe Nedd. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 9 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Brycheiniog Tawe Nedd, a Phowys Nedd.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Castell-nedd a Dwyrain Abertawe fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau o blaid parau amgen yn yr ardal hon, ond byddai’r rhain i gyd yn cael effeithiau cynyddol ar barau eraill ar draws yr ardal amgylchynol, gan felly greu set lai dymunol o etholaethau yn gyffredinol. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y ddwy etholaeth ac y byddai’r pâr yn uno ardaloedd sy’n ffurfio rhan o ardal prif gyngor Castell-nedd Port Talbot yn un etholaeth, gan ychwanegu at y cysylltiadau sefydledig sy’n bodoli. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad yn creu etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Brycheiniog Tawe Nedd ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn adlewyrchu’r ardaloedd sydd wedi’u cynnwys yn yr etholaeth newydd. Defnyddir Brycheiniog yn rhan o’r enw unigol ar gyfer Parc Cenedlaethol yr ardal ac mae’n debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr yr un rhanbarth eang o Gymru nad yw’r Gymraeg yn brif iaith iddynt. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw dynodedig.
Hoffai’r Comisiwn amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021, y bydd wardiau etholiadol Clydach a’r Glannau yn cael eu rhannu rhwng yr etholaeth hon ac etholaeth Gŵyr Abertawe.
Hoffai’r Comisiwn hefyd amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021, y bydd ward etholiadol Cimla a Phelenna yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth hon ac etholaeth Afan Ogwr Rhondda.

Afan Ogwr Rhondda
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Aberafan Maesteg,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Rhondda ac Ogwr.
Cafodd y Comisiwn 8 cynrychiolaeth ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Aberafan Maesteg a Rhondda ac Ogwr. O’r rhain, roedd 3 o blaid a 5 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn, cynigiwyd 4 trefniant amgen gan gynnwys paru Aberafan Maesteg â Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe a pharu Rhondda ac Ogwr ag naill ai Pen-y-bont ar Ogwr neu Bontypridd.
Cafodd y Comisiwn 2 gynrychiolaeth ynglŷn â’r enw Afan Ogwr Rhondda. Roedd y ddwy ohonynt o blaid yr enw. Ni chynigiwyd unrhyw enwau amgen.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Aberafan Maesteg ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Rhondda ac Ogwr fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau o blaid cyfuniadau amgen, fel yr awgrym i baru Aberafan Maesteg a Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe yn seiliedig ar y cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd pwysig a’r cymeriad tebyg a rennir rhwng y ddwy ardal. Fodd bynnag, byddai hyn yn cael effeithiau cynyddol ar barau eraill ar draws yr ardal amgylchynol, gan felly greu set lai dymunol o etholaethau yn gyffredinol. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol cyfuno’r ardaloedd fel yr amlinellir uchod o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da rhwng y ddwy etholaeth. Mae ardal prif gyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i rhannu ar draws 3 etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig, a byddai’r etholaeth newydd yn cyfuno 2 o’r etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig hynny yn 1 etholaeth y Senedd, gan ychwanegu at y cysylltiadau sefydledig sy’n bodoli. Mae’r Comisiwn hefyd o’r farn bod ymdeimlad cyffredin o gymeriad rhwng cymunedau cymoedd Maesteg, Pontycymer ac Ogwr. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad yn creu etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Afan Ogwr Rhondda ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn adlewyrchu enw’r afon, y coedwigoedd a’r cymoedd sydd wedi’u cynnwys yn yr etholaeth newydd a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi’r enw dynodedig.
Yn gyntaf, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol Cimla a Phelenna yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth hon ac etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd;
Yn ail, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol Cymer yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth hon ac etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr.
Yn drydydd, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol y Pîl, Cynffig a Chefn Cribwr yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth hon ac etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg.

Pontypridd Cynon Merthyr
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Merthyr Tudful ac Aberdâr,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Pontypridd.
Cafodd y Comisiwn 8 cynrychiolaeth ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Merthyr Tudful ac Aberdâr a Phontypridd. O’r rhain, roedd 4 o blaid a 4 yn erbyn (roedd rhai cynrychiolaethau’n cynnig mwy nag 1 dewis amgen). Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn, cynigiwyd 8 trefniant amgen gan gynnwys paru Merthyr Tudful ac Aberdâr ag naill ai Caerffili neu Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, a pharu Pontypridd â Gorllewin Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg neu Rondda ac Ogwr.
Cafodd y Comisiwn 7 cynrychiolaeth ynglŷn â’i gynnig diwygiedig i enwi’r etholaeth hon yn Ferthyr Cynon Taf. O’r rhain, roedd 2 o blaid a 5 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Pontypridd, Merthyr ac Aberdâr, Merthyr Tudful Cynon Taf, a Chwm Taf.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Merthyr Tudful ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Aberdâr a Phontypridd fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau o blaid cyfuniadau amgen yn yr ardal hon, fel cyfuno Merthyr Tudful ac Aberdâr â Chaerffili yn seiliedig ar y cysylltiadau economaidd-gymdeithasol a chymeriad tebyg y 2 ardal, a chyfuno Pontypridd â Gorllewin Caerdydd yn seiliedig ar y cysylltiadau trafnidiaeth a chysylltiadau hanesyddol yr ardaloedd hynny (gan nodi bod ardaloedd fel Creigiau a Phentyrch wedi trosglwyddo rhwng yr etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig hynny). Fodd bynnag, byddai’r cyfuniadau amgen hyn yn cael effeithiau cynyddol ar barau yn yr ardal amgylchynol, gan felly greu set lai dymunol o etholaethau yn gyffredinol. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol cyfuno’r ardaloedd fel yr amlinellir uchod o ganlyniad i’r cysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 etholaeth. Byddai’r etholaeth hefyd yn uno ardaloedd sy’n ffurfio rhan o ardal prif gyngor Rhondda Cynon Taf yn un etholaeth, gan ychwanegu at y cysylltiadau sefydledig sy’n bodoli. Trwy baru’r etholaethau hyn, bydd y Comisiwn hefyd yn gallu cadw ardal Cwm Cynon o fewn 1 etholaeth. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad yn creu etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Pontypridd Cynon Merthyr ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys enwau’r prif drefi ac aneddiadau o fewn yr etholaeth a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw dynodedig.
Hoffai’r Comisiwn amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol Cymer yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth hon ac etholaeth Afan Ogwr Rhondda.
Hoffai’r Comisiwn hefyd amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol Gorllewin Pont-y-clun yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth hon ac etholaeth Caerdydd Penarth.

Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Blaenau Gwent a Rhymni,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Caerffili.
Cafodd y Comisiwn 4 cynrychiolaeth ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Blaenau Gwent a Rhymni a Chaerffili. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 3 yn erbyn. Cynigiwyd 2 bâr amgen, sef Blaenau Gwent a Rhymni ag Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe a Chaerffili gyda Merthyr Tudful ac Aberdâr.
Cafodd y Comisiwn 5 cynrychiolaeth ynglŷn â’r enw Blaenau Gwent Caerffili Rhymni. O’r rhain, roedd 3 o blaid a 2 yn erbyn. Roedd enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Gorllewin Gwent, a Chwm Rhymni a Blaenau Gwent.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Blaenau Gwent ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Rhymni a Chaerffili fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y parau amgen a dderbyniwyd, ond byddai’r rhain yn tarfu ar barau yn yr ardal amgylchynol, gan felly greu set lai dymunol o etholaethau yn gyffredinol. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal ac y byddai’r etholaeth yn uno ardaloedd sy’n ffurfio rhan o ardal prif gyngor Caerffili yn 1 etholaeth, gan ychwanegu at y cysylltiadau sefydledig sy’n bodoli. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad yn creu etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Blaenau Gwent Caerffili Rhymni ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys y 2 awdurdod lleol a chwm mawr yn yr etholaeth a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi’r enw dynodedig.
Hoffai’r Comisiwn amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol Cefn Fforest a Phengam yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth hon ac etholaeth Casnewydd Islwyn.

Sir Fynwy Torfaen
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Sir Fynwy,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Torfaen.
Cafodd y Comisiwn 4 cynrychiolaeth ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Sir Fynwy a Thorfaen. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 3 yn erbyn. Ni chynigiwyd unrhyw barau amgen.
Cafodd y Comisiwn 4 cynrychiolaeth ynglŷn â’i gynnig diwygiedig i enwi’r etholaeth hon yn Fynwy Torfaen. O’r rhain, roedd 3 o blaid ac 11 yn erbyn. Roedd enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Sir Fynwy Torfaen, Dwyrain Gwent, a Sir Fynwy.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Sir Fynwy ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Torfaen fel pâr. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw barau amgen yn ystod y cyfnod ymgynghori diwygiedig. Mae’r Comisiwn yn nodi y byddai’r etholaeth yn cyfuno ardaloedd cyfan prif gynghorau Sir Fynwy a Thorfaen yn 1 etholaeth, ac mae’n ystyried bod hyn yn briodol o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth newydd, yn ogystal â hanes o ddarparu gwasanaethau lleol ar y cyd. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad yn creu etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Sir Fynwy Torfaen ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys y 2 awdurdod lleol yn yr etholaeth newydd a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod bod yr enw’n mynd yn groes i Bolisi Enwi’r Comisiwn trwy gynnwys ffurf dreigledig o enw’r Sir. Fodd bynnag, dadleuodd nifer o gynrychiolaethau a gafwyd yn erbyn defnyddio Mynwy gan ei fod yn cyfeirio at Dref Trefynwy, yn hytrach na’r Sir. Cefnogir yr enw dynodedig gan yr Awdurdod Lleol. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Casnewydd Islwyn
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Casnewydd,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Casnewydd ac Islwyn.
Cafodd y Comisiwn 6 chynrychiolaeth ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Casnewydd a Gorllewin Casnewydd ac Islwyn. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 5 yn erbyn. Ni chynigiwyd unrhyw barau amgen.
Cafodd y Comisiwn 5 cynrychiolaeth ynglŷn â’r enw Casnewydd Islwyn. O’r rhain, roedd 2 o blaid a 3 yn erbyn. Roedd enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Casnewydd, a Chasnewydd Islwyn.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Casnewydd ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Casnewydd ac Islwyn fel pâr. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw barau amgen yn ystod y cyfnod ymgynghori diwygiedig. Byddai’r etholaeth yn cyfuno ardal gyfan prif gyngor Casnewydd yn 1 etholaeth, gan felly ychwanegu at gysylltiadau presennol. Mae’r Comisiwn hefyd o’r farn ei bod yn briodol paru’r ardaloedd o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad yn creu etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Casnewydd Islwyn ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys enw’r Ddinas yn ogystal â’r ardal hanesyddol o fewn yr etholaeth a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi’r enw dynodedig.
Hoffai’r Comisiwn amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol Cefn Fforest a Phengam yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth hon ac etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni.

Caerdydd Penarth
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Caerdydd,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig De Caerdydd a Phenarth.
Cafodd y Comisiwn 7 cynrychiolaeth ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 6 yn erbyn. Cynigiodd y cynrychiolaethau gwrthwynebol drefniadau amgen gan gynnwys paru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Caerdydd â Gogledd Caerdydd a pharu De Caerdydd a Phenarth ag naill ai Gorllewin Caerdydd neu Fro Morgannwg.
Cafodd y Comisiwn 7 cynrychiolaeth ynglŷn â’i gynnig i enwi’r etholaeth ddiwygiedig (paru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig De Caerdydd a Phenarth a Dwyrain Caerdydd) yn Dde-ddwyrain Caerdydd a Phenarth. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 6 yn erbyn. Roedd enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys De Caerdydd, Penarth a De Caerdydd, a Chaerdydd Penarth.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu dychwelyd i’w gynnig cychwynnol, sef paru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth. Yn ein cynnig diwygiedig, cynigiwyd paru Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd er mwyn mesur barn, yn dilyn ymateb cymysg i’r cynnig cychwynnol ar gyfer Gogledd Caerdydd a Dwyrain Caerdydd (a De Caerdydd a Phenarth â Gorllewin Caerdydd). Fodd bynnag, ar ôl derbyn cynrychiolaethau ynglŷn â’r ddau gynnig bellach, mae’n amlwg bod y farn gyffredinol o blaid y parau yn ein hadroddiad cychwynnol. Byddai’r pâr hwn yn uno 2 o’r 4 etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig sy’n rhychwantu Dinas Caerdydd yn 1 etholaeth, gan ychwanegu at y cysylltiadau sefydledig sy’n bodoli yn yr ardal. Mae’r pâr hwn yn ymateb i ddadleuon a wnaed mewn cynrychiolaethau bod afon Taf yn darparu ffin naturiol rhwng Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd a bod y llinell reilffordd yn darparu ffin o wneuthuriad dyn rhwng cymunedau yn nwyrain y Ddinas a’r rhai yn y De. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol paru’r ardaloedd fel yr amlinellir uchod o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth arfaethedig. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn yn cydnabod y gwrthgynigion a dderbyniwyd ac yn deall y dadleuon a wnaed i baru Pontypridd a Gorllewin Caerdydd yn seiliedig ar y cysylltiadau trafnidiaeth a’r cysylltiadau hanesyddol rhwng ardaloedd fel Creigiau a Phentyrch. Mae’r Comisiwn hefyd yn cydnabod y cynrychiolaethau a wnaed i baru etholaethau eraill yn yr ardal, fel De Caerdydd a Phenarth â Bro Morgannwg oherwydd bod nifer fawr o ardaloedd o ardal prif gyngor Bro Morgannwg wedi’u cynnwys yn etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig De Caerdydd a Phenarth, a’r cymeriad tebyg rhwng y 2 ardal. Fodd bynnag, byddai hyn yn tarfu ar barau ar draws yr ardal amgylchynol, gan felly greu set lai dymunol o etholaethau yn gyffredinol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Caerdydd Penarth ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys enw’r Ddinas yn ogystal â chydnabod yr ardal y tu allan i Gaerdydd o fewn yr etholaeth. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi’r enw dynodedig.
Hoffai’r Comisiwn amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol Gorllewin Pont-y-clun yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth hon ac etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr.

Caerdydd Ffynnon Taf
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gogledd Caerdydd,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Caerdydd.
Cafodd y Comisiwn 6 chynrychiolaeth ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd. O’r rhain, roedd 2 o blaid a 4 yn erbyn (roedd rhai cynrychiolaethau’n cynnig mwy nag 1 dewis amgen). Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn, cynigiwyd 7 pâr amgen gan gynnwys Gogledd Caerdydd â Dwyrain Caerdydd a pharu Gorllewin Caerdydd ag naill ai Pontypridd neu Dde Caerdydd a Phenarth.
Cafodd y Comisiwn 5 cynrychiolaeth ynglŷn â’i gynnig i enwi’r etholaeth ddiwygiedig (paru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd) yn Ogledd-orllewin Caerdydd. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 4 yn erbyn. Roedd enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Caerdydd Ogledd-orllewinol, a Chaerdydd Cwm Taf.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu dychwelyd i’w gynnig cychwynnol, sef paru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Gogledd Caerdydd a Dwyrain Caerdydd. Cafodd y Comisiwn nifer fawr o gynrychiolaethau o blaid y pâr cychwynnol yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol. Byddai’r pâr hwn yn uno 2 o’r 4 etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig sy’n rhychwantu Dinas Caerdydd yn 1 etholaeth, gan ychwanegu at y cysylltiadau sefydledig sy’n bodoli yn yr ardal. Cafodd y Comisiwn gynrychiolaethau a amlygodd y ffiniau naturiol ac o wneuthuriad dyn sy’n bodoli rhwng ardaloedd Caerdydd fel y’u cynigiwyd yn Adroddiad Cynigion Diwygiedig y Comisiwn. Amlygodd y cynrychiolaethau hyn hefyd y cysylltiadau a rennir rhwng cymunedau yng Ngogledd a Dwyrain y Ddinas. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol paru’r ardaloedd fel yr amlinellir uchod o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth arfaethedig. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Caerdydd Ffynnon Taf ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys enw’r Ddinas yn ogystal â chydnabod yr ardal y tu allan i Gaerdydd o fewn yr etholaeth. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi’r enw dynodedig.

Pen-y-bont Bro Morgannwg
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu creu etholaeth sirol o’r canlynol:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Pen-y-bont ar Ogwr,
ac:
Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Bro Morgannwg.
Cafodd y Comisiwn 9 cynrychiolaeth ynglŷn â’r cynnig diwygiedig i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg. O’r rhain, roedd 1 gynrychiolaeth o blaid ac 8 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn, cynigiwyd 2 bâr amgen, sef Pen-y-bont ar Ogwr â Rhondda ac Ogwr a Bro Morgannwg â De Caerdydd a Phenarth.
Cafodd y Comisiwn 5 cynrychiolaeth ynglŷn â’r enw Pen-y-bont Bro Morgannwg. O’r rhain, roedd 2 o blaid a 3 yn erbyn. Roedd enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr a’r Fro, a Phenybont a Bro Morgannwg.
Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac wedi penderfynu cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Pen-y-bont ar Ogwr ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Bro Morgannwg fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau a wnaed i baru etholaethau eraill yn yr ardal hon, fel De Caerdydd a Phenarth a Bro Morgannwg oherwydd nifer yr ardaloedd o ardal prif gyngor Bro Morgannwg sydd wedi’u cynnwys yn etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig De Caerdydd a Phenarth, a’r cymeriad tebyg rhwng y 2 ardal. Fodd bynnag, byddai hyn yn tarfu ar barau ar draws yr ardal amgylchynol, gan felly greu set lai dymunol o etholaethau yn gyffredinol. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol paru’r ardaloedd fel yr amlinellir uchod o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad yn creu etholaeth gydlynol.
Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Pen-y-bont Bro Morgannwg ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys enw’r 2 awdurdod lleol yn yr etholaeth a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi’r enw dynodedig.

Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 6.65 MB
-
Maint ffeil: 1.33 MB
-
Maint ffeil: 1.34 MB
-
Maint ffeil: 921.9 KB
-
Maint ffeil: 812.4 KB
-
Maint ffeil: 1.01 MB
-
Maint ffeil: 1.15 MB
-
Maint ffeil: 1.03 MB
-
Maint ffeil: 1.02 MB
-
Maint ffeil: 622.55 KB
-
Maint ffeil: 734.55 KB
-
Maint ffeil: 706.28 KB
-
Maint ffeil: 870.19 KB
-
Maint ffeil: 922.82 KB
-
Maint ffeil: 971.28 KB
-
Maint ffeil: 725.96 KB
-
Maint ffeil: 1.11 MB
-
Maint ffeil: 917.58 KB
-
Maint ffeil: 1.18 MB
-
Maint ffeil: 895.05 KB
-
Maint ffeil: 3.05 MB
-
Maint ffeil: 12.16 MB
-
Maint ffeil: 2.63 MB
-
Maint ffeil: 32.6 KB
-
Maint ffeil: 33.46 KB