Anerchiad etholiad: Canllawiau drafft i ymgeiswyr ac asiantau
Ydych chi'n ystyried sefyll fel ymgeisydd yn etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026?
Os felly, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
Beth yw anerchiad etholiad?
Ym mhob etholaeth gall pob plaid wleidyddol ac ymgeisydd unigol anfon taflen at bleidleiswyr am ddim drwy'r post brenhinol.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses hon yma.
Am y tro cyntaf, gall ymgeiswyr yn yr etholiad hwn hefyd gyhoeddi eu hanerchiad etholiad ar-lein ar bwrwpleidlais.cymru.
Gallwch ddysgu mwy am bwrwpleidlais.cymru yma.
Yr hyn rydyn ni'n gofyn amdano
Rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau drafft ar sut y gallwch chi gyflwyno eich anerchiad etholiad i bwrwpleidlais.cymru, ac rydyn ni eisiau i chi roi eich barn i ni.
Mae'r canllawiau'n amlinellu:
- beth yw Platfform Gwybodaeth Etholiadau Cymru (bwrwpleidlais.cymru) a beth sy'n cyfrif fel anerchiad etholiad
- y broses ar gyfer cyflwyno anerchiad etholiad
- y dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno ar gyfer etholiadau'r Senedd
Bydd eich adborth yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod y broses yn glir, yn hygyrch, ac yn gadarn.
Ar gyfer pleidiau gwleidyddol
Gofynnwn yn garedig i'r aelodau priodol o'ch sefydliad adolygu'r canllawiau, yn enwedig y rhai a fydd yn gyfrifol am gyflwyno eich anerchiadau etholiad.
Ar gyfer darpar ymgeiswyr unigol neu asiantau
Gofynnwn yn garedig i chi adolygu'r canllawiau eich hun. Efallai yr hoffech hefyd ofyn i'ch asiant etholiad posibl adolygu'r canllawiau os mai nhw fydd yr un sy'n cyflwyno eich anerchiad etholiadol.
Cwestiynau
I gefnogi eich ymateb, rydym wedi nodi cyfres o gwestiynau ymgynghori isod.
Canllawiau
- A ydych chi'n credu bod y canllawiau'n ddigonol i gefnogi aelodau plaid neu ymgeiswyr unigol i gyflwyno anerchiad etholiadol i'w gyhoeddi ar Blatfform Gwybodaeth Etholiadau Cymru? Os na, pa gymorth ychwanegol fyddai'n ddefnyddiol?
Pwy all gyflwyno anerchiad etholiadol
- A ydych chi'n cytuno â'r darpariaethau arfaethedig ynghylch pwy all gyflwyno anerchiad etholiadol? A yw hyn yn cyd-fynd â'r unigolyn sydd fwyaf tebygol o fod yn gyfrifol am daflen rhadbost y Post Brenhinol a chyflwyno'r anerchiad etholiadol?
Darparu cyfeiriad e-bost
- A ydych chi'n rhagweld unrhyw broblemau gyda chyfeiriad e-bost yr ymgeisydd neu'r asiant etholiadol yn cael ei ddarparu i'r Swyddog Canlyniadau a'i ddefnyddio fel y porth i'r broses gyflwyno ar-lein?
Testun rhydd dewisol ar gyfer hygyrchedd
- A ydych chi'n cytuno â'r cam dewisol sy'n caniatáu i gynnwys taflenni ysgrifenedig gael ei nodi mewn blwch testun rhydd fel y gall y Bwrdd Rheoli Etholiadol ei gyhoeddi mewn fformat tudalen we fwy hygyrch? A ydych chi'n rhagweld defnyddio'r opsiwn hwn, ac a ydych chi'n rhagweld unrhyw heriau wrth wneud hynny?
Dyddiadau Cau
- A ydych chi'n cytuno â'r amserlenni a nodir yn y canllawiau ar gyfer cyflwyno anerchiadau etholiadol? Yn benodol, a ydych chi'n cytuno â darparu dyddiad cau sylfaenol i wneud y mwyaf o gyhoeddi cyn cyhoeddi pleidleisiau post, ac yna dyddiadau cau eilaidd i sicrhau bod cyflwyniadau diweddarach yn dal i gael eu cynnwys?
Atebwch drwy e-bost i brhe@cdffc.llyw.cymru erbyn dydd Gwener 30 Ionawr 2026. Os oes angen eglurhad arnoch neu os hoffech drafod unrhyw agwedd ar yr ymgynghoriad, cysylltwch â Mark Pascoe (mark.pascoe@cdffc.llyw.cymru).
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 56.3 KB
-
Maint ffeil: 84.52 KB