bwrwpleidlais.cymru

bwrwpleidlais.cymru yw'r wefan sy'n esbonio popeth sydd angen i chi ei wybod ar gyfer etholiad y Senedd a gynhelir ar 7 Mai 2026.

Bydd bwrwpleidlais.cymru hefyd yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer etholiadau Llywodraeth Leol a'r Senedd yn y dyfodol.

Mae'r wefan yn lansio ym mis Mawrth a bydd yn cael ei rhedeg gan Fwrdd Rheoli Etholiadol Cymru.

Bydd y wefan yn glir, yn syml ac yn annibynnol. Ei nod yw troi dryswch yn hyder wrth i bobl pleidleisio.

Beth sydd ar bwrwpleidlais.cymru?

  • Pa bynnag gwestiynau sydd gennych am bleidleisio yn etholiad y Senedd, bydd gan bwrwpleidlais.cymru yr ateb.
  • Ble ydw i'n pleidleisio?
  • Sut mae'r system bleidleisio newydd yn gweithio?
  • Pwy sy'n sefyll i'm cynrychioli?
  • Sut mae'r Senedd yn gweithio a beth mae'n ei wneud?
  • A yw fy ngorsaf bleidleisio yn hygyrch i mi?
  • Beth mae'r gwahanol ymgeiswyr yn sefyll drosto?
  • Sut ydw i'n pleidleisio drwy'r post neu ddirprwy?
  • Pa etholaeth (ardal bleidleisio) ydw i'n byw ynddi?
  • Sut ydw i'n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio?
  • Pam ddylwn i bleidleisio?

Bydd yr holl gwestiynau hyn a mwy yn cael eu hateb ar bwrwpleidlais.cymru, felly cofiwch edrych amdano pan fydd yn lansio ym mis Mawrth!