Bro Morgannwg: Argymhellion Terfynol
Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi ei Argymhellion Terfynol o drefniadau etholiadol ar gyfer Bro Morgannwg a’i chyflwyno i Weinidogion Llywodraeth Cymru ar 29 Ionawr 2026.
Llywodraeth Cymru a’i Gweinidogion fydd yn penderfynu sut i symud ymlaen. Fel arfer, byddant yn gwneud Gorchymyn.
Mae’r Adroddiad Argymhellion Terfynol yn cynnwys holl argymhellion y Comisiwn ar gyfer Bro Morgannwg. Lle mae wedi gwneud newidiadau i’r trefniadau presennol, mae disgrifiad o’r newid, y cynrychiolaethau a dderbyniwyd, y rhesymau am unrhyw newid a map o’r cynigion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Hoffai’r Comisiwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i wneud cynrychiolaethau, yn ogystal â’r Cyngor Sir am ei gymorth wrth gynnal ar arolwg.
Mae’r adroddiadau, mapiau a gwybodaeth ategol arall ar gyfer yr arolwg i’w gweld isod.
Os oes gennych unrhyw sylwadau ar yr Argymhellion Terfynol, dylech danfon rhain i Llywodraeth Cymru drwy’r ffurf isod:
Yr Is-adran Etholiadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu drwy anfon neges e-bost at:
Etholiadau.elections@gov.wales
Beth yw Arolwg Etholiadol?
Mae'r Comisiwn yn adolygu ffiniau wardiau etholiadol 22 prif gyngor (awdurdodau lleol) Cymru bob 12 mlynedd.
Y rheswm dros adolygu'r ffiniau hyn yw, dros amser, bod nifer yr etholwyr mewn gwahanol ardaloedd yn newid, efallai oherwydd bod ystâd dai newydd wedi'i hadeiladu.
Mae'r arolygon yn ceisio cadw'r gymhareb o etholwyr i gynghorwyr yn fras gyfartal o fewn pob cyngor fel bod pobl yn cael eu cynrychioli'n dda, bod eu pleidleisiau'n cario cryfder cyfartal, a bod cynghorwyr yn rhannu llwyth gwaith cyfartal.
Beth yw'r broses?
Mae'r Comisiwn yn dechrau Arolygon Etholiadol trwy nodi'r sefyllfa bresennol o fewn ardal cyngor a gofyn am feddyliau cychwynnol pobl ar newidiadau posibl. Ar ôl i ni dderbyn y safbwyntiau hynny, mae'r Comisiwn yn cyhoeddi cynigion drafft ar gyfer set newydd o drefniadau ac yn ymgynghori ar y rheini hefyd.
Yna mae'r Comisiwn yn ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriadau, a ffactorau fel cymhareb yr etholwyr fesul cynghorydd, gwledigrwydd, amddifadedd, a chysylltiadau cymunedol cyn cyhoeddi ei argymhellion terfynol.
Ar y pwynt hwnnw, nid oes cyfleoedd pellach i anfon sylwadau at y Comisiwn am yr arolwg.
Os bydd Gweinidogion Cymru yn dewis gweithredu argymhellion y Comisiwn (gyda neu heb addasiadau) byddant yn gwneud hynny drwy wneud Gorchymyn. Bydd hyn o leiaf 6 wythnos ar ôl i'r Comisiwn gyflwyno ei Adroddiad Argymhellion Terfynol. Yn ystod y cyfnod hwn, gall pobl ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gyflwyno eu barn.
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am ddull y Comisiwn o ymdrin ag Arolygon Etholiadol yn ei ddogfen Polisi ac Arfer.
Dysgwch mwy gan ddarllen Polisi ac Arfer y Comisiwn ar gyfer Arolygon Etholiadol.
Darllenwch holl gynrychiolaethau'r arolwg ar ein porth ymgynghori.
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 3.2 MB
-
Maint ffeil: 4.12 MB
-
Maint ffeil: 3.06 MB
-
Maint ffeil: 2.18 MB
-
Maint ffeil: 9.28 MB
-
Maint ffeil: 5.37 MB
-
Maint ffeil: 3.41 MB
-
Maint ffeil: 4.09 MB
-
Maint ffeil: 137.24 KB
-
Maint ffeil: 133.87 KB
-
Maint ffeil: 1.16 MB
-
Maint ffeil: 171.01 KB
-
Maint ffeil: 1.14 MB
-
Maint ffeil: 210.49 KB
-
Maint ffeil: 309.66 KB