Swydd: Comisiynydd (Cymraeg yn ddymunol)
Cliciwch yma er mwyn gwneud cais
Penodi Comisiynydd i'r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (Cymraeg yn ddymunol)
Cyf 3369
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu proses recriwtio ddienw. Ni fydd y panel recriwtio yn gweld gwybodaeth bersonol fel enw a chyfeiriad ymgeisydd yn ystod y broses ddidoli. Mae’r polisi hwn yn unol â’n hymrwymiad i ddileu rhagfarn, ac i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Manylion swydd wag
Teitl Swydd Wag
Penodi Comisiynydd i'r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (Cymraeg yn ddymunol)
Dyddiad cau
09/01/2026, 16:00
penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
Sawl swydd: 2
Math o swydd: Comisiynydd
Enw'r corff: Comisiwn Democratiaeth a ffiniau Cymru
Lleoliad: Caerdydd neu'n rhithwir drwy MS Teams.
Cydnabyddiaeth Ariannol: £292 am ddiwrnod llawn
Gofynion y Gymraeg
Gofynion y Gymraeg 3 - Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, fodd bynnag, maent yn ddymunol a byddant yn cael eu hystyried os bydd dau neu fwy o ymgeiswyr yn derbyn yr un sgôr yn y cam ymgeisio neu gyfweliad.Deall drwy ddarllen 1 - Gallu darllen ambell air ac ymadrodd syml a’u deallSiarad a chael eu deall 1 - Gallu cynnal sgwrs syml yn y GymraegDeall drwy wrando 1 - Gallu deall rhannau o sgwrs symlYsgrifennu a chael eu deall 1 - Gallu ysgrifennu negeseuon syml am bynciau bob dydd
Y Defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial
Gall Deallusrwydd Artiffisial fod yn adnodd defnyddiol i gefnogi’ch cais, fodd bynnag, rhaid i’r holl enghreifftiau a datganiadau a ddarperir fod yn wir, yn ffeithiol gywir ac yn uniongyrchol seiliedig ar eich profiad personol chi. Os nodir llên-ladrad (cyflwyno syniadau a phrofiadau eraill, neu wedi’u cynhyrchu gan Ddeallusrwydd Artiffisial, fel eich syniadau neu brofiadau chi) gellir tynnu’r ceisiadau yn ôl a gall ymgeiswyr mewnol fod yn destun camau disgyblu. Gweler y canllawiau i ymgeiswyr ar Ddeallusrwydd Artiffisial am ragor o wybodaeth am ddefnydd priodol ac amhriodol.
Dogfen Saesneg DBCC Commissioner Appointment - Information pack for Candidates.pdf – 281KB Agor mewn ffenestr newydd
Dogfen Gymraeg Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru - Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr - Comisiynydd.pdf – 297KB Agor mewn ffenestr newydd
Cynllun Hyderus o ran Anabledd
Mae Llywodraeth Cymru yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sydd ag amhariad, cyflwr iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain os yw'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd.
Model Cymdeithasol o Anabledd
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas sy’n analluogi pobl sydd âg amhariadau, neu gyflyrau iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau yn y broses recriwtio fel y gall pob aelod o staff (neu ddarpar aelodau staff) berfformio o’u gorau.
Gellir gwneud addasiadau recriwtio ar unrhyw adeg yn y broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag amhariad neu gyflwr iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Cysylltwch â SicrhauAmrywiaethwrthRecriwtio@llyw.cymru i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.
Sut mae Gwneud Cais
Rhaid i bob cais am y swydd hon gael ei wneud gan ddefnyddio ein system ymgeisio ar-lein.
Oni nodir fel arall yn y 'wybodaeth arall sy'n gysylltiedig â swydd wag ar gyfer hysbyseb', ni all Llywodraeth Cymru gynnig nawdd Fisa. Mae gan Lywodraeth Cymru drwydded nawdd Fisa, ond dim ond ar gyfer rhai rolau y gellir ei defnyddio ac nid yw'r ymgyrch hon yn gymwys.
Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiaeth o brofiadau bywyd a phroffesiynol. Rydym wedi ymrwymo'n weithredol i ddod yn sefydliad sy'n gynyddol amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu. Mae nifer o rwydweithiau Amrywiaeth y gall staff gymryd rhan ynddynt, sy'n cynnwys y Rhwydwaith Ymwybyddiaeth a Chefnogi Anabledd (YChA); Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig; Materion Meddwl (Iechyd meddwl a lles); PRISM (LGBTI+), Menywod Ynghyd and Rhwydwaith Niwrowahaniaeth.
Os oes gennych amhariad sy’n eich atal rhag ymgeisio ar-lein, anfonwch e-bost at ein tîm recriwtio. Gallwch:
- ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat arall
- gofyn am addasiad recriwtio i’ch helpu i gyflwyno eich cais
Defnyddiwch y botwm 'Gwneud Cais' i gyflwyno eich cais. Mewngofnodwch neu cofrestrwch i greu cyfrif i wneud cais. Mae cofrestru’n cymryd ychydig funudau a bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch chi.
Dylech wirio eich Canolfan Cais yn reolaidd i gael diweddariadau eich cais. Hefyd, gwiriwch eich ffolder sbam/sothach rhag ofn i unrhyw gyfathrebu ynglyn â’ch cais a/neu eich manylion asesu ddod o hyd i'w ffordd yno.
Ar ôl i chi gofrestru i gael cyfrif a mewngofnodi, byddwch yn cael eich arwain at y ffurflen gais ar-lein. Rhaid i chi lenwi hon a’i chyflwyno cyn y terfyn amser ar y dyddiad cau. Ni fyddwn yn ystyried ffurflen gais anghyflawn.
Os hoffech wneud cais am y swydd wag hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen Newid Iaith ar y dudalen hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai a gyflwynir yn Saesneg.
I gael gwybodaeth am Broffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil, cliciwch yma.
Ar gyfer cynlluniau recriwtio TS i G6: Wrth gyflwyno’ch tystiolaeth y byddai'n ddefnyddiol i chi ystyried disgwyliadau'r radd fel y nodir yn y Disgrifiad Gradd, yn ogystal â'r prif gyfrifoldebau sy'n hanfodol ar gyfer y rôl.