Bwrwpleidlais.cymru yn ennill gwobr am y defnydd gorau o ddigidol gan y sector cyhoeddus
Mae bwrwpleidlais.cymru, Platfform Gwybodaeth Etholiadau Cymru, wedi cipio'r aur yng Ngwobrau Effaith Ddigidol 2026 (dyfarnwyd 10 Tachwedd 2026).
Enwyd y gwefan etholiadau, sydd wrthi'n cael ei datblygu ymhellach cyn etholiadau cyngor lleol 2027, "y defnydd gorau o ddigidol o'r sector cyhoeddus" am y ffordd arloesol y cyfunodd wybodaeth a hygyrchedd i roi hyder i bleidleiswyr yn etholiad y Senedd ym mis Mai.
Canmolodd y beirniaid y wefan am ei chyfuniad o "wybodaeth gyhoeddus glir gyda dyluniad cynhwysol".
Mae Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru, sy'n rhan o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, ac sy'n rheoli'r wefan, wrthi'n gweithio ar ei gam nesaf o ddatblygu cyn etholiadau cyngor lleol 2027, gyda disgwyl i wybodaeth ar gyfer etholiad 6 Mai fod ar gael ym mis Ionawr.
Bydd pleidleiswyr yn parhau i allu dod o hyd i'w gorsaf bleidleisio, gwybodaeth hygyrchedd, a chanllawiau ar y gwahanol ffyrdd o bleidleisio trwy ymweld â bwrwpleidlais.cymru.
Ar gyfer etholiadau’r cyngor, bydd ymgeiswyr hefyd yn gallu cyflwyno datganiad a llun fel y gall pleidleiswyr asesu eu hopsiynau a gweld pam mae pob ymgeisydd eisiau eu pleidlais.
Wrth wneud sylwadau ar y wobr, dywedodd Cadeirydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Karen Jones:
“Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth wych am yr holl waith caled sydd wedi mynd i ddatblygu bwrwpleidlais.cymru.
“Daeth ein partneriaid datblygu, Storm ID, ac Ateb, Swyddogion Canlyniadau a Gweinyddwyr Etholiadau ledled Cymru, staff y Comisiwn, a phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus at ei gilydd a gweithio mor galed i greu platfform a roddodd hyder i bleidleiswyr yn etholiad y Senedd.
“Rydym nawr yn edrych ymlaen at yr etholiadau cyngor lleol yn 2027 ac rydym yn gobeithio gweld hyd yn oed mwy o bobl yn dod i bwrwpleidlais.cymru i ddod i adnabod yr etholiad pwysig iawn hwn.”