Platfform Gwybodaeth Etholiadau Cymru: Profi Strwythur

Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadol yn mynd i greu Gwefan Wybodaeth Etholiadau Cymru. Dyma fydd y tro cyntaf i wefan o’r fath gael ei chreu, a rydym eisiau gwneud yn siwr ei bod yn hawdd dod o hyd i wybodaeth arni.

Drwy gymryd rhan yn yr arolwg byr yma, byddwch yn ein helpu i brofi sut y gallai’r wefan gael ei threfnu a pha gynnwys ddylai fod arni.

Fe welwch fersiwn drafft syml o strwythur y wefan a byddwn yn gofyn i chi ble fyddech chi’n mynd i ddod o hyd i wahanol ddarnau o wybodaeth. Nid dyma’r dyluniad terfynol – mae’n waith ymchwil cynnar o’r hyn sy’n gweithio orau.

Dylai gymryd tua 10 munud i gwblhau.

Cliciwch yma i gymryd rhan.

Rhannwch y post hwn: