Swydd: Uwch Reolwr Llywodraethu a Chyllid

Gwnewch gais cyn 11:55 pm ar Ddydd Mercher 5 Tachwedd 2025

Rhif cyfeirnod

432770

Cyflog

£47,676 - £56,445 Pensiwn y Gwasanaeth Sifil gyda cyfraniad cyflogwr o 28.97%

Gradd swydd

Uwch Swyddog Gweithredol

Math o gontract

Parhaol

Maes busnes

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (CDFfC) yn gorff statudol a noddir gan Lywodraeth Cymru, ac mae ganddo swyddogaethau statudol sydd wedi’u hamlinellu yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (fel y’i diwygiwyd), Deddf Senedd Cymru

Math o rôl

Cyllid
Llywodraethu

Patrwm gweithio

Gweithio hyblyg, Llawn amser

Nifer o swyddi sydd ar gael

1

Lleoliad

Caerdydd

Am y swydd

Crynodeb o'r swydd

Eich rôl chi yw gweithredu fel yr Uwch Reolwr Llywodraethu a Chyllid a bod yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth strategol ym maes cyllid a llywodraethu, gan sicrhau bod y ddau Gomisiwn yn cyflawni eu swyddogaethau statudol gydag uniondeb, atebolrwydd, a gwerth am arian. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl ganolog wrth ffurfio strategaeth ariannol ac ymsefydlu fframweithiau llywodraethu cadarn ar draws y ddau Gomisiwn. Swydd arweinyddiaeth uwch yw hon o fewn sefydliad bach ond sydd â phroffil uchel. Mae’r rôl yn cynnig dylanwad uniongyrchol dros gynllunio ariannol a threfniadau llywodraethu, cyfrifoldeb amlwg am atebolrwydd corfforaethol, a’r cyfle i ymgysylltu ag uwch randdeiliaid ar draws Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a’r sector cyhoeddus ehangach.

Bydd deiliad y swydd yn adrodd i’r Pennaeth Busnes ac yn rheolwr llinell ar gyfer y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol.

Swydd ddisgrifiad

  • Cryfhau fframweithiau llywodraethu a sicrhau y cydymffurfir â gofynion llywodraethu statudol a chorfforaethol.
  • Llunio papurau, adroddiadau, a briffiau llywodraethu o ansawdd uchel i Gomisiynwyr, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ac uwch randdeiliaid.
  • Arwain ar adolygu a monitro’r Gofrestr Risg Gorfforaethol, gan sicrhau bod risgiau’n cael eu rheoli’n effeithiol ar lefel Bwrdd.
  • Goruchwylio gweithredu a monitro argymhellion Archwilio Mewnol ac Allanol.
  • Arwain gwaith rhagfynegi ariannol, gosod y gyllideb, a chynllunio ariannol hirdymor.
  • Monitro gwariant yn erbyn cyllidebau cytunedig a darparu adroddiadau ariannol a llywodraethu chwarterol i’r Prif Weithredwr a’r Bwrdd.
  • Sicrhau bod rheolaethau a pholisïau ariannol cadarn wedi’u hymsefydlu ar draws y sefydliad.
  • Arwain trefniadau rheoli strategol cyllidebau, cyfrifon blynyddol, a chymorth grant.
  • Rhoi cyngor lefel uchel i’r Prif Weithredwr a’r Comisiynwyr ar gynllunio ariannol, blaenoriaethau buddsoddi, a rheoli risg.
  • Goruchwylio’r berthynas â chyfrifwyr allanol, archwilwyr, a thimau cyllid y llywodraeth i sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau archwilio, llywodraethu, ac ariannol.
  • Arwain ar ddefnyddio meddalwedd ariannol SAGE i reoli cyfrifon, olrhain gwariant, cynhyrchu adroddiadau ariannol, a sicrhau cywirdeb a chydymffurfedd data ariannol.
  • Goruchwylio’r trefniadau ar gyfer y gyflogres, gan gynnwys cyflogau staff, cyfrifo a thalu cyfraniadau pensiwn.
  • Darparu rheolaeth linell, hyfforddiant, a datblygiad proffesiynol effeithiol i’r Swyddog Cyllid.
  • Cynyddu gallu ariannol ar draws y sefydliad, gan sicrhau bod cydweithwyr nad ydynt yn ymwneud â chyllid yn deall ac yn cyflawni cyfrifoldebau ariannol.
  • Darparu cymorth Ysgrifenyddiaeth i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
  • Dyletswyddau eraill cyffredinol

Manyleb bersonol

Meini Prawf sy’n Benodol i’r Swydd (hanfodol):

  1. Dangos profiad o reolaeth ariannol ar lefel strategol, gan gynnwys gosod cyllideb, monitro, ac adrodd.
  2. Dealltwriaeth gref o fframweithiau llywodraethu corfforaethol, rheoli risg, a phrosesau archwilio.
  3. Profiad blaenorol o arwain neu reoli staff, a’r gallu i hyfforddi, mentora, a datblygu pobl eraill.
  4. Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar, a’r gallu i gynhyrchu adroddiadau o ansawdd uchel ar gyfer uwch fyrddau a rhanddeiliaid.
  5. Sgiliau trefnu a datrys problemau cryf, a’r gallu i gyflawni canlyniadau o dan bwysau.
  6. Profiad ymarferol o ddefnyddio meddalwedd rheoli ariannol, yn enwedig SAGE, i oruchwylio cyfrifon, cynhyrchu adroddiadau, a chefnogi penderfyniadau.

Meini Prawf Dymunol

  1. Cymwysterau cyllid neu lywodraethu proffesiynol (e.e. CIPFA, AAT, ICSA).
  2. Gwybodaeth am weithio gyda Byrddau neu o fewn cyd-destun corff rheoleiddiol neu hyd braich.

Gofyniad o ran y Gymraeg :

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Gwrando

1 = Gallu deall ymholiadau sylfaenol yn Gymraeg

Darllen

1 = Gallu darllen geiriau ac ymadroddion sylfaenol

Siarad

1 = Gallu cynnal sgwrs gyffredinol (cyfarchion, enwau, dywediadau, enwau lleoedd)

Ysgrifennu

1 = Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol

Ymddygiadau

Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:

  • Gweld y Darlun Mawr
  • Newid a Gwella
  • Arweinyddiaeth
  • Cyfathrebu a Dylanwadu
  • Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
  • Cyflawni’n brydlon

Buddion

Ochr yn ochr â'ch cyflog o £47,676, mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn cyfrannu £13,811 tuag at fod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Buddion wedi'i Ddiffinio'r Gwasanaeth Sifil. Darganfyddwch pa fuddion y mae'r Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn eu darparu.

  • Dysgu a datblygiad wedi'i deilwra i'ch rôl
  • Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
  • Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil gyda chyfraniad cyflogwr o 28.97%

Pethau rydych angen gwybod amdanynt

Manylion y broses ddethol

Mae'r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant (agor mewn ffenestr newydd), a bydd yn asesu eich Ymddygiadau.Dylid anfon ceisiadau (CV a llythyr eglurhaol sy’n cynnwys sut rydych yn dangos y cymwyseddau) trwy Swyddi’r Gwasanaeth Sifil erbyn 05/11/2025. Ni ddylai'r llythyr eglurhaol fod yn fwy na dwy dudalen A4.

Dim ond os byddwch yn mynychu cyfweliad neu asesiad y rhoddir adborth.

Diogelwch

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol.Rhaid i bobl sy'n gweithio gydag asedau'r llywodraeth gwblhau gwiriadau gwaelodlin diogelwch personél sylfaenol (agor mewn ffenestr newydd).

Gofynion cenedligrwydd

Mae'r swydd hon ar agor yn fras i'r grwpiau canlynol:

  • gwladolion y DU
  • gwladolion Gweriniaeth Iwerddon
  • gwladolion gwledydd y Gymanwlad sydd â'r hawl i weithio yn y DU
  • gwladolion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu'r cenhedloedd hynny sydd â statws sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio'n Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd (EUSS) (agor mewn ffenestr newydd)
  • gwladolion yr UE, Y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu'r cenhedloedd hynny sydd wedi gwneud cais dilys am statws sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (EUSS)
  • unigolion â chaniatâd cyfyngedig i aros neu ganiatâd amhenodol i aros a oedd yn gymwys i wneud cais am EUSS ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020
  • gwladolion Twrcaidd, a rhai aelodau o deulu dinasyddion Twrcaidd, sydd wedi cronni'r hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil

Mwy o wybodaeth am ofynion cenedligrwydd (agor mewn ffenestr newydd)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (agor mewn ffenestr newydd) yn nodi’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel yr amlinellir yn egwyddorion recriwtio (agor mewn ffenestr newydd) Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.Mae'r Gwasanaeth Sifil yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Felly, rydym yn cynnal Cynllun Hyderus o ran Anabledd (DCS) ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Gwasanaeth Sifil wedi ymrwymo i ddenu, cadw a buddsoddi mewn talent ble bynnag y canfyddir. I ddysgu mwy, gweler Cynllun Pobl y Gwasanaeth Sifil a'r Strategaeth Amrywiaeth (agor mewn ffenestr newydd)a Chynhwysiant y Gwasanaeth Sifil (agor mewn ffenestr newydd).

Gwneud cais a gwybodaeth bellach

Unwaith y bydd y swydd hon wedi cau, ni fydd yr hysbyseb swydd ar gael mwyach. Efallai y byddwch am gadw copi ar gyfer eich cofnodion.

Pwynt cyswllt ar gyfer ymgeiswyr

Cyswllt swydd :

  • Enw :David Burley
  • Ebost :vacancies@dbcc.gov.wales
  • Ffôn :02920 464819

Tîm recriwtio

  • Ebost :vacancies@dbcc.gov.wales

Atodiadau

SEO Senior Governance and Finance Manager Opens in new window(pdf, 267kB)
SEO Senior Governance and Finance Manager c Opens in new window(pdf, 287kB)

Rhannwch y post hwn: