Penodi Cadeirydd newydd i Arwain Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
Karen Jones i gymryd yr awenau ym mis Rhagfyr 2025
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Heddiw benodiad Karen Jones yn Gadeirydd newydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (CDFfC). Bydd Karen Jones yn dechrau yn y swydd ar 1 Rhagfyr 2025, ar ddiwedd tymor y cadeirydd presennol, Bev Smith.
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gryfhau iechyd democrataidd Cymru. Yn ogystal â'i gyfrifoldebau craidd o adolygu ffiniau etholiadol llywodraeth leol, mae'r Comisiwn bellach yn goruchwylio arolygon ffiniau'r Senedd, Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru, a phenderfyniadau ar gydnabyddiaeth i gynghorwyr a rolau penodedig eraill.
Mae Karen Jones yn dod â chyfoeth o brofiad mewn etholiadau ac iechyd democrataidd i'r rôl, ar ôl bod yn Brif Weithredwr a Swyddog Canlyniadau Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot, ac yn fwyaf diweddar yn gadeirydd Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru.
Yn angerddol dros greu amgylchedd lle mae pobl eisiau byw, gweithio a buddsoddi, mae gan Karen hanes cryf o ddatblygu sefydliadau, mae'n eiriolwr dros gydweithio ac mae ganddi brofiad sylweddol o lywodraethu corfforaethol.
Wrth wneud sylwadau ar y penodiad, dywedodd cadeirydd presennol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Bev Smith:
“Rwyf wrth fy modd bod Karen Jones wedi’i phenodi’n gadeirydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Yn ystod fy nghyfnod fel cadeirydd, mae’r Comisiwn wedi ymgymryd â sawl cyfrifoldeb newydd ac mae Karen mewn sefyllfa berffaith i arwain y Comisiwn wrth iddo gyflawni ei feysydd gwaith hen a newydd.
“Dymunaf bob llwyddiant i Karen yn ei rôl newydd ac edrychaf ymlaen at weld gwaith y Comisiwn dros yr ychydig fisoedd nesaf wrth iddo edrych ymlaen at etholiad Senedd 2026 a lansio Platfform Gwybodaeth Etholiadau Cymru.”
Nodiadau:
Tymor Karen Jones yw 1 Rhagfyr 2025 i 30 Tachwedd 2029
Bywgraffiad Karen Jones:
Karen Jones FCIPD DL
Mae Karen Jones wedi gweithio am dros 40 mlynedd yn y sector gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Ar ôl dal swyddi uwch gyda Heddlu De Cymru ac Estyn, mae Karen hefyd wedi treulio 22 o flynyddoedd mewn amrywiaeth o rolau prif swyddog yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot, gan gynnwys rôl statudol Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, cyn gwasanaethu am y pedair blynedd diwethaf fel Prif Weithredwr a Swyddog Canlyniadau.
Mae hi'n teimlo'n angerddol am yr angen i greu amgylchedd lle mae pobl eisiau byw, gweithio a buddsoddi, ac mae ganddi hanes cadarn o ddatblygu sefydliadau. Hefyd mae'n hyrwyddo gwerth cydweithio, ac mae ganddi brofiad sylweddol ym maes llywodraethu corfforaethol.
Mae Karen hefyd yn mwynhau amgylchedd naturiol a hardd Castell-nedd Port Talbot yn ei hamser hamdden, ac mae i'w gweld yn aml ar y llwybrau cerdded a beicio.
Mae hi wedi graddio o Brifysgol Cymru, ac mae ganddi ddwy radd meistr mewn Rheoli Busnes a Rheoli Adnoddau Dynol. Mae Karen hefyd yn Gymrawd Siartredig o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.