Cynnig ffiniau Newydd ar gyfer wardiau cyngor Sir Gaerfyrddin
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi ei gynigion drafft ar gyfer newidiadau i ffiniau wardiau cyngor yn Sir Gaerfyrddin.
Bydd arolwg etholiadol Sir Gaerfyrddin yn archwilio ffiniau wardiau cyngor ar draws y fwrdeistref sirol gyda'r nod o sicrhau bod gan bob ward gyngor gymhareb fras gyfartal o etholwyr i gynghorwyr.
Cwblhawyd yr arolwg diwethaf o wardiau cyngor Sir Gaerfyrddin yn 2019, ac fe gyflwynwyd arolwg cymunedol, yn edrych ar ffiniau a threfniadau etholiadol cymunedau yn y sir, yn 2024. Daeth argymhellion yr arolwg yna i rym ar 21 Mai 2025.
Ar ôl cwblhau eu harolwg blaenorol o wardiau cyngor Sir Gaerfyrddin 6 mlynedd yn ôl, bydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn ceisio dod â phob ward o fewn 20% o gyfradd gyfartalog y cyngor o etholwyr i gynghorwyr.
Ar hyn o bryd, mae 5 o'r wardiau presennol y tu allan i'r ystod honno.
Mae'r arolwg hefyd yn ystyried ffactorau eraill, megis gwledigrwydd wardiau, cysylltiadau lleol, ac amddifadedd cymharol wardiau wrth iddo ddatblygu ei gynigion.
Mae'r Comisiwn wedi cynnig cyngor o 74 aelod, gostyngiad o'r 75 aelod presennol, gyda chyfartaledd sirol arfaethedig o 2,021 o etholwyr fesul aelod.
Ni chynigir unrhyw newidiadau ar gyfer 39 o'r 51 ward.
Y tangynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiad etholiadol) o fewn y cynigion yw Yr Hendy Tŷ-croes (20% uwchlaw'r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, y tangynrychiolaeth fwyaf yw yn Hendy (31% uwchlaw'r cyfartaledd sirol).
Y gorgynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiad etholiadol) o fewn y cynigion yw Y Garnant (19% islaw'r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, y gorgynrychiolaeth fwyaf yw yn Llanfihangel Aberbythych (23% islaw'r cyfartaledd sirol).
Mae'r Comisiwn yn cynnig 23 ward aml-aelod yn y sir sy'n cynnwys: 19 ward etholiadol dau aelod; a phedair ward etholiadol tri aelod.
Mae'r Comisiwn yn gwahodd ymatebion i'w gynigion tan 12 Tachwedd 2025, a gall trigolion anfon eu sylwadau drwy e-bost i consultations@dbcc.gov.wales, yn y post i DBCC, 4ydd Llawr, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, neu drwy'r porth ymgynghori ar-lein yn www.reviewswales.wales.
Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, bydd y Comisiwn yn myfyrio ar yr ymatebion a dderbyniwyd ac yn datblygu ei Benderfyniadau Terfynol ar gyfer map newydd o wardiau cyngor, cyn cyflwyno'r map hwnnw i Lywodraeth Cymru.
Wrth wneud sylwadau ar agor yr ymgynghoriad, dywedodd prif weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:
“Mae'r Comisiwn yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda phobl yn Sir Gaerfyrddin, a'i bartneriaid mewn llywodraeth leol, wrth iddo geisio sicrhau bod pobl ledled y sir yn cael eu cynrychioli'n gyfartal, bod pleidleisiau pobl yr un cryfder, a bod cynghorwyr yn gallu rhannu llwyth gwaith mwy cyfartal.
“Yr arolwg etholiadol blaenorol ar gyfer Sir Gaerfyrddin oedd y cyntaf ers sawl blwyddyn, sy'n golygu bod yn rhaid i'r Comisiwn argymell newidiadau sylweddol i wardiau ledled y sir.
“Gyda arolygon bellach yn digwydd yn fwy rheolaidd, rydym yn falch o fod mewn sefyllfa lle mae mwyafrif helaeth y wardiau eisoes o fewn y gymhareb darged o etholwyr i gynghorwyr.
“Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y nifer fawr o wardiau nad ydynt yn cael eu cynnig i newid yn yr arolwg hwn.
“Mae’r Comisiwn yn cynnig rhai newidiadau fodd bynnag, felly rydym yn argymell yn gryf bod y rhai sydd â barn ar siâp eu ward yn ymateb i’n hymgynghoriadau i leisio barn.”