Swydd: Cynorthwyydd Gweinyddol
Cliciwch yma er mwyn gwneud cais ar Swyddi'r Gwasanaeth Sifil
Lleoliad
Caerdydd, Cymru, CF10 3NQ
Am y swydd
Crynodeb o'r swydd
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol i'r Prif Weithredwr, gan weithredu fel cynorthwyydd gweinyddol yn ogystal â chefnogi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru a’r Comisiwn Ffiniau i Gymru trwy gyflawni dyletswyddau swyddfa cyffredinol, gweinyddu adolygiadau a gwaith cymorth busnes a chyllid arall yn ôl y gofyn.
Swydd ddisgrifiad
Tasgau Allweddol:
- Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i'r Comisiwn gan gynnwys cymryd galwadau ffôn ac ateb ymholiadau lle bo hynny'n bosibl
- Rheoli gohebiaeth gan gynnwys negeseuon e-bost a phost
- Trefnu a rheoli dyddiaduron yr Uwch Dîm Arwain
- Cysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, cyflenwyr, a Chomisiynwyr.
- Trefnu a chydlynu cyfarfodydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru a’r Comisiwn Ffiniau i Gymru gan gynnwys cymryd cofnodion, ymweld â safleoedd, archebu gwestai, ac ambell Gyfarfod Cyhoeddus, os bydd angen
- Cadw a threfnu ffeiliau, cofnodion a dogfennau
- Darparu cymorth gweinyddol i wahanol ganghennau
- Bod yn Gynorthwyydd Personol i'r Prif Weithredwr
- Dyletswyddau cyffredinol eraill yn ôl yr angen
Manyleb bersonol
Meini Prawf sy’n Benodol i’r Swydd (hanfodol):
- Yn meddu ar sgiliau trefniadol, digidol a rheoli dyddiadur ardderchog - a'r gallu i gyflawni'n gyson mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym.
- Yn defnyddio ei fenter ei hun i gynllunio, yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm ac yn ymfalchïo yn ei waith.
- Yn meddu ar sgiliau rheoli rhanddeiliaid cryf ac ymagwedd broffesiynol tuag at ei waith.
- Sgiliau llafar ac ysgrifenedig cryf gan gynnwys y gallu i gyfleu gwybodaeth fanwl yn gryno.
- Sgiliau iaith Gymraeg (gweler isod am y lefelau gofynnol)
Meini Prawf sy’n Benodol i’r Swydd (dymunol):
- Cymwysterau ffurfiol ym maes gweinyddu swyddfa
Gofyniad o ran y Gymraeg:
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Deall:
3 = Gall ddeall sgwrsion arferol sy'n gysylltiedig â gwaith
Darllen:
3 = Gall ddarllen rhai deunyddiau arferol sy'n gysylltiedig â gwaith gyda chymorth e.e. geiriadur
Siarad:
4 = Gall bwrw ymlaen â sgwrs mewn rhan fwyaf o sgwrsion sy'n gysylltiedig â gwaith
Ysgrifennu:
3 = Gall baratoi deunyddiau arferol sy'n gysylltiedig â gwaith gyda gwirio
Ymddygiadau
Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:
- Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
- Cyflawni’n brydlon
Buddion
Ochr yn ochr â'ch cyflog o £24,420, mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn cyfrannu £7,074 tuag at fod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Buddion wedi'i Ddiffinio'r Gwasanaeth Sifil. Darganfyddwch pa fuddion y mae'r Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn eu darparu.
- Dysgu a datblygiad wedi'i deilwra i'ch rôl
- Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
- Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil gyda chyfraniad cyflogwr o 28.97%
Pethau rydych angen gwybod amdanynt
Manylion y broses ddethol
Mae'r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant (agor mewn ffenestr newydd), a bydd yn asesu eich Ymddygiadau.
Pan fyddwch chi'n pwyso'r botwm 'Gwnewch gais nawr', cewch eich cyfeirio at brawf y Gwasanaeth Sifil – mae canllawiau ar gyfer hyn i'w gweld yma Profion ar-lein y Gwasanaeth Sifil - GOV.UK (www.gov.uk). Nid yw'r prawf rydych chi i fod i'w gymryd wedi'i amseru a gallwch ei gwblhau ar eich cyflymder eich hun. Ar ôl pasio'r prawf, gofynnir i chi gwblhau manylion personol (nad ydynt wedi'u gweld gan y panel hidlo), eich hanes gyrfa a'ch cymwysterau.
Yna gofynnir i chi ddarparu 'datganiad personol' 750 gair sy'n dangos sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol a restrir yn y proffil rôl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dangos yn glir, yn eich datganiad ategol, sut rydych chi'n bodloni pob un o'r meini prawf a restrir yn y proffil rôl. Dylid ei gyflwyno drwy Swyddi'r Gwasanaeth Sifil erbyn 17/10/2025.
Dim ond os byddwch yn mynychu cyfweliad neu asesiad y rhoddir adborth.
Diogelwch
Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol.Rhaid i bobl sy'n gweithio gydag asedau'r llywodraeth gwblhau gwiriadau gwaelodlin diogelwch personél sylfaenol (agor mewn ffenestr newydd).
Gofynion cenedligrwydd
Mae'r swydd hon ar agor yn fras i'r grwpiau canlynol:
- gwladolion y DU
- gwladolion Gweriniaeth Iwerddon
- gwladolion gwledydd y Gymanwlad sydd â'r hawl i weithio yn y DU
- gwladolion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu'r cenhedloedd hynny sydd â statws sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio'n Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd (EUSS) (agor mewn ffenestr newydd)
- gwladolion yr UE, Y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu'r cenhedloedd hynny sydd wedi gwneud cais dilys am statws sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (EUSS)
- unigolion â chaniatâd cyfyngedig i aros neu ganiatâd amhenodol i aros a oedd yn gymwys i wneud cais am EUSS ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020
- gwladolion Twrcaidd, a rhai aelodau o deulu dinasyddion Twrcaidd, sydd wedi cronni'r hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil
Mwy o wybodaeth am ofynion cenedligrwydd (agor mewn ffenestr newydd)
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (agor mewn ffenestr newydd) yn nodi’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel yr amlinellir yn egwyddorion recriwtio (agor mewn ffenestr newydd) Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.Mae'r Gwasanaeth Sifil yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Felly, rydym yn cynnal Cynllun Hyderus o ran Anabledd (DCS) ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Gwasanaeth Sifil wedi ymrwymo i ddenu, cadw a buddsoddi mewn talent ble bynnag y canfyddir. I ddysgu mwy, gweler Cynllun Pobl y Gwasanaeth Sifil a'r Strategaeth Amrywiaeth (agor mewn ffenestr newydd) a Chynhwysiant y Gwasanaeth Sifil (agor mewn ffenestr newydd).
Gwneud cais a gwybodaeth bellach
Unwaith y bydd y swydd hon wedi cau, ni fydd yr hysbyseb swydd ar gael mwyach. Efallai y byddwch am gadw copi ar gyfer eich cofnodion.
Pwynt cyswllt ar gyfer ymgeiswyr
Cyswllt swydd :
- Enw :David Burley, Head of Business
- Ebost :vacancies@dbcc.gov.wales
- Ffôn :02920 464819
Tîm recriwtio
- Ebost :vacancies@dbcc.gov.wales
Cliciwch yma er mwyn gwneud cais ar Swyddi'r Gwasanaeth Sifil
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 278.64 KB
-
Maint ffeil: 281.73 KB