Swydd Wag: Cadeirydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
Gwneud cais
Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i arwain Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Yn ogystal â'i ddiben craidd o fonitro'r ffiniau ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, mae'r Comisiwn wedi ymgymryd â chyfrifoldebau newydd gan gynnwys adolygu ffiniau etholaethol y Senedd, cynnal y Bwrdd Rheoli Etholiadol, a goruchwylio tâl cynghorwyr. Gyda'r cyfrifoldebau newydd hyn, a'r angen i sefydlu etholaethau hollol newydd ar gyfer y Senedd, y bydd ymgeiswyr yn sefyll ynddynt yn etholiad 2030, mae'r Comisiwn ar flaen y gad o ran llunio tirwedd ddemocrataidd Cymru. Bydd y Cadeirydd yn chwarae rôl bwysig wrth lywio'r mentrau hyn gydag awdurdod ac uniondeb.
Ffeithiau allweddol am y swydd
- Lleoliad: Caerdydd neu'n rhithwir drwy MS Teams.
- Ymrwymiad amser: O leiaf 1-2 ddiwrnod y mis.
- Hyd y penodiad: Penodiad o 4 blynedd i ddechrau.
- Tâl: cyfradd o £337 am ddiwrnod llawn.
- Dyddiad dechrau arfaethedig: 1 Ionawr 2026, gyda threfniadau trosglwyddo o adeg y penodiad
I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma.