Argymhellion Arolwg Cymunedol Ceredigion wedi'u derbyn

Mae Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, wedi cyhoeddi ei bod wedi cytuno ag argymhellion Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn dilyn ei arolwg o gymunedau yng Ngheredigion.

Argymhellodd y Comisiwn newidiadau i ffiniau a threfniadau etholiadol 50 o gymunedau yng Ngheredigion.

Derbyniwyd 260 o ymatebion yn ystod 2 gyfnod ymgynghori'r arolwg.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad bod yr argymhellion wedi'u derbyn, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:

“Mae'r Comisiwn wrth ei fodd y bydd argymhellion ei arolyg cymunedol bellach yn cael ei weithredu.
“Hoffem ddiolch i’r Gweinidog am wneud y penderfyniad hwn, a diolch hefyd i'n partneriaid yng nghyngor Ceredigion, yr holl gynghorau cymuned a thref yn y sir, ac aelodau'r cyhoedd a gymerodd ran mor adeiladol yn yr arolwg.
“Mae adolygu a diweddaru ffiniau a threfniadau etholiadol cymunedau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl ledled Ceredigion yn parhau i dderbyn y gynrychiolaeth orau, a bod newidiadau lleol i boblogaethau, er enghraifft lle mae ystadau tai newydd wedi’u hadeiladu, yn cael eu hadlewyrchu yn ffiniau cymunedau.”

Bydd argymhellion arolwg cymunedol Ceredigion yn cael eu gweithredu gydag addasiadau.

  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw ward gymunedol unigol Llanddewi Aberarth. Rhoddir yr enw Saesneg Llanddewi Aberarth a’r enw Cymraeg Llanddewi Aber-arth ar y ward gymunedol.
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw cymuned a ward gymunedol unigol Llandyfriog. Rhoddir yr enw Saesneg Llandyfriog a’r enw Cymraeg Llandyfrïog ar y gymuned a’r ward gymunedol.

Bydd y newidiadau’n dod i rym yn yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf.

Gallwch ddarllen datganiad Llywodraeth Cymru yma.

Amser darllen amcangyfrifedig:

4 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: