Argymhellion Arolwg Cymunedol Caerffili wedi'u derbyn heb eu haddasu
Mae’r Prif Weinidog, Eluned Morgan AS, wedi cyhoeddi ei bod wedi cytuno ag argymhellion Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn dilyn ei arolwg o gymunedau yng Nghaerffili.
Argymhellodd y Comisiwn newidiadau i ffiniau 14 o gymunedau yng Nghaerffili, yn ogystal â threfniadau etholiadol yr 14 cymuned.
Derbyniwyd 45 o ymatebion yn ystod 2 gyfnod ymgynghori'r arolwg.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad bod yr argymhellion wedi'u derbyn, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:
“Mae'r Comisiwn wrth ei fodd y bydd y cyntaf o'i arolygon cymunedol bellach yn cael ei weithredu heb addasiad.
“Hoffem ddiolch i’r Prif Weinidog am wneud y penderfyniad hwn, a diolch hefyd i'n partneriaid yng nghyngor Caerffili, yr holl gynghorau cymuned a thref yn y sir, ac aelodau'r cyhoedd a gymerodd ran mor adeiladol yn yr arolwg.
“Mae adolygu a diweddaru ffiniau a threfniadau etholiadol cymunedau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl ledled Caerffili yn parhau i dderbyn y gynrychiolaeth orau, a bod newidiadau lleol i boblogaethau, er enghraifft lle mae ystadau tai newydd wedi’u hadeiladu, yn cael eu hadlewyrchu yn ffiniau cymunedau.”
Bydd argymhellion arolwg cymunedol Caerffili yn cael eu gweithredu’n llawn heb eu haddasu.
Bydd y newidiadau’n dod i rym yn yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf.