Argymhellion Arolwg Cymunedol Bro Morgannwg wedi'u derbyn heb eu haddasu

Mae Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, Jane Bryant MS, wedi cyhoeddi ei bod wedi cytuno ag argymhellion Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn dilyn ei arolwg o gymunedau ym Mro Morgannwg.

Argymhellodd y Comisiwn newidiadau i ffiniau 25 o gymunedau ym Mro Morgannwg, yn ogystal â threfniadau etholiadol 25 o gymunedau.

Derbyniwyd 259 o ymatebion yn ystod 2 gyfnod ymgynghori'r arolwg.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad bod yr argymhellion wedi'u derbyn, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:

“Mae'r Comisiwn wrth ei fodd y bydd y cyntaf o'i arolygon cymunedol bellach yn cael ei weithredu heb addasiad.

“Hoffem ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am wneud y penderfyniad hwn, a diolch hefyd i'n partneriaid yng nghyngor Bro Morgannwg, yr holl gynghorau cymuned a thref yn y Fro, ac aelodau'r cyhoedd a gymerodd ran mor adeiladol yn yr arolwg.

“Mae adolygu a diweddaru ffiniau a threfniadau etholiadol cymunedau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl ledled Bro Morgannwg yn parhau i dderbyn y gynrychiolaeth orau, a bod newidiadau lleol i boblogaethau, er enghraifft lle mae ystadau tai newydd wedi’u hadeiladu, yn cael eu hadlewyrchu yn ffiniau cymunedau.”

Bydd argymhellion arolwg cymunedol Bro Morgannwg yn cael eu gweithredu’n llawn heb eu haddasu.

Bydd y newidiadau’n dod i rym yn yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf.

Gallwch ddarllen yr Argymhellion Terfynol yma.

Gallwch ddarllen datganiad Llywodraeth Cymru yma

Amser darllen amcangyfrifedig:

4 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: