Penodi Comisiynwyr newydd i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi penodiad 3 Chomisiynydd newydd i ymuno â Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Penododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol Dr Anwen Elias, Ian Brancroft, a Siwan Davies am 4 blynedd, gyda'u tymhorau'n para tan 30 Ebrill 2030.

Ian Bancroft fydd cadeirydd newydd y Bwrdd Rheoli Etholiadau, gyda'r cadeirydd presennol Karen Jones wedi dod yn gadeirydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn ddiweddar.

Mae tymor Ian Bancroft yn dechrau 1 Ebrill 2026, gyda thymhorau Dr Anwen Elias a Siwan Davies yn dechrau 1 Mai 2026.

Ian Bancroft


Mae Ian wedi bod yn arweinydd yn y sector cyhoeddus ers dros 35 mlynedd gyda'i swydd barhaol ddiwethaf fel Prif Weithredwr a Swyddog Canlyniadau yn CBS Wrecsam. Yn ystod y cyfnod hwn, goruchwyliodd bob math o etholiad gan gynnwys gweithredu fel Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol ac roedd yn rhan o'r gwaith cynnar i sefydlu'r Bwrdd Rheoli Etholiadol. Ers mis Ionawr 2025, mae Ian wedi bod yn ymgymryd â phortffolio o waith gan gynnwys mentora a hyfforddi, gwaith arweinyddiaeth, penodiadau cyhoeddus a rolau gwirfoddol gyda'r nod o ddefnyddio ei wybodaeth i roi yn ôl i'r sector cyhoeddus. Ar hyn o bryd, ef yw Is-gadeirydd Chwaraeon Cymru lle mae wedi cymryd rhan weithredol ar waith llywodraethu a datblygu'r bwrdd.

Dr Anwen Elias


Mae Dr. Anwen Elias yn Ddarllenydd mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi'n ymchwilydd profiadol sydd ag arbenigedd mewn datganoli yn y DU ac Ewrop, etholiadau a gwleidyddiaeth Cymru, a democratiaeth gyfranogol ac ystyriol. Mae hi'n Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru. Roedd Anwen yn aelod o'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (2021-2024) a chadeiriodd Grŵp Cynghori Democratiaeth Arloesol Llywodraeth Cymru (2025-26).

Siwan Davies


Mae Siwan Davies yn gyfarwyddwr profiadol ac yn weithredwr lefel bwrdd mewn seneddau cenedlaethol a rhyngwladol. Ei harbenigedd yw arweinyddiaeth strategol mewn amgylcheddau gwleidyddol gyda ffocws ar lywodraethu da, arweinyddiaeth foesegol a newid sefydliadol. Mae Siwan wedi gweithio ochr yn ochr ag aelodau etholedig ers dros 20 mlynedd mewn rolau uwch ymgynghorol, corfforaethol a chyflawni ac mae wedi moderneiddio cyfundrefnau etholiadol, tâl a goruchwylio. Fel aelod anweithredol, mae Siwan wedi gwasanaethu fel aelod annibynnol o bwyllgorau llywodraethu, archwilio a safonau awdurdodau lleol.

Mae gan Siwan ddealltwriaeth fanwl o lywodraethu lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Fel Dirprwy Brif Weithredwr y Senedd, arweiniodd wasanaethau sy'n canolbwyntio ar aelodau a alluogodd wleidyddion i ddeddfu, datblygu polisi a chraffu ar berfformiad ar draws pob portffolio i wella gwasanaethau i ddinasyddion. Arweiniodd Siwan hefyd raglen diwygio'r Senedd, gan gyflawni'r newid sefydliadol ac etholiadol mwyaf ers datganoli.

Mae gan Siwan yrfa bortffolio bellach ac mae ganddi benodiadau'r Goron a chyhoeddus ar lefel uwch ac mae'n cadeirio cymdeithas dai. Mae hi hefyd yn gweithio gydag aelodau etholedig ac arweinwyr uwch y sector cyhoeddus i wella eu galluoedd arweinyddiaeth strategol.

Yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, mae Siwan yn hyrwyddo arweinyddiaeth ddwyieithog yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau estyniadau i dymhorau’r Comisiynwyr Frank Cuthbert, Ginger Wiegand, a Michael Imperato am 4 blynedd o 1 Hydref 2026 tan 30 Medi 2030.

Wrth wneud sylwadau ar y penodiadau, dywedodd Cadeirydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Karen Jones:

“Mae’r Comisiwn yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am wneud y penodiadau newydd hyn ac yn edrych ymlaen at elwa o arbenigedd a phrofiad ein comisiynwyr newydd, yn ogystal â’r rhai y mae eu tymhorau wedi’u hymestyn.
“Hoffem hefyd ddiolch i Frances Duffy am ei gwaith ymroddedig fel comisiynydd wrth i’w thymor ddod i ben. Roedd Frances yn allweddol wrth sicrhau trosglwyddiad llyfn cyfrifoldebau i’r Comisiwn o hen Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
“Mae’r comisiynwyr newydd yn ymuno ar adeg gyffrous i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, wrth i ni weithio tuag at feithrin hyder pleidleisio pobl gyda’r wefan wybodaeth newydd, bwrwpleidlais.cymru, ac edrych ymlaen at arolwg etholaethau nesaf y Senedd ar ôl etholiad mis Mai.”

Amser darllen amcangyfrifedig:

3 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: