Bwrwpleidlais.cymru: Lansio gwefan wybodaeth i cynyddu hyder pleidleisio

Mae gwefan gwybodaeth newydd sbon i bleidleiswyr, bwrwpleidlais.cymru, wedi'i lansio heddiw (2 Mawrth) gan Fwrdd Rheoli Etholiadol Cymru, rhan o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Bwrwpleidlais.cymru yw'r wefan gyntaf o'i math yng Nghymru ac mae'n dweud wrth bobl bopeth sydd angen iddynt ei wybod am yr etholiad, gan gynnwys cyngor am bleidleisio, gwybodaeth am y Senedd, a’r gallu i chwilio am wybodaeth leol yn ôl côd post.

Mae bwrwpleidlais.cymru yn dal gwybodaeth am bwy all gofrestru i bleidleisio, sut mae pleidleisio'n gweithio mewn gorsafoedd pleidleisio yn ogystal â phleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy, a pha gefnogaeth y gall pobl ei disgwyl gyda hygyrchedd wrth iddynt fynd i bleidleisio.

Mae’r chwiliwr côd post ar bwrwpleidlais.cymru yn gadael i bleidleiswyr weld ym mha un o’r 16 o etholaethau newydd y byddant yn pleidleisio, yn ogystal â dweud wrthynt ble mae eu gorsaf bleidleisio leol.

Unwaith y bydd enwebiadau wedi cau, bydd hefyd yn dweud wrth bleidleiswyr pa bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol sy'n sefyll yn eu hardal.

Mae'r wefan hefyd yn egluro sut mae'r Senedd yn gweithio a beth mae'n ei wneud, yn ogystal â thynnu sylw at ba feysydd polisi y mae'r Senedd yn gyfrifol amdanynt a pha rai sy'n cael eu dal gan senedd y DU. Mae'r wefan hefyd yn trafod y gwahaniaeth rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru.

Disgwylir datblygiadau pellach ar y wefan yn yr wythnosau nesaf. Am y tro cyntaf mewn etholiad Cymreig, bydd pobl yn gallu dod o hyd i wybodaeth hygyrchedd ar gyfer eu gorsaf bleidleisio leol yn fuan, a bydd pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol hefyd yn gallu cyhoeddi eu taflenni etholiad ar y wefan fel bod pleidleiswyr nid yn unig yn gwybod dros bwy y gallant bleidleisio, ond hefyd beth yw gweledigaeth yr ymgeiswyr.

Yn dilyn yr etholiad, bydd bwrwpleidlais.cymru hefyd yn cyhoeddi canlyniadau'r etholiad yn llawn.

Wrth wneud sylwadau ar lansio'r wefan, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:

“Mae etholiad pwysig ar y gweill ar 7 Mai, a bwrwpleidlais.cymru yw'r lle i fynd i ddysgu’r cwbl amdano.
“Mae pobl ledled Cymru yn edrych ymlaen at leisio eu barn yn yr etholiad hwn, ond mae llawer o bobl yn teimlo nad oes ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt cyn iddynt fynd i bleidleisio.
“Os oes gennych gwestiynau am yr etholiad hwn, yna ewch i bwrwpleidlais.cymru. Mae hyder pleidleisio yn dechrau yma.”

Amser darllen amcangyfrifedig:

2 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: