Argymell ffiniau Newydd ar gyfer wardiau cyngor Caerffili
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi ei argymhellion terfynol ar gyfer newidiadau i ffiniau wardiau cyngor yng Nghaerffili.
Archwiliodd arolwg etholiadol Caerffili ffiniau wardiau cyngor ar draws y fwrdeistref sirol gyda'r bwriad o sicrhau bod gan bob ward gyngor gymhareb fras gyfartal o etholwyr i gynghorwyr.
Cwblhawyd yr arolwg diwethaf o wardiau cyngor Caerffili yn 2020, a chwblhawyd arolwg cymunedol, a oedd yn edrych ar ffiniau a threfniadau etholiadol cymunedau yn y sir, yn 2024.
Ar ôl cwblhau eu harolwg blaenorol o wardiau cyngor Caerffili ychydig dros 5 mlynedd yn ôl, roedd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn edrych i ddod â phob ward o fewn 20% o gyfradd gyfartalog y cyngor o etholwyr i gynghorwyr.
Cyn yr arolwg, roedd 4 o'r wardiau y tu allan i'r ystod honno.
Ystyriodd yr arolwg ffactorau eraill hefyd, megis gwledigrwydd wardiau, cysylltiadau lleol, ac amddifadedd cymharol wardiau wrth iddo ddatblygu ei argymhellion.
Mae'r Comisiwn wedi argymell cyngor o 68 aelod, gostyngiad bach o'i gymharu â'r 69 aelod presennol, gyda chyfartaledd sirol arfaethedig o 1,982 o etholwyr fesul aelod.
Y tangynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) o fewn yr argymhellion yw Crosskeys (26% uwchlaw'r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, y tangynrychiolaeth fwyaf yw Crosskeys (28% uwchlaw cyfartaledd y sir).
Y gorgynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiant etholiadol) o fewn yr argymhellion yw Ynys-ddu (24% islaw'r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, y gorgynrychiolaeth fwyaf yw Ynys-ddu (23% islaw cyfartaledd y sir).
Mae'r Comisiwn yn argymell 24 ward aml-aelod yn y sir sy'n cynnwys: 12 ward etholiadol dau aelod, 10 ward tri aelod, a 2 ward pedwar aelod.
Mae'r Comisiwn wedi cyflwyno ei argymhellion terfynol i Lywodraeth Cymru. Byddant nawr yn penderfynu a ddylid rhoi'r argymhellion hyn ar waith trwy wneud gorchymyn.
Os yw aelodau'r cyhoedd yn dymuno gwneud sylwadau ar yr argymhellion hyn, dylent gysylltu â Llywodraeth Cymru:
Adran Etholiadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu drwy e-bost i:
Etholiadau.elections@llyw.cymru
Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi’r Argymhellion Terfynol, dywedodd prif weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:
“Hoffai’r Comisiwn diolch i drigolion Caerffili, a’n partneriaid llywodraeth leol, am y ffordd y maent wedi ymgysylltu â’r arolwg hwn.
“Nod y Comisiwn oedd sicrhau bod pobl ledled y sir yn cael eu cynrychioli’n gyfartal, bod pleidleisiau pobl yn cario’r un pwer, a bod cynghorwyr yn rhannu llwyth gwaith mwy cyfartal.
“Yr arolwg etholiadol blaenorol ar gyfer Caerffili oedd y cyntaf ers sawl blwyddyn, sy’n golygu bod yn rhaid i’r Comisiwn argymell newidiadau sylweddol i wardiau ledled y sir pryd hynny.
“Gyda arolygon bellach yn digwydd yn fwy rheolaidd, rydym yn falch o fod mewn sefyllfa lle mae mwyafrif helaeth y wardiau eisoes o fewn y gymhareb darged o etholwyr i gynghorwyr.
“Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y nifer fawr o wardiau nad ydym wedi argymell unrhyw newidiadau iddynt yn yr arolwg hwn.”