Argymhellir ffiniau wardiau newydd cyngor Bro Morgannwg
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi ei argymhellion terfynol ar gyfer newidiadau i ffiniau wardiau cyngor ym Mro Morgannwg.
Archwiliodd arolwg etholiadol Bro Morgannwg ffiniau wardiau cyngor ar draws y fwrdeistref sirol gyda'r bwriad o sicrhau bod gan bob ward gyngor gymhareb fras gyfartal o etholwyr i gynghorwyr.
Cwblhawyd yr arolwg diwethaf o wardiau cyngor Bro Morgannwg yn 2021, a chyflwynwyd arolwg cymunedol, yn edrych ar ffiniau a threfniadau etholiadol cymunedau yn y sir, yn 2024.
Ar ôl cwblhau eu harolwg blaenorol o wardiau cyngor Bro Morgannwg 4 blynedd yn ôl, roedd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn edrych i ddod â phob ward o fewn 20% o gyfradd gyfartalog y cyngor o etholwyr i gynghorwyr.
Cyn yr arolwg, roedd 5 o'r wardiau presennol y tu allan i'r ystod honno.
Ystyriodd yr arolwg ffactorau eraill hefyd, megis gwledigrwydd wardiau, cysylltiadau lleol, ac amddifadedd cymharol wardiau wrth iddo ddatblygu ei gynigion.
Mae'r Comisiwn wedi argymell cyngor o 59 aelod, cynnydd o'r 58 aelod presennol, gyda chyfartaledd sirol arfaethedig o 1,752 o etholwyr fesul aelod.
Mae'r Comisiwn yn cynnig y bydd 26 ward, heb unrhyw newidiadau wedi'u hargymell ar gyfer 22 o'r wardiau etholiadol presennol.
Y tangynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiad etholiadol) o fewn y cynigion yw Gwenfô (23% uwchlaw'r cyfartaledd sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, y tangynrychiolaeth fwyaf yw yn Llandŵ (42% uwchlaw cyfartaledd y sir).
Y gorgynrychiolaeth fwyaf (o ran amrywiad etholiadol) o fewn y cynigion yw Llandŵ (28% islaw cyfartaledd y sirol arfaethedig). Ar hyn o bryd, y gorgynrychiolaeth fwyaf yw yn Cosmeston (61% islaw cyfartaledd y sir).
Mae'r Comisiwn yn cynnig 21 ward aml-aelod yn y sir sy'n cynnwys: 12 ward etholiadol dau aelod, 6 ward etholiadol tri aelod, a 3 ward etholiadol pedwar aelod.
Mae'r Comisiwn wedi cyflwyno ei argymhellion terfynol i Lywodraeth Cymru. Byddant nawr yn penderfynu a ddylid rhoi'r argymhellion hyn ar waith drwy wneud gorchymyn.
Os yw aelodau'r cyhoedd yn dymuno gwneud sylwadau ar yr argymhellion hyn, dylent gysylltu â Llywodraeth Cymru:
Yr Is-adran Etholiadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu drwy anfon neges e-bost at:
Etholiadau.elections@gov.wales
Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi ei Argymhellion Terfynol, dywedodd prif weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:
“Mae'r Comisiwn eisiau diolch i bobl ym Mro Morgannwg, a'i bartneriaid mewn llywodraeth leol, am y ffordd y maent wedi ymgysylltu â'r arolwg hwn.
Nod y Comisiwn oedd sicrhau bod pobl ledled y sir yn cael eu cynrychioli'n gyfartal, bod pleidleisiau pobl yn cario'r un cryfder, a bod cynghorwyr yn gallu rhannu llwyth gwaith mwy cyfartal.
“Yr arolwg etholiadol blaenorol ar gyfer Bro Morgannwg oedd y cyntaf mewn sawl blwyddyn, sy'n golygu bod yn rhaid i'r Comisiwn argymell newidiadau sylweddol i wardiau ledled y sir.
“Gyda arolygon bellach yn digwydd yn fwy rheolaidd, rydym yn falch o fod mewn sefyllfa lle mae mwyafrif helaeth y wardiau eisoes o fewn y gymhareb darged o etholwyr i gynghorwyr.
“Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y nifer fawr o wardiau nad ydym wedi argymell unrhyw newidiadau iddynt yn yr arolwg hwn.”