Swydd Wag: Cadeirydd Pwyllgor Llywodraethau ac Archwilio

Mae’r Comisiwn yn bwriadu penodi Cadeirydd i'r Pwyllgor Llywodraethau ac Archwilio.

Mae gwybodaeth am y rôl ar gael isod. Dylid cyflwyno ceisiadau (CV a llythyr eglurhaol), i swyddi.cdffc.llyw.cymru erbyn 12/02/2025.

Swydd-ddisgrifiad Cadeirydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Mae’n ofynnol i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y Comisiwn) sicrhau bod ganddo drefniadau effeithiol ar waith i roi sylw annibynnol a lefel uchel i sicrhau bod trefniadau llywodraethu, risg a rheolaeth yn ddigonol. Mae rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (y Pwyllgor) o ran sicrhau bod digon o sicrwydd ynghylch risg a rheolaeth lywodraethu yn rhoi mwy o hyder i bawb sy'n gyfrifol am lywodraethu bod y trefniadau hynny'n effeithiol. Mae gan y pwyllgor drosolwg ar archwilio mewnol ac allanol ynghyd â'r adroddiadau ariannol a llywodraethu, gan helpu i sicrhau bod trefniadau digonol ar waith ar gyfer her fewnol ac atebolrwydd cyhoeddus.

Pwrpas y Rôl

  • Darparu arweinyddiaeth effeithiol i'r Pwyllgor, gan sicrhau safonau uchel o lywodraethu corfforaethol ac uniondeb personol.

Atebolrwydd:

  • I'r Comisiwn

Prif Gyfrifoldebau:

  • Rhoi sicrwydd i’r Swyddog Cyfrifyddu, gan sicrhau bod cyllid sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gymhwyso’n briodol ac yn unol â gofynion polisïau Llywodraeth Cymru.
  • Dangos arweinyddiaeth arloesol i lywio gweledigaeth strategol y Pwyllgor ac addasu i heriau a chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg.
  • Dangos annibyniaeth, uniondeb a didueddrwydd wrth wneud penderfyniadau yn unol â gofynion cyfreithiol, cyfansoddiadol a pholisi.
  • Ystyried gofynion y Comisiwn a chyngor proffesiynol uwch reolwyr y Comisiwn gan gynnwys y Prif Weithredwr, Pennaeth Polisi a Rhaglenni, Pennaeth Busnes a Phennaeth Iechyd Democrataidd.
  • Cydymffurfio â Chod Ymddygiad y Comisiwn.
  • Gweithio yn unol â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor.
  • Cyfrannu at ddatblygu blaengynllun gwaith y Pwyllgor.
  • Hyrwyddo rôl y Pwyllgor o fewn y Comisiwn.
  • Ymateb i unrhyw argymhellion a wneir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (Archwilio Cymru).
  • Gosod yr agenda ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor (gyda chefnogaeth y Rheolwr Cyllid)
  • Cymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant a datblygiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl.

Cyfrannu at waith y Pwyllgor yn ei rôl yn:

Adolygu a chraffu ar faterion ariannol y Comisiwn

  • Gwneud argymhellion mewn perthynas â materion ariannol y Comisiwn.
  • Adolygu ac asesu gallu'r Comisiwn i adrodd ar ei wariant a'i sefyllfa gyllidebol yn effeithiol
  • Goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol yr awdurdod.
  • Gweithio gydag archwilwyr mewnol ac allanol.
  • Adolygu'r datganiadau ariannol a baratowyd gan yr awdurdod a'u cymeradwyo i'w llofnodi.

Cyfrannu at berfformiad effeithiol y Comisiwn

  • Adolygu ac asesu gallu'r Comisiwn i ymdrin â chwynion yn effeithiol.
  • Adolygu ac asesu gallu'r Comisiwn i ymdrin â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn effeithiol.
  • Adolygu ac asesu effeithiolrwydd trefniadau Diogelwch TGCh y Comisiwn.

Adolygu ac asesu trefniadau Llywodraethu, Rheoli Risg a Rheolaeth y Comisiwn

  • Adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Comisiwn.
  • Gwneud argymhellion i’r Comisiwn ar ba mor ddigonol ac effeithiol yw’r trefniadau hynny.
  • Adolygu ac asesu’r risgiau ariannol sy’n gysylltiedig â llywodraethu corfforaethol, a bod yn fodlon bod datganiadau sicrwydd y Comisiwn, gan gynnwys y datganiad llywodraethu blynyddol, yn adlewyrchu’r amgylchedd risg ac unrhyw weithgareddau sydd eu hangen i’w wella.

Meini Prawf y Person:

Ymrwymiad i Werthoedd Bywyd Cyhoeddus

Ymrwymiad i 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' Pwyllgor Nolan a gwerthoedd y Comisiwn a'r gwerthoedd canlynol mewn swydd gyhoeddus:

  • Anhunanoldeb
  • Uniondeb
  • Gwrthrychedd
  • Atebolrwydd
  • Didwylledd
  • Gonestrwydd
  • Arweinyddiaeth
  • Cydraddoldeb a chynhwysiant

Sgiliau/Profiad

Meini Prawf Hanfodol:

  • Sgiliau Dadansoddol mewn Risg, Perfformiad a Rheolaeth Ariannol: Sgiliau dadansoddol cryf mewn risg, perfformiad, a rheolaeth ariannol, gyda'r gallu i nodi materion a goblygiadau allweddol.
  • Meithrin Perthynas a Hyder Rhanddeiliaid: Gallu wedi’i brofi i feithrin a chynnal perthnasoedd llwyddiannus, darparu her, ac ysbrydoli hyder ymhlith ystod eang o randdeiliaid.
  • Heriau’r Sector Cyhoeddus: Gallu wedi’i brofi i fynd i'r afael â heriau allweddol yn y sector cyhoeddus trwy brofiad ymarferol.
  • Profiad o Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: O leiaf 5 mlynedd o brofiad fel Cadeirydd neu aelod o Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat.

Meini Prawf Dymunol:

  • Gwybodaeth am Lywodraeth Leol yng Nghymru: Gwybodaeth am sut mae llywodraeth leol yn gweithredu yng Nghymru a phwysigrwydd iechyd democrataidd.
  • Dealltwriaeth o'r Fframwaith Deddfwriaethol: Dealltwriaeth o'r fframwaith deddfwriaethol y mae'r Comisiwn yn gweithredu o'i fewn i sicrhau y gwneir penderfyniadau effeithiol a chadarn.

Cydnabyddiaeth Ariannol:

Mae gan y Cadeirydd hawl i hawlio cydnabyddiaeth ariannol ar gyfradd o £311 y diwrnod. Bydd costau teithio a chynhaliaeth yn cael eu talu yn ôl yr angen.

Bydd y penodiad yn para am gyfnod penodol o 4 blynedd.

Pwynt cyswllt:

Shereen Williams, Prif Weithredwr, Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, (Ffôn 029 2046 4819) E-bost: shereen.williams@cdffc.llyw.cymru

Dylid cyflwyno ceisiadau (CV a llythyr eglurhaol), i swyddi@cdffc.llyw.cymru erbyn 12/02/25

Amser darllen amcangyfrifedig:

6 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: