Adroddiad blynyddol drafft ar gydnabyddiaeth ariannol 2027-28

Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol Drafft ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2027-28, ac mae'r ymgynghoriad arno bellach ar agor tan 17 Rhagfyr.

Gallwch ddarllen y rhagair a'r cyflwyniad isod, a gallwch gael mynediad at yr adroddiad llawn yma, neu fel dolen lawrlwytho ar waelod y dudalen hon.

Rhagair

A minnau’n Gadeirydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, mae’n bleser gennyf gyflwyno’r Adroddiad Blynyddol Drafft hwn ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2027-28. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu penderfyniadau arfaethedig y Comisiwn ynglŷn â’r gydnabyddiaeth ariannol, y treuliau a’r buddion sy’n daladwy i aelodau etholedig a chyfetholedig prif gynghorau, cynghorau cymuned a thref, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau parc cenedlaethol a chydbwyllgorau corfforedig ledled Cymru.

Mae gwaith y Comisiwn ar gydnabyddiaeth ariannol wedi cyrraedd cam pwysig. Mae etholiadau llywodraeth leol 2027 yn rhoi cyfle priodol i adolygu’r fframwaith ac ystyried a yw’n parhau i gefnogi democratiaeth leol effeithiol, hygyrch a chynrychioliadol yng Nghymru.

Mae’r penderfyniadau drafft yn yr adroddiad hwn yn ceisio cydbwyso nifer o ystyriaethau: y cyfrifoldebau a’r ymrwymiad amser a ddisgwylir gan aelodau; pwysigrwydd dileu rhwystrau rhag cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus; yr angen i amddiffyn gwerth cydnabyddiaeth ariannol rhag cael ei erydu gan chwyddiant; a’r pwysau ar gyllid cyhoeddus. Rydym wedi ystyried y fframwaith rolau uwch a’r ymagwedd at uwchraddio blynyddol yn y dyfodol.

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed safbwyntiau ar ddefnyddio’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr, gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr, fel sail ar gyfer uwchraddio eleni. Bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl gynrychiolaethau’n ofalus cyn gwneud ei benderfyniadau terfynol.

Hoffwn ddiolch i’r aelodau, y swyddogion, y cyrff cynrychioliadol a’r sefydliadau partner sydd wedi cyfrannu at ein gwaith hyd yma. Mae eu tystiolaeth a’u profiad yn hanfodol i sicrhau bod y fframwaith cydnabyddiaeth ariannol yn parhau i fod yn gadarn, yn gymesur ac yn addas i’r diben. Anogaf bawb sydd â diddordeb mewn democratiaeth leol yng Nghymru i ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

Karen Jones
Cadeirydd

Cyflwyniad

 Dyma ail adroddiad blynyddol drafft y Comisiwn ar gydnabyddiaeth ariannol.

Wrth ysgrifennu’r adroddiad hwn, sy’n dod yn union cyn etholiadau llywodraeth leol mis Mai 2027, rydym wedi ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau mawr i’r fframwaith. Rydym wedi dod i’r casgliad nad oes angen unrhyw newidiadau o’r fath ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu bod yr adroddiad drafft hwn ar gyfer 2027-28 yn cynnwys symiau uwchraddio, lle bo’n briodol, ond yn gadael y fframwaith yn ddigyfnewid.

Rolau uwch

Cynhaliodd y Comisiwn arolwg o awdurdodau, eu haelodau a chyrff cynrychioliadol i ganfod p’un a yw’r fframwaith cydnabyddiaeth ariannol presennol ar gyfer y rhai sydd â rolau uwch yn cydnabod ymrwymiad amser a chyfrifoldebau’r rolau hynny’n briodol.

Cawsom safbwyntiau cymysg, yn amrywio o ddim newid i ddiwygiadau pellgyrhaeddol i lywodraeth leol yng Nghymru. Nid oedd consensws ynglŷn ag unrhyw newid penodol i’r fframwaith presennol.

Heb ddigon o dystiolaeth neu gytundeb ynglŷn ag unrhyw newidiadau penodol, mae’r Comisiwn wedi penderfynu na fydd unrhyw newidiadau i’r fframwaith rolau uwch ar yr adeg hon.

Mae’r Comisiwn yn ymwybodol bod deiliaid rolau gweithredol yn ymwneud ag ystod o gyrff rhanbarthol. Byddwn yn adolygu effaith y rhain yn ystod y cyfnod sydd i ddod.

Yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE)

Ers nifer o flynyddoedd, defnyddiwyd ASHE i bennu cyflog sylfaenol aelodau etholedig prif gynghorau, a chydnabyddiaeth ariannol arall a gyfrifir o’r ffigur hwnnw.

Y ffigur a ddefnyddiwyd oedd tair rhan o bump o enillion wythnosol gros canolrifol pobl sy’n byw yng Nghymru. Teimlwyd bod defnyddio’r ffigur hwn yn alinio cydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig ag enillion pobl sy’n byw yng Nghymru. Dewiswyd tair rhan o bump oherwydd bod ymchwil yn dangos bod cynghorwyr, ar gyfartaledd, yn ymroi o leiaf dridiau’r wythnos i’r rôl.

Mae ASHE yn cael ei gyhoeddi ar ôl amserlen waith y Comisiwn ar gyfer gwneud ei benderfyniadau. Roedd y ffigur a ddefnyddiodd y Comisiwn i bennu cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2026-27 yn ymwneud â mis Ebrill 2024. Roedd hyn yn golygu ei fod yn ddwyflwydd oed erbyn i’n penderfyniadau ddod i rym. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi’r ffigur bob mis
Hydref. Mae hyn yn rhy hwyr i ni ystyried y data mwyaf cyfredol yn ein Hadroddiad Blynyddol Drafft ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Rydym wedi ystyried mesurau eraill cynnydd mewn costau byw a chyflogau, fel y’u cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r Comisiwn o’r farn mai bwriad cynnydd mewn cydnabyddiaeth ariannol yw sicrhau nad yw aelodau etholedig yn ysgwyddo costau uwch o ganlyniad i newidiadau i gostau byw wrth iddynt gyflawni eu rôl gyhoeddus. Credwn fod mesur sy’n ymwneud â chostau byw yn briodol. Y gyfradd a ddefnyddir fel arfer i fesur cynnydd mewn costau byw yw’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr gan gynnwys costau perchen-feddianwyr (CPIH). Y ffigur diweddaraf ar gyfer hyn ar adeg llunio’r adroddiad hwn yw ffigur mis Mai 2026, sef 3%.

Ar ôl ystyried ystod eang o fesurau posibl, mae’r Comisiwn wedi cymhwyso’r cynnydd hwn i’r rhan fwyaf o lefelau cydnabyddiaeth ariannol sydd o fewn ei gylch gwaith, fel y nodwyd ym mhob penderfyniad.

Rydym hefyd wedi ystyried nifer o ffactorau eraill o fewn y fframwaith cydnabyddiaeth ariannol presennol.

Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBC)

Mae CBC yn fath cymharol newydd o gorff a gyflwynwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae pob un o'r pedwar pwyllgor yn cynnwys arweinwyr y prif gynghorau yn ei ardal a chadeirydd unrhyw awdurdod parc cenedlaethol sy'n gorwedd yn gyfan
gwbl neu'n rhannol o fewn ei ffiniau. Mae'r arweinwyr hyn yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol am eu rôl o fewn eu cyrff priodol.

Mae pob pwyllgor wedi sefydlu nifer o is-bwyllgorau i ymdrin â meysydd arbenigol ac mewn un achos Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu. Mae'r rhain yn cynnwys cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig.

Mae’r Comisiwn wedi ymgynghori ynghylch p’un a yw unrhyw gydnabyddiaeth ariannol ychwanegol yn briodol i adlewyrchu'r ymrwymiad amser ychwanegol a'r cyfrifoldebau sy'n ymwneud â CBC, neu b’un a yw amser a chyfrifoldebau’r rolau hyn yn rhan o’u cyfrifoldebau gweithredol ehangach. Mae’r ymatebion yn peri i ni gasglu fod angen i ni gynnal ymchwil fwy penodol yn y maes hwn cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Gwneir hyn yn ystod y flwyddyn i ddod, a bydd unrhyw benderfyniad yn cael ei gynnwys yn ein hadroddiad blynyddol ar gyfer
2028-29.

Aelodau cyfetholedig a lleyg

Uwchraddiodd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol gydnabyddiaeth ariannol aelodau cyfetholedig prif gynghorau, awdurdodau parc cenedlaethol (APC) ac awdurdodau tân ac achub (ATA) ddiwethaf yn ei adroddiad blynyddol 20223 a chynhwysodd aelodau lleyg cyd-bwyllgorau corfforedig (CBC) yn ei adroddiad atodol 20244. Roedd y cyfraddau yn gysylltiedig â'r cyfraddaupenodiadau cyhoeddus a dalwyd gan Lywodraeth Cymru, nad ydynt wedi cael eu huwchraddio ers rhai blynyddoedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ei hadolygiad o’r cyfraddau hyn. Cynyddwyd y cyfraddau ar gyfer cyrff ym Mand 2, yr oedd cyfraddau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cyd-fynd â nhw, i £205 y dydd ar gyfer aelodau cyffredin.

Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol cynyddu’r cyfraddau ar yr adeg hon fel nad yw eu gwerth yn cael ei erydu gan gynnydd mewn costau byw, a bydd yn cymhwyso’r un cynnydd 3% i gyfraddau aelodau cyfetholedig a lleyg ag y mae’n ei gymhwyso i aelodau etholedig.

Awdurdodau Tân ac Achub (ATAau)

Yn dilyn y Gorchymyn i ddiwygio trefniadau llywodraethu ATAau yng Nghymru, cyhoeddom ein Hadroddiad Drafft Atodol ar Gydnabyddiaeth Ariannol: Awdurdodau Tân ac Achub ar 3 Gorffennaf 2026. Rydym wedi cynnig y cyfraddau cydnabyddiaeth ariannol canlynol ar gyfer aelodau ATA.

Cadeirydd

Cyfradd ddyddiol: £348
Cyfradd hyd at 4 awr: £174
Cyfradd fesul awr: £43.50

Dirprwy Gadeirydd neu Gadeirydd Pwyllgor

Cyfradd ddyddiol: £322
Cyfradd hyd at 4 awr: £161
Cyfradd fesul awr: £40.25

Aelod o'r Bwrdd

Cyfradd ddyddiol: £292
Cyfradd hyd at 4 awr: £146
Cyfradd fesul awr: £36.50

Ar 13 Gorffennaf 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’r ymyrraeth â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cael ei hymestyn tan ar ôl etholiadau lleol mis Mai 20277.

Mae aelodau gweithredol cynghorau wedi cael eu henwebu i ymuno â phwyllgor pontio ar gyfer ATA De Cymru, yn hytrach na’r rôl aelod o’r bwrdd a ddisgrifir yn y Gorchymyn. Byddant yn cynghori’r Comisiynwyr yn hytrach na chyflawni rôl weithredol, am y tro.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu’r trefniadau llywodraethu newydd ar gyfer y tri ATA ar ôl etholiadau lleol 2027.

Bydd y Comisiwn yn ystyried y newid dros dro hwn i rolau ac amseru cyflwyno’r trefniadau llywodraethu newydd wrth wneud ei benderfyniadau ar gydnabyddiaeth ariannol rolau ATA, y mae’n bwriadu eu cyhoeddi erbyn 25 Medi 2026.

Canllawiau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Symudwyd nifer o benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, yr oedd llawer ohonynt yn ymwneud â chyhoeddi cydnabyddiaeth ariannol cynghorau, o adroddiadau blynyddol i ganllawiau8, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024.

Mae’r Comisiwn wedi adolygu’r canllawiau hyn, ac mae’n gwneud penderfyniadau drafft sy’n eu diweddaru, gan gynnwys newidiadau sy’n adlewyrchu’r ffaith bod y sail ddeddfwriaethol i’n gwaith bellach wedi’i chynnwys yn Neddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc 2013.

Ymgysylltu

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Un Llais Cymru, y Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, a Chymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru fel y cyrff cynrychioliadol ar draws y teulu llywodraeth leol, yn ogystal ag awdurdodau unigol, ac yn ystyried eu barn wrth i ni wneud ein penderfyniadau, gan barhau i ystyried effaith ein penderfyniadau ar gyllidebau awdurdodau.

Ymaddasu

O dan adran 69D Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc 2013, mae’n ofynnol i ni wneud penderfyniadau ynglŷn â thaliadau ymaddasu i aelodau awdurdodau lleol nad ydynt yn cael eu hailethol yn etholiadau lleol 2027. Fodd bynnag, mae’r gofyniad hwn yn dibynnu ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i bennu’r awdurdodau lleol perthnasol, a nodwyd bellach na fydd y rhain yn cael eu gwneud. Oherwydd hynny, nid yw’r adroddiad hwn yn gwneud unrhyw gynigion ynglŷn â’r mater hwn.

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 284.47 KB