Adroddiad atodol ar gydnabyddiaeth ariannol: Awdurdodau Tân ac Achub
Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi ei adroddiad Atodol ar gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub.
Gallwch ddarllen y rhagair a'r cefndir isod, a gallwch gael mynediad at yr adroddiad llawn yma, neu fel dolen lawrlwytho ar waelod y dudalen hon.
Rhagair
Mae’r adroddiad atodol hwn yn amlinellu penderfyniad terfynol y Comisiwn ar gydnabyddiaeth ariannol aelodau Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru wrth i’r cyrff hynny symud i drefniadau llywodraethu newydd. Bydd y newidiadau hyn, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn sefydlu byrddau llai o faint, tebyg i weithrediaeth, sy’n cynnwys un cynghorydd gweithredol o bob awdurdod lleol cyfansoddol ynghyd â lleiafrif o aelodau annibynnol a benodir trwy gystadleuaeth gyhoeddus.
Wrth wneud y penderfyniad terfynol hwn, mae’r Comisiwn wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r cyfrifoldebau a fydd yn gysylltiedig â’r rolau hyn, y dystiolaeth a oedd ar gael i ni, a’r safbwyntiau a gyflwynwyd yn ystod ymgynghoriad. Rydym yn ddiolchgar i’r rhai a ymatebodd, yr oedd eu cynrychiolaethau wedi ein helpu i ystyried y materion.
Mae’r Comisiwn wedi penderfynu y dylai’r gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer rolau Awdurdod Tân ac Achub perthnasol gyd-fynd â chyfraddau cyrff cyhoeddus Band 3 Llywodraeth Cymru, gan wneud taliadau’n ddyddiol a darparu ar gyfer taliadau hanner diwrnod a fesul awr lle y bo’n briodol.
Bwriedir i’r trefniadau hyn helpu i weithredu’r model llywodraethu newydd ar ôl etholiadau llywodraeth leol mis Mai 2027. Er bod yr adroddiad hwn yn cynnwys ein penderfyniad terfynol, ni fydd yn sefydlog. Bydd y Comisiwn yn adolygu’r penderfyniad hwn yn rhan o adroddiadau blynyddol ar gydnabyddiaeth ariannol yn y dyfodol, yn yr un ffordd ag yr adolygwn benderfyniadau eraill sydd o fewn ein cylch gwaith, gan ystyried profiad o weithredu ac unrhyw ddatblygiadau ehangach i rolau a chyfrifoldebau aelodau Awdurdod Tân ac Achub ac uwch rolau eraill ar draws y teulu llywodraeth leol.
Karen Jones
Cadeirydd
Cefndir
Yn dilyn materion a nodwyd yn nhrefniadau llywodraethu Awdurdodau Tân ac Achub (ATAau) Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu i newid y ffordd y mae’r cyrff allweddol hyn yn cael eu cynnal.
Yn rhan o hyn, mae cyfansoddiad eu byrddau’n cael ei newid. Ar hyn o bryd, mae ganddynt rhwng 24 a 28 o aelodau, a enwebwyd gan yr awdurdod lleol o fewn eu hardal. Bydd hyn yn newid i un aelod o bob awdurdod lleol o fewn ardal yr ATA, a lleiafrif o aelodau annibynnol,
i’w penodi gan Lywodraeth Cymru trwy gystadleuaeth deg ac agored. Mae’n rhaid i’r aelodau awdurdod lleol fod yn gynghorwyr gweithredol, hynny yw, arweinydd cyngor, dirprwy arweinydd neu aelod o’r cabinet. Mae’r newidiadau wedi cael eu deddfu gan Orchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol ac Amrywio Cynlluniau Cyfuno) (Cymru) 2026.
Bydd rôl aelodau ATA yn newid. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i greu disgrifiadau rôl newydd ar gyfer rolau aelodau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y bydd y tri ATA yn symud i’rmodel hwn ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2027.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (CDFfC) benderfynu ar gydnabyddiaeth ariannol aelodau o fewn y trefniadau newydd hyn. Mae’r adroddiad atodol hwn yn amlinellu ein penderfyniadau.
Ffurfiwyd y tri ATA yng Nghymru, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru a De Cymru, yn rhan o ad-drefnu Llywodraeth Leol ym 1996. Ar hyn o bryd, mae byrddau ATA yn cynnwys aelodau etholedig a enwebwyd gan y prif gynghorau yn ardal pob gwasanaeth tân
ac achub. Mae cydnabyddiaeth ariannol aelodau’n tybio y byddant yn gweithio 22 diwrnod y flwyddyn, ac mae cydnabyddiaeth ariannol aelodau cyffredin yn gysylltiedig â chydnabyddiaeth ariannol prif gynghorwyr cyffredin.
Mae cydnabyddiaeth ariannol cadeiryddion ATAau wedi’i chysylltu ar hyn o bryd â chyflog uwch Band 3 prif gyngor. Mae dirprwy gadeiryddion, cadeiryddion pwyllgorau a swyddi uwch cyflogedig eraill yn gysylltiedig â chyflog Band 5. Amlinellir manylion llawn lefelau cydnabyddiaeth ariannol aelodau ATAau ar gyfer 2026-27 yn Nhabl 1 isod. Penderfynwyd ar y cyfraddau hyn yn Adroddiad Blynyddol ar Gydnabyddiaeth Ariannol y Comisiwn ar gyfer 2026-27.
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 159.52 KB