Adroddiad drafft atodol ar gydnabyddiaeth ariannol: Awdurdodau Tân ac Achub

Mae’r adroddiad atodol drafft hwn yn nodi dull arfaethedig y Comisiwn o dalu aelodau
Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru, wrth i’r cyrff hynny symud i drefniadau llywodraethu
newydd. Bydd y newidiadau hyn, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn sefydlu byrddau llai
ag arddull weithredol, yn cynnwys un cynghorydd gweithredol o bob awdurdod lleol
cyfansoddol, ynghyd â lleiafrif o aelodau annibynnol a benodir trwy gystadleuaeth gyhoeddus.

Wrth gyflwyno’r cynigion hyn, mae’r Comisiwn wedi ystyried yn ofalus y cyfrifoldebau sylweddol
a fydd yn gysylltiedig â’r rolau hyn a’r angen am fframwaith cydnabyddiaeth ariannol sy’n glir, yn
gymesur ac yn gallu cael ei gymhwyso’n gyson ar draws y tri Awdurdod Tân ac Achub.

Mae’r adroddiad yn cynnig y dylai rolau aelodau yn yr Awdurdodau Tân ac Achub gyd-fynd â
chyfraddau cyrff cyhoeddus Band 3 Llywodraeth Cymru, gyda chydnabyddiaeth ariannol yn
daladwy’n ddyddiol a chyda darpariaeth ar gyfer taliadau hanner diwrnod a fesul awr, lle bo
hynny’n briodol. Mae hefyd yn cynnig y dylai cadeiryddion gael cyfradd cadeirydd Band 3, ac y
dylai dirprwy gadeiryddion a chadeiryddion pwyllgorau gael y gyfradd gyfatebol ar gyfer dirprwy
gadeiryddion.

Bwriad y trefniadau hyn yw cefnogi gweithrediad y model llywodraethu newydd yn ne Cymru yn y
flwyddyn gyfredol, ac yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a gogledd Cymru o fis Mai 2027
ymlaen. Nawr, mae’r Comisiwn yn gwahodd safbwyntiau gan Awdurdodau Tân ac Achub, prif
gynghorau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phartïon eraill â buddiant cyn gwneud y
penderfyniadau terfynol. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb yn y trefniadau hyn i ystyried y
cynigion a nodir yn yr adroddiad hwn ac ymateb i’r ymgynghoriad.

Karen Jones
Cadeirydd

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 284.14 KB