Adroddiad Blynyddol ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2026-27
Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi ei hadroddiad Tâl Blynyddol ar gyfer 2026–27, a baratowyd yn unol ag Adran 69G o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013. Mae'r adroddiad hwn yn nodi penderfyniadau'r Comisiwn ynghylch y tâl, treuliau a buddion sy'n berthnasol i aelodau etholedig a chyfetholedig ar draws prif gynghorau Cymru, cynghorau cymuned a thref, awdurdodau tân ac achub, ac awdurdodau parciau cenedlaethol.
Dyma'r adroddiad cyntaf ers i'r Comisiwn gymryd drosodd y cyfrifoldeb hwn gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Mae'n adeiladu ar y fframwaith cryf yr ydym wedi'i etifeddu, tra hefyd yn dechrau adolygiad blaengar o sawl maes allweddol, gan gynnwys:
- Taliadau ailsefydlu ar gyfer prif gynghorwyr nad ydynt yn cael eu hailetholi;
- Y fframwaith tâl ar gyfer swyddi uwch o fewn prif gynghorau a chyd-bwyllgorau corfforaethol;
- Y dull o uwchraddio blynyddol, gan gynnwys asesu a yw'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion yn parhau i fod y meincnod mwyaf addas;
- Ymgysylltu parhaus â phartneriaid fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru.
Mae'r Comisiwn wedi cytuno y bydd cyflog sylfaenol aelodau etholedig yn codi i £21,044, sy'n adlewyrchu'r cynnydd mewn enillion cyfartalog. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 6.4% yn y cyflog blynyddol sylfaenol. Rydym hefyd yn cynnig cadw'r strwythur bandio presennol ar gyfer rolau uwch. Darperir manylion llawn, gan gynnwys lefelau cyflog a lwfansau penodol, yn yr adroddiad cysylltiedig.
Bydd y penderfyniadau y mae'n eu cynnwys yn dod i rym o 1 Ebrill 2026.
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 3.52 MB
-
Maint ffeil: 11.92 MB
-
Maint ffeil: 574.79 KB