Etholiad Senedd Cymru 2026: Cyfarwyddiadau
Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadol wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau i Swyddogion Canlyniadau ar gyfer etholiad Senedd Cymru a gynhelir ar 7 Mai 2026.
Beth yw cyfarwyddiadau?
Gall y Bwrdd Rheoli Etholiadol gyhoeddi cyfarwyddiadau cyfreithiol rhwymol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau ynghylch sut mae etholiadau datganoledig yn cael eu cynnal.
Cyn cyhoeddi cyfarwyddiadau, mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadol yn ymgynghori â Swyddogion Canlyniadau a chyda'r Comisiwn Etholiadol.
Gall y Bwrdd Rheoli Etholiadol gyhoeddi cyfarwyddiadau pellach ar gyfer yr etholiad hwn yn ddiweddarach.
Cyfarwyddiadau (Etholiad Senedd Cymru 2026)
Rhoddir y cyfarwyddiadau hyn gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol (BRhE) o dan Adrannau 20B ac 20C Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (“Deddf 2013”), fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (“Deddf 2024”).
O dan y ddeddfwriaeth hon, caiff y BRhE roi cyfarwyddiadau yn ysgrifenedig i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ynglŷn ag arfer swyddogaethau’r swyddogion yn gysylltiedig ag etholiadau’r Senedd.
Fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth, mae’r Cyfarwyddiadau wedi bod yn destun ymgynghori ffurfiol â’r Comisiwn Etholiadol. Cynhaliwyd ymgynghoriad anffurfiol â Swyddogion Canlyniadau, hefyd. Mae’r cyfarwyddiadau terfynol a gyhoeddwyd yn adlewyrchu materion a amlygwyd a sylwadau a wnaed yn yr ymgynghoriadau hynny.
Cymeradwyodd y BRhE y set derfynol hon o gyfarwyddiadau ar 3 Hydref 2025. Mae’r tabl isod yn datgan y cyfarwyddiadau’n llawn gyda sylwadau byr lle gallai eglurhad fod yn ddefnyddiol.
1. Papur Pleidleisio
Lliw Papurau Pleidleisio
(a) Yn amodol ar gyfarwyddyd 1(b) isod, mae’n rhaid i bapurau pleidleisio fod yn wyn ac mae’n rhaid i bapurau pleidleisio a dendrwyd fod yn binc.
(b) Ceir defnyddio papurau pleidleisio a/neu bapurau pleidleisio a dendrwyd â lliwiau eraill:
- yn etholaethau Caerdydd Penarth a/neu Gaerdydd Ffynnon Taf, am resymau hwylustod gweinyddol sy’n deillio o’r ffaith bod yr etholaethau hynny’n rhannu swyddog canlyniadau;
- pan ailgyhoeddir papurau pleidleisio am unrhyw reswm; a/neu
- mewn amgylchiadau eithriadol eraill pan fydd y swyddog canlyniadau o’r farn y dylid defnyddio lliwiau eraill am resymau anghenraid gweinyddol neu er mwyn osgoi dryswch ymhlith etholwyr, er enghraifft er mwyn rheoli materion trawsffiniol.
Y papur pleidleisio yw’r brif ddogfen ar gyfer pleidleiswyr yn yr etholiad. Mae hyn yn darparu papur cyson i bob pleidleisiwr.
2. Hysbysiadau
Cyhoeddi Hysbysiad o Etholiad
Mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau gyhoeddi’r Hysbysiad o Etholiad yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 23 Mawrth 2026.
Mae hyn yn darparu dull cyson o gyhoeddi’r Hysbysiad a hefyd yn golygu bod y cyfnod enwebu ar gyfer pleidiau ac ymgeiswyr yn gyson, at ei gilydd, ledled Cymru.
3. Cardiau Pleidleisio
Dyddiad anfon cardiau pleidleisio
Mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau sicrhau bod cardiau pleidleisio’r prif argraffiad yn cael eu hanfon at etholwyr erbyn 3 Ebrill 2026 fan bellaf.
Bydd sicrhau bod mwyafrif helaeth y cardiau pleidleisio’n cyrraedd yn ystod yr un wythnos yn darparu cysondeb ledled Cymru.
4. Ail Hysbysiad Addasu Etholiad Interim
Dyddiad Cyhoeddi
Mae’n rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gyhoeddi’r Ail Hysbysiad Addasu Etholiad Interim rhwng 21 Ebrill a 24 Ebrill 2026.
Yn sgil cyhoeddi’r Ail Hysbysiad Addasu Etholiad Interim yn agos i’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy’r post, gall ail gyhoeddiad o bleidleisiau drwy’r post gynnwys yr etholwyr hynny sydd wedi gwneud cais am bleidlais drwy’r post ers y cyhoeddiad cyntaf, gan sicrhau eu bod yn cael eu pecynnau post cyn gynted â phosibl ac nad oes rhaid iddynt aros tan y cyhoeddiad olaf.
5. Cadarnhau a Chyfrif
Amseru'r Cyfrif
Mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau sicrhau bod y blychau pleidleisio cyntaf yn cael eu hagor ar ôl 9:00am a dim hwyrach nag 11:00am ar ddydd Gwener 8 Mai 2026 i ganiatáu ar gyfer dechrau cadarnhau a chyfrif. Ni fydd pleidleisiau’n cael eu cyfrif dros nos, ond mae’n rhaid i’r broses gadarnhau/cyfrif ym mhob etholaeth fod yn mynd rhagddi erbyn 11:00am ar 8 Mai 2026.
Yn yr holl amgylchiadau pan fydd y Swyddog Canlyniadau o’r farn y dylai’r broses gadarnhau ddigwydd dros nos oherwydd rheidrwydd gweinyddol, er enghraifft er mwyn rheoli materion trawsffiniol, caiff wneud hynny.
Mae’r Cyfarwyddyd yn ffurfioli’r safbwynt na fydd pleidleisiau’n cael eu cyfrif dros nos, ond yn sicrhau na fydd oedi diangen, gyda phob sesiwn Gyfrif yn mynd rhagddi erbyn 11:00am.
Nid yw’r Cyfarwyddyd yn mynnu bod yr holl flychau pleidleisio wedi cael eu derbyn yn y Ganolfan Gyfrif/Canolfannau Cyfrif erbyn 11:00am ar 8 Mai. Y cyfan y mae’n ei fynnu yw bod blychau’n dechrau cael eu hagor erbyn 11:00am.
Nid yw’r Cyfarwyddyd yn atal Swyddogion Canlyniadau rhag gwneud gwaith paratoi yn syth ar ôl i’r pôl gau. Nid yw cadarnhau/cyfrif y pleidleisiau ar 8 Mai yn atal cysoni papurau heb eu defnyddio neu a ddifethwyd a gwirio rhifyddeg ar Gyfrifon Papurau Pleidleisio ar ddiwedd pôl/dros nos. Fodd bynnag, atgoffir Swyddogion Canlyniadau os byddant yn gwirio papurau wedi’u difetha neu heb eu defnyddio, neu’n dechrau’r cam cadarnhau, ar ddiwedd pôl/dros nos, bydd angen caniatáu i ymgeiswyr, asiantiaid, arsylwyr ac ati arsylwi. Mae’r angen i sicrhau tryloywder, craffu a derbyn yn hollbwysig, felly byddai angen rhoi gwybod i ymgeiswyr, asiantiaid, arsylwyr ac ati am fanylion unrhyw weithgareddau o’r fath.
6. Pleidleisiau drwy'r Post
Chwiliad gan y Post Brenhinol
Mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau wneud trefniadau gyda’r Post Brenhinol i chwilio’r swyddfa ddosbarthu/swyddfeydd dosbarthu ar gyfer eu hetholaeth ar y diwrnod pleidleisio er mwyn sicrhau, cyn belled ag y bo’n bosibl, bod yr holl becynnau post yn y system yn cael eu hadfer.
Bydd y BRhE yn cysylltu’n ganolog â’r Post Brenhinol, ond bydd angen i’r trefniadau lleol ar gyfer derbyn y chwiliad gael eu gwneud gan bob Swyddog Canlyniadau gyda’i gynrychiolydd yn y Post Brenhinol. Dylid gwneud pob ymdrech i adfer yr holl bleidleisiau a fwrwyd er budd pleidleiswyr.
Cyfarwyddiadau (Platfform Gwybodaeth Etholiadau Cymru)
Rhoddir y cyfarwyddiadau hyn gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol (BRhE) o dan Adrannau 20B ac 20C Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc 2013 (“Deddf 2013”), fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (“Deddf 2024”).
O dan y ddeddfwriaeth hon, caiff y BRhE roi cyfarwyddiadau ysgrifenedig i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ynglŷn ag arfer swyddogaethau’r swyddogion yn gysylltiedig ag etholiadau’r Senedd.
Mae’r cyfarwyddiadau hyn yn ymwneud â rhwymedigaeth y BRhE i weithredu’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig.
1. Gwybodaeth am orsafoedd pleidleisio a hygyrchedd
Darparu gwybodaeth i’r Clwb Democratiaeth
Mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau roi gwybodaeth am orsafoedd pleidleisio a’u hygyrchedd i’r Clwb Democratiaeth a fydd yn prosesu’r data ar ran y BRhE.
Mae’n rhaid i’r wybodaeth hon gynnwys ymatebion i’r cwestiynau canlynol, o ran pob gorsaf bleidleisio yn yr ardal y mae’r Swyddog Canlyniadau’n gyfrifol amdani:
- Ai strwythur dros dro yw’r orsaf bleidleisio?
- A oes mynediad gwastad i’r orsaf bleidleisio?
- Os defnyddir ramp i ddarparu mynediad i’r orsaf bleidleisio, a yw’r ramp yn barhaol neu dros dro?
- A oes parcio gerllaw?
- A oes parcio i’r anabl ar gael?
- A ddefnyddir dolen glyw yn yr orsaf bleidleisio?
- A oes tai bach sy’n hygyrch i’r cyhoedd ar y safle?
Bydd y Clwb Democratiaeth hefyd yn sicrhau bod dau faes testun rhydd dewisol ar gael o dan y penawdau “Cyrraedd yr orsaf” ac “Yn yr orsaf”, petai Swyddogion Canlyniadau’n dymuno darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae’n rhaid i’r data gael ei ddarparu ar ffurf, ac yn unol â graddfeydd amser, a bennir gan y Clwb Democratiaeth.
Os bydd gorsaf bleidleisio’n newid ar fyr rybudd, dylai’r Swyddog Canlyniadau wneud ei orau i ddarparu’r wybodaeth wedi’i diweddaru cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Mae’n gyfreithiol ofynnol i’r BRhE ddarparu gwybodaeth am hygyrchedd ar gyfer pob gorsaf bleidleisio ar y Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig. Mae’r BRhE yn dibynnu ar y Swyddogion Canlyniadau i ddarparu’r wybodaeth hon gan eu bod nhw’n gyfrifol am orsafoedd pleidleisio.
Mae’r holl Swyddogion Canlyniadau yn rhoi data am orsafoedd pleidleisio i’r Clwb Democratiaeth ar hyn o bryd, felly diben y cyfarwyddyd hwn yw ffurfioli’r trefniadau hynny. Bydd y Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig yn cael y wybodaeth hon gan y Clwb Democratiaeth ac yn ei defnyddio i ddarparu swyddogaeth chwilio sy’n benodol i ardal i bleidleiswyr.
2. Hysbysiadau Swyddogol
Darparu hysbysiadau cyhoeddedig
Mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau ddarparu i’r BRhE yr hysbysiadau ffurfiol sy’n ymwneud â’r etholiad y mae’n ofynnol i Swyddogion Canlyniadau eu cyhoeddi yn unol ag Atodlen 5 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychioli’r Bobl) 2025.
Yn benodol, mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau ddarparu’r canlynol i’r BRhE pan gânt eu cyhoeddi:
- Yr Hysbysiad o Etholiad (fel sy’n ofynnol gan baragraff 3 Atodlen 5);
- Y Datganiad o Bartïon ac Unigolion a Enwebwyd (fel sy’n ofynnol gan baragraff 17 Atodlen 5);
- Yr Hysbysiad o Bleidlais (fel sy’n ofynnol gan baragraff 31(1) Atodlen 5);
- Yr Hysbysiad o Leoliad Gorsafoedd Pleidleisio a’r disgrifiad o bleidleiswyr sydd â’r hawl i bleidleisio yno (fel sy’n ofynnol gan baragraff 31(2) Atodlen 5); a’r
- Datganiad o Ganlyniadau (fel sy’n ofynnol gan reoliad 64(4) Atodlen 5).
Mae’n rhaid i bob un o’r hysbysiadau hyn:
- gael ei anfon trwy e-bost at y BRhE (at y cyfeiriad e-bost a gadarnheir mewn canllawiau a gyhoeddir gan y BRhE) cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r Swyddog Canlyniadau gyhoeddi’r hysbysiad a dim hwyrach na 24 awr ar ôl cyhoeddi; a
- chael ei ddarparu i’r BRhE yn yr un fformat ag y cyhoeddodd y Swyddog Canlyniadau yr hysbysiad ar ei wefan ei hun.
Os bydd y Swyddog Canlyniadau’n diwygio ac ailgyhoeddi unrhyw un o’r hysbysiadau hyn yn ddiweddarach, mae’n rhaid iddo anfon yr hysbysiad wedi’i ddiweddaru trwy e-bost at y BRhE cyn gynted ag y bo’n ymarferol i’w ailgyhoeddi ar y Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig.
Mae’n rhaid i’r BRhE gyhoeddi pob un o’r 5 hysbysiad a restrir uchod yn uniongyrchol ar y Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig. Mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau ddarparu’r hysbysiadau hyn er mwyn i’r BRhE wneud hynny.
3. Y broses enwebu
Darparu gwybodaeth am y platfform i ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad
Wrth gynnal y broses enwebu, mae’n rhaid i’r Swyddog Canlyniadau sicrhau bod ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad yn derbyn y ‘wybodaeth ofynnol’ am y Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig.
Bydd y ‘wybodaeth ofynnol’ yn cael ei darparu gan y BRhE a bydd yn cynnwys gwybodaeth am y Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig a’r broses cyflwyno cyfeiriad etholiad. Bydd hefyd yn amlygu’r trefniadau rhannu data rhwng Swyddogion Canlyniadau a’r BRhE i gynyddu tryloywder.
Mae’n rhaid iddi gael ei rhoi i’r ymgeiswyr a’r asiantiaid etholiad pan fydd enwebiadau’n cael eu danfon trwy law neu drwy fodd electronig, a bydd y BRhE yn darparu adnoddau ar gyfer y ddwy ffurf.
Dylai’r ymgeiswyr a’r asiantiaid etholiad ei derbyn o fewn 24 awr o’r adeg pan fydd y Swyddog Canlyniadau’n derbyn y papur enwebu.
Y Swyddog Canlyniadau fydd â’r cysylltiad cychwynnol ag ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad yn ystod y broses etholiad. Bydd darparu’r ‘wybodaeth ofynnol’ ar yr adeg hon yn esbonio sut mae’r platfform yn gweithredu a’r broses cyflwyno cyfeiriad etholiad. Bydd hefyd yn cynyddu tryloywder ynglŷn â phrosesu data personol perthnasol.
4. Gwybodaeth am ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad
Data ymgeiswyr ar gyfer y broses cyflwyno cyfeiriadau etholiad
Gwybodaeth i alluogi cyflwyno cyfeiriadau etholiad mewn modd hygyrch ar y platfform
Mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau ddarparu data am ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad i’r BRhE ar gyfer y system cyflwyno cyfeiriadau etholiad ar-lein ac ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth ymgeiswyr.
Mae’n rhaid darparu’r data canlynol:
Ymgeiswyr rhestr pleidiau |
Ymgeiswyr unigol |
|
Set ddata A – Gwybodaeth cyflwyno cyfeiriad etholiad |
|
|
Set ddata B – Gwybodaeth am Bleidiau / ymgeiswyr a enwebwyd |
(ch) Plaid / ymgeisydd annilys/wedi’i thynnu/dynnu’n ôl: fel yr uchod gyda’r rheswm dros annilysrwydd/tynnu’n ôl
|
|
Mae’n rhaid i set ddata A gael ei darparu ar ddiwedd pob diwrnod gwaith yn ystod y cyfnod pan fydd y Swyddog Canlyniadau’n derbyn papurau enwebu.
Mae’n rhaid i set ddata B gael ei darparu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod enwebu. Fe ddylai hyn fod ar ôl i unrhyw wiriadau terfynol gael eu cwblhau at ddibenion cyhoeddi’r Datganiad Pleidiau/Unigolion a Enwebwyd.
Mae’n rhaid rhoi gwybod i’r BRhE am unrhyw ddiwygiadau a wneir i’r Datganiad Pleidiau / Unigolion a Enwebwyd ar ôl i fersiwn derfynol y data gael ei darparu i’r BRhE, cyn gynted â phosibl. Mae’n rhaid i hyn gael ei wneud yn unol â’r broses a amlinellwyd yn y canllawiau a roddwyd gan y BRhE.
Mae’n rhaid i’r setiau data hyn gael eu darparu i helpu’r BRhE â’i rwymedigaethau cyfreithiol yn gysylltiedig â’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig.
Bydd set ddata A yn galluogi’r BRhE i dderbyn cyfeiriadau etholiad o’r diwrnod ar ôl i blaid/ymgeisydd gyflwyno ei phapur/bapur enwebu. Mae cyfeiriadau e-bost yn ofynnol i sicrhau proses ddilysu ddiogel.
Bydd set ddata B yn galluogi’r BRhE i gyhoeddi’r wybodaeth a gynhwysir yn y Datganiad o Bartïon ac Unigolion a Enwebwyd ar y platfform mewn modd hygyrch, a chysylltu cyfeiriadau etholiad â’r pleidiau / ymgeiswyr perthnasol.
5. Cyhoeddusrwydd i'r platfform
Geiriad ar gardiau pleidleisio
Cysylltu â’r platfform
1. Er mwyn hyrwyddo’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig, mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau gyhoeddi’r canlynol:
Geiriad ar gardiau pleidleisio
Mae’n rhaid i’r geiriad canlynol gael ei gynnwys ar y cardiau pleidleisio a gyhoeddir gan y Swyddog Canlyniadau -
I gael gwybodaeth am y pleidiau a'r ymgeiswyr sy'n sefyll yn eich ardal chi, ewch i bwrwpleidlais.cymru
For information of parties and candidates standing in your area: go to vote.wales
Gellir ei osod ble bynnag sy’n fwyaf priodol i’r dyluniad penodol a gymeradwywyd gan bob Swyddog Canlyniadau. Mae’n rhaid ei gynnwys ar bob math o gardiau pleidleisio.
Gwybodaeth ar wefan y Cyngor
Mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau sicrhau bod dolen i’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig yn cael ei chyhoeddi ar wefan eu Cyngor ynghyd â gwybodaeth arall maen nhw’n ei chyhoeddi am yr etholiad. Mae’n rhaid i’r ddolen gael ei chyhoeddi ar y wefan ar yr adeg y cyhoeddir yr Hysbysiad o Etholiad neu cyn hynny.
2. Wrth gynnal gweithgareddau ymgysylltu â phleidleiswyr, fel postiadau cyfryngau cymdeithasol, dylai’r Swyddog Canlyniadau hefyd hyrwyddo’r Platfform Gwybodaeth i Etholiadau Cymreig.
Bydd y BRhE yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r platfform, ond dylai Swyddogion Canlyniadau chwarae rôl allweddol yn y gweithgarwch hyrwyddol hwn, yn enwedig pan fydd ganddynt gysylltiad uniongyrchol â phleidleiswyr. Bydd y BRhE yn darparu deunyddiau cyhoeddusrwydd i gynorthwyo’r Swyddogion Canlyniadau â’r gweithgarwch ymgysylltu hwn.
6. Dilysu a Chyfrif
Canlyniadau Cyfrif
Mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau ddarparu canlyniadau’r cyfrif pleidleisiau i’r BRhE yn ôl etholaeth.
Mae’n rhaid i hyn fod ar y ffurf a ragnodir gan y BRhE yn y canllawiau y bydd yn eu cyhoeddi ynglŷn â’r platfform, ac mae’n rhaid ei ddarparu i’r BRhE ar ddiwrnod cyhoeddi’r canlyniadau.
Mewn rhai amgylchiadau, gellid ymestyn y dyddiad cau ar gyfer darparu’r wybodaeth hon hyd at 3 diwrnod calendr o gyhoeddi’r canlyniadau, gyda chytundeb y BRhE.
Mae’r BRhE yn mynnu bod y wybodaeth hon yn cael ei darparu yn ogystal â’r Datganiad o Ganlyniadau a gyhoeddir (gweler cyfarwyddyd 6, isod) er mwyn gallu cyflwyno gwybodaeth am ganlyniadau mewn modd hygyrch ar y platfform.
Bydd angen i’r BRhE gyhoeddi canlyniadau’r cyfrif pleidleisiau ar y Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig. Byddem yn disgwyl i’r rhan fwyaf o Swyddogion Canlyniadau ddarparu’r wybodaeth y cyfeirir ati yn y cyfarwyddyd hwn ar y diwrnod cyfrif, er na fydd y canlyniadau mewn amser real. Fe allai’r BRhE gytuno i dderbyn gwybodaeth wedi’i hoedi am ganlyniadau mewn rhai amgylchiadau os yw Swyddog Canlyniadau’n wynebu materion logistaidd cymhleth.
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 171.75 KB
-
Maint ffeil: 234.8 KB