Beth yw'r Bwrdd Rheoli Etholiadol?
Cefndir
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi sefydlu'r Bwrdd Rheoli Etholiadol.
Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadol (BRhE) yn rhan o'r Comisiwn, ac mae ganddo gyfrifoldeb statudol am arfer rhai swyddogaethau.
Swyddogaethau'r BRhE
Swyddogaethau Gweinyddu Etholiadau
Mae'r BRhE yn cydlynu gweinyddiaeth etholiadau a refferenda Cymru, sy'n golygu etholiadau Senedd Cymru, etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a refferenda datganoledig.
Mae'r swyddogaeth hon yn cynnwys:
- Cynorthwyo swyddogion dychwelyd, awdurdodau lleol a phersonau eraill i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau a refferenda Cymru
- Hyrwyddo arfer gorau wrth weinyddu etholiadau a refferenda Cymru drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor neu hyfforddiant (neu fel arall)
- Darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth arall i Weinidogion Cymru ynghylch gweinyddu etholiadau a refferenda Cymru
Cyfarwyddiadau i swyddogion dychwelyd
Gall y BRhE roi cyfarwyddiadau i swyddogion dychwelyd ynghylch arfer swyddogaethau'r swyddogion mewn perthynas â:
- Etholiadau Senedd Cymru yn gyffredinol, neu etholiad penodol Senedd Cymru
- Etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn gyffredinol, neu etholiad penodol llywodraeth leol
- Refferenda datganoledig yn gyffredinol, neu refferendwm datganoledig penodol
Rhaid i'r BRhE ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol cyn rhoi cyfarwyddyd. Rhaid i'r BRhE hefyd gyhoeddi pob cyfarwyddyd y mae'n ei roi.
Gall cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i swyddog dychwelyd ddarparu gwybodaeth i'r BRhE, neu gyflawni swyddogaethau'r swyddog mewn ffordd benodol.
Rhaid i swyddogion dychwelyd gydymffurfio â chyfarwyddyd oni bai y byddai gwneud hynny'n anghyson â dyletswydd statudol neu lle mae polau'n cael eu cyfuno ag etholiadau neilltuedig.
Cyfarwyddiadau i swyddogion cofrestru etholiadol
Gall y Bwrdd Rheoli Etholiadol hefyd roi cyfarwyddiadau ysgrifenedig i swyddogion cofrestru etholiadol ynghylch arfer swyddogaethau'r swyddogion mewn perthynas â:
- Etholiad penodol i Senedd Cymru
- Etholiad llywodraeth leol penodol yng Nghymru
- Refferendwm datganoledig penodol
Unwaith eto, rhaid i'r Bwrdd Rheoli Etholiadol ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol cyn rhoi cyfarwyddyd. Rhaid i'r Bwrdd Rheoli Etholiadol hefyd gyhoeddi pob cyfarwyddyd y mae'n ei roi.
Gall cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru etholiadol gyflawni swyddogaethau'r swyddog mewn ffordd benodol.
Rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gydymffurfio â chyfarwyddyd oni bai y byddai gwneud hynny'n anghyson â dyletswydd statudol neu lle mae polau'n cael eu cyfuno ag etholiadau neilltuedig.
Platfform Gwybodaeth Etholiadau Cymru
Bydd platfform gwybodaeth etholiadau Cymru yn darparu gwybodaeth gyfredol i etholwyr i gefnogi eu cyfranogiad yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau cyffredin i brif gynghorau yng Nghymru.
Mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd Rheoli Etholiadol gynnwys gwybodaeth benodol ar y platfform ac yn rhoi disgresiwn i'r Bwrdd Rheoli Etholiadol gynnwys gwybodaeth arall y mae'n teimlo y byddai o fudd i etholwyr Cymru.
Rhaid i'r Bwrdd Rheoli Etholiadol gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir ar y platfform yn hygyrch.
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi a chyflwyno adroddiad gerbron y Senedd o fewn 12 mis i'r etholiadau ddigwydd, ynglŷn â sut y sefydlwyd a gweithredwyd y platfform. Rhaid i'r Bwrdd Rheoli Etholiadol roi cymorth a gwybodaeth i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â pharatoi'r adroddiadau hyn.
Peilotio a diwygio etholiadau Cymru
Mae gan y BRhE swyddogaethau hefyd mewn perthynas â "rheoliadau peilot" ar gyfer etholiadau Cymru.
Mae rheoliadau peilot yn gwneud darpariaeth dros dro ynghylch materion etholiadol sy'n effeithio ar etholiadau Senedd Cymru neu etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'r materion hynny'n cynnwys cofrestru etholwyr, trefniadau pleidleisio a threfniadau ar gyfer cyfrif pleidleisiau, cyfathrebu â phleidleiswyr am etholiadau a phrosesau a gweithdrefnau perthnasol sy'n effeithio ar bleidleisio.
Gall Gweinidogion Cymru, prif gynghorau (gyda neu heb gydweithrediad y Comisiwn Etholiadol) a/neu swyddogion cofrestru etholiadol gynnig rheoliadau peilot.
Cyn y gellir gwneud y rheoliadau, rhaid cyflwyno cynigion i'r BRhE i'w hasesu, a rhaid i'r BRhE gynhyrchu adroddiad yn asesu'r cynigion. Yn benodol, rhaid i'r BRhE asesu a yw amcan y peilot arfaethedig yn ddymunol, yn ogystal â chostau tebygol a hyfywedd y peilot arfaethedig.
Os bydd cynllun peilot yn effeithio ar ardal prif gyngor nad yw wedi rhoi ei ganiatâd i'r cynllun peilot, rhaid i'r BRhE wneud argymhellion ynghylch a ddylid gwneud rheoliadau'r cynllun peilot heb ganiatâd y prif gyngor. Rhaid i'r BRhE gynhyrchu ei adroddiad o fewn 6 wythnos i'r dyddiad y mae'n derbyn y cynigion perthnasol.
Os yw'r BRhE yn ystyried ei bod yn debygol y bydd cynllun peilot sy'n effeithio ar fwy nag un prif ardal yn digwydd, mae'n ofynnol i'r BRhE sefydlu "fforwm peilot etholiad Cymru" i drafod materion sy'n ymwneud â'r cynllun(au) peilot.
Pan wneir rheoliadau peilot, mae hefyd yn ofynnol i'r BRhE roi canllawiau ar weithredu'r rheoliadau. Rhaid i hyn gynnwys cyngor ar y trefniadau sydd eu hangen ar gyfer y cynllun peilot, yr hyfforddiant staff sydd ei angen a sut y gellir rhedeg y cynllun peilot yn unol â cydymffurfio â'r rheoliadau peilot.
Materion Etholiadau neilltuedig
Nid oes gan y BRhE unrhyw rôl statudol o ran materion neilltuedig, hynny yw, materion heb eu datganoli, fodd bynnag, gall roi mewnbwn i Lywodraeth y DU o ran materion etholiadau neilltuedig.
Wrth roi mewnbwn ar faterion neilltuedig, bydd y Bwrdd yn gwneud hynny ar ran, ac yn cynrychioli barn, swyddogion dychwelyd a swyddogion cofrestru etholiadol yng Nghymru.
Swyddogaethau eraill
Gall Gweinidogion Cymru o bryd i'w gilydd roi swyddogaethau eraill i'r BRhE drwy wneud Rheoliadau newydd.
Trefniadau gweithredu
Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadol yn cynnwys:
- aelod o'r Comisiwn i gadeirio'r Bwrdd sy'n gyn-swyddog etholiadau
- un aelod arall o'r Comisiwn
- o leiaf bedwar aelod arall sy'n swyddogion etholiadau neu'n gyn-swyddogion etholiadau, ac un ohonynt yw dirprwy gadeirydd y Bwrdd Rheoli Etholiadol (ac at y diben hwn mae "swyddog etholiadau" yn swyddog dychwelyd neu'n swyddog cofrestru etholiadol)
Penodir aelodau'r Bwrdd Rheoli Etholiadol gan y Comisiwn.
Atebolrwydd
Bydd y Bwrdd yn gweithredu o fewn fframwaith llywodraethu'r Comisiwn, gan gynnwys o ran gwariant a thrin gwybodaeth. Bydd y Comisiwn yn adrodd ar weithgareddau’r Bwrdd yn ei adroddiad blynyddol.