Platfform Gwybodaeth Etholiadau Cymru: Asedau cyfryngau
Dylid defnyddio'r asedau hyn pan fydd bwrwpleidlais.cymru wedi'i lansio ddechrau mis Mawrth.
Mae bwrwpleidlais.cymru yn wefan sy'n rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar bleidleiswyr i bleidleisio'n hyderus mewn etholiadau datganoledig.
Gallwch ein helpu i hyrwyddo bwrwpleidlais.cymru drwy lawrlwytho a defnyddio'r asedau isod ar eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac yn eich adeiladau.
Mae'r asedau'n cynnwys delweddau cyfryngau cymdeithasol, wedi'u dylunio ar gyfer gwahanol blatfformau, yn ogystal ag asedau print y gallwch eu defnyddio all-lein.
Os hoffech asedau penodol nad ydynt wedi'u cynnwys yma, gallwch ofyn amdanynt drwy e-bostio brhe@cdffc.llyw.cymru.
Postiadau cyfryngau cymdeithasol awgrymedig
Isod fe welwch destun awgrymedig ar gyfer postiadau cyfryngau cymdeithasol sy'n cyd-fynd â negeseuon yr ymgyrch hyrwyddo. Mae croeso i chi ddefnyddio'r rhain neu eu diwygio fel y dymunwch.
- Dysga am etholiad Senedd Cymru. Ewch ar-lein i bwrwpleidlais.cymru / Get informed for the Senedd election. Head online to vote.wales
- Tro dy bryder pleidleisio yn hyder pleidleisio gyda bwrwpleidlais.cymru / Turn voting confusion into voting confidence with vote.wales
- Cer i bwrwpleidlais.cymru a pleidleisia gyda hyder. / Go to vote.wales. Voting confidence starts here.
- Yr holl wybodaeth rwyt ti angen ar gyfer etholiad y Senedd, mewn un lle. / All the info you need for the Senedd election, in one place.
Cyhoeddir mwy o asedau dros amser.
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 4.17 MB
-
Maint ffeil: 4.17 MB
-
Maint ffeil: 3.46 MB
-
Maint ffeil: 3.48 MB
-
Maint ffeil: 1.55 MB
-
Maint ffeil: 1.1 MB
-
Maint ffeil: 1.57 MB
-
Maint ffeil: 1.51 MB
-
Maint ffeil: 1.07 MB
-
Maint ffeil: 1.61 MB
-
Maint ffeil: 230.75 KB
-
Maint ffeil: 328.92 KB
-
Maint ffeil: 328.83 KB
-
Maint ffeil: 341.46 KB
-
Maint ffeil: 331.38 KB