Anerchiad etholiad: Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantau
Beth yw anerchiad etholiad?
Ym mhob etholaeth gall pob plaid wleidyddol ac ymgeisydd unigol anfon taflen at bleidleiswyr am ddim drwy'r Post Brenhinol.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses hon ar wefan y Post Brenhinol. (Dolen yn Saesneg yn unig)
Am y tro cyntaf, gall ymgeiswyr yn etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026 hefyd gyhoeddi eu hanerchiad etholiad ar-lein ar bwrwpleidlais.cymru.
Bwrwpleidlais.cymru yw enw Platfform Gwybodaeth Etholiadau Cymru.
Gallwch ddysgu mwy am bwrwpleidlais.cymru ar y wefan hon.
Canllawiau
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr unigol ac asiantau etholiad ar y broses o gyflwyno anerchiad etholiad i bwrwpleidlais.cymru. Gallwch eu darllen yn y dogfennau sydd wedi'u cysylltu isod.
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 259.62 KB
-
Maint ffeil: 271.1 KB