Arolygon Etholiadol
Amcan arolwg etholiadol yw sicrhau, o fewn pob ardal awdurdod lleol, bod trefniadau etholiadol yn ceisio cyflawni cydraddoldeb.
Gan ddefnyddio'r strwythur cymunedol presennol o fewn awdurdod lleol, bydd arolwg etholiadol yn ystyried hunaniaethau cymunedol, cydraddoldeb etholiadol ac adborth ymgynghori i sicrhau bod ein cynigion yn cynnal buddiannau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i'r etholwyr yng Nghymru.
Mae'r Comisiwn wedi cynhyrchu dogfen Polisi ac Arfer i helpu i esbonio sut y bydd y broses ar gyfer cynnal yr arolygon etholiadol yn gweithio. Mae'r ddogfen yn cwmpasu'r hyn y mae'r gyfraith yn ei ddweud y mae'n rhaid i'r Comisiwn ei wneud fel rhan o'r broses, yn ogystal â'r materion lle mae'r Comisiwn wedi penderfynu - fel mater o bolisi o fewn ei ddisgresiwn ei hun - i gymryd dull penodol.
O fewn y Polisi ac Arfer mae'r Comisiwn wedi nodi'r rhaglen o arolygon ar gyfer y 22 awdurdod, a'r polisi Maint Cynghorau, ac felly'r nifer priodol o gynghorwyr ar gyfer pob awdurdod.
Mae'r Comisiwn yn gobeithio, drwy egluro'r broses a'r polisïau yn y modd hwn, y bydd y canllaw yn annog y rhai a allai fod yn ystyried mynegi eu barn ac yn helpu i sicrhau y gall y rhai sy'n mynegi eu barn wneud hynny mewn modd gwybodus ac effeithiol.
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 615.43 KB