Arolwg 2026: Cynigion Diwygiedig

Porth Ymgynghori

Cliciwch yma i weld y map rhyngweithiol a gwneud sylwadau ar y porth ymgynghori.

Os ydych yn bwriadu anfon eich cynrychiolaeth drwy’r post, mae’r Comisiwn wedi symud yn ddiweddar i gyfeiriad newydd, yn Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, 4ydd Llawr, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Cynigion Diwygiedig

Mae'r Adroddiad Cynigion Diwygiedig llawn ar gael fel PDF ar waelod y dudalen hon. Isod, gallwch ddod o hyd i'r Cynigion Diwygiedig yn fanwl.

Cynigion diwygiedig yn fanwl

Disgrifir cynigion diwygiedig y Comisiwn yn fanwl yn y bennod hon. Ar gyfer pob etholaeth arfaethedig, mae’r adroddiad yn amlinellu:

  • crynodeb o’r dadleuon a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus o blaid neu yn erbyn cynigion cychwynnol y Comisiwn. Er na chrybwyllir yr holl gynrychiolaethau yn yr adroddiad hwn, mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau a wnaed wrth benderfynu ar ddiwygiadau i’w gynigion
  • ymateb y Comisiwn i’r cynrychiolaethau a’r argymhellion a wnaed
  • esboniad o’r enw arfaethedig
  • map o’r etholaeth arfaethedig

Mae’r tudalennau canlynol yn amlinellu cynigion diwygiedig y Comisiwn. Mae’r allwedd fapio, a ddangosir isod, yn esbonio’r lliwiau a’r llinellau a ddefnyddir ym mhob map yn y bennod hon.

Bangor Conwy Môn

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Bangor Aberconwy,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Ynys Môn.

Cafodd y Comisiwn 52 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Bangor Aberconwy ac Ynys Môn. O’r rhain, roedd 24 o blaid a 28 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 18 drefniadau amgen gan gynnwys paru Ynys Môn â Dwyfor Meirionnydd a pharu Bangor Aberconwy â Gogledd Clwyd.

Cafodd y Comisiwn 23 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw Bangor Aberconwy Ynys Môn. O’r rhain, roedd 3 o blaid ac 20 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Menai Ynys Môn, Porthaethwy, a Chonwy Ynys Môn.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae’n cynnig cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Bangor Aberconwy ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Ynys Môn fel pâr. Mae gan etholaeth Ynys Môn gysylltiadau ffyrdd â’r tir mawr trwy etholaeth Bangor Aberconwy yn unig. Mae’r Ddeddf yn datgan bod rhaid i’r Comisiwn greu etholaethau sy’n gyffiniol. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau cyfathrebu a theithio clir yn rhan hanfodol o allu darparu ar gyfer cynrychiolaeth effeithiol a chyfleus. Mae’r Comisiwn yn cydnabod bod cysylltiadau ieithyddol, diwylliannol a hanesyddol cryfach rhwng etholaethau Dwyfor Meirionnydd ac Ynys Môn a nifer y cynrychiolaethau sy’n cefnogi paru’r 2 ardal hyn. Fodd bynnag, mae’r diffyg cysylltiadau ffyrdd a thrafnidiaeth uniongyrchol, a amlinellir yn y ddeddfwriaeth, yn cyfyngu ar yr opsiynau sydd ar gael i baru etholaeth Ynys Môn ag unrhyw etholaeth arall. Mae’r Comisiwn yn ystyried ei bod yn briodol cyfuno’r ardaloedd fel y cynigiwyd o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth arfaethedig. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn yn cynnig yr enw unigol Bangor Conwy Môn ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw gan fod y tri gair yn cynrychioli’r ardaloedd sydd wedi’u cynnwys yn yr etholaeth arfaethedig ac yn adnabyddadwy. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Clwyd

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Clwyd,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gogledd Clwyd.

Cafodd y Comisiwn 36 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Clwyd a Gogledd Clwyd. O’r rhain, roedd 24 o blaid a 12 yn erbyn (cynigiodd rhai cynrychiolaethau fwy nag 1 dewis amgen). Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 16 drefniadau amgen gan gynnwys paru Dwyrain Clwyd ag Alun a Glannau Dyfrdwy a pharu Gogledd Clwyd â Bangor Aberconwy.

Cafodd y Comisiwn 11 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw Clwyd. O’r rhain, roedd 3 o blaid ac 8 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Sir Ddinbych, Bryniau Clwyd a’r Glannau, a Dyffryn Clwyd ac Arfordir Conwy.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae’n cynnig cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Clwyd ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gogledd Clwyd fel pâr. O ganlyniad i etholaeth arfaethedig Bangor Conwy Môn, yr unig etholaeth arall sy’n rhannu ffin ag etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gogledd Clwyd yw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Clwyd. Mae’r Ddeddf yn datgan bod rhaid i’r Comisiwn gyfuno etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig sy’n gyffiniol. Mae’r Comisiwn hefyd yn ystyried ei bod yn briodol cyfuno’r ardaloedd fel y cynigiwyd o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth arfaethedig, sy’n rhan bwysig o allu darparu ar gyfer cynrychiolaeth effeithiol a chyfleus, ym marn y Comisiwn. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn yn cynnig yr enw unigol Clwyd ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr yr un rhanbarth eang o Gymru gan ei fod yn enw a ddefnyddir yn gyffredin ac sydd wedi’i hen sefydlu ar gyfer y rhanbarth. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Fflint Wrecsam

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Alun a Glannau Dyfrdwy,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Wrecsam.

Cafodd y Comisiwn 51 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Alun a Glannau Dyfrdwy a Wrecsam. O’r rhain, roedd 24 o blaid a 27 yn erbyn (cynigiodd rhai cynrychiolaethau fwy nag 1 dewis amgen). Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 29 drefniadau amgen gan gynnwys paru Alun a Glannau Dyfrdwy â Dwyrain Clwyd a pharu Wrecsam â Sir Drefaldwyn a Glyndŵr.

Cafodd y Comisiwn 19 o gynrychiolaethau ynglŷn â’i gynnig cychwynnol i enwi’r etholaeth hon yn Alun, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam. O’r rhain, roedd 2 o blaid a 17 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Fflint Wrecsam, Dwyrain Sir y Fflint a Wrecsam neu ddefnyddio’r ffurf unigol Alun.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae’n cynnig cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Alun a Glannau Dyfrdwy ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Wrecsam fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y byddai cynnig amgen i baru etholaeth bresennol Wrecsam â Sir Drefaldwyn a Glyndŵr yn aduno sir gyfan Wrecsam fewn un etholaeth. Fodd bynnag, o ganlyniad i etholaeth arfaethedig Clwyd, yr unig etholaeth Seneddol arall y Deyrnas Unedig sy’n rhannu ffin ag etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Alun a Glannau Dyfrdwy yw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Wrecsam. Mae’r Comisiwn yn ystyried bod cysylltiadau cyfathrebu a theithio clir yn rhan bwysig o allu darparu ar gyfer cynrychiolaeth effeithiol a chyfleus, ac mae’r Comisiwn o’r farn bod yr ardaloedd hyn wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd trwy gysylltiadau trafnidiaeth, a’u bod o gymeriad tebyg. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn yn cynnig yr enw unigol Fflint Wrecsam ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn adlewyrchu enwau’r awdurdodau lleol o fewn yr etholaeth arfaethedig, a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr yr un rhanbarth eang o Gymru nad yw’r Gymraeg yn brif iaith iddynt. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Gwynedd Maldwyn

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyfor Meirionnydd,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Sir Drefaldwyn a Glyndŵr.

Cafodd y Comisiwn 63 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyfor Meirionnydd a Sir Drefaldwyn a Glyndŵr. O’r rhain, roedd 18 o blaid a 45 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 31 drefniadau amgen gan gynnwys paru Dwyfor Meirionnydd â naill ai Ceredigion neu Ynys Môn a pharu Sir Drefaldwyn a Glyndŵr â naill ai Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe neu Wrecsam.

Cafodd y Comisiwn 18 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig yn ei adroddiad cychwynnol i enwi’r etholaeth hon yn Ddwyfor Meirionnydd, Sir Drefaldwyn a Glyndŵr. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 17 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys De Gwynedd-Gogledd Powys, a Gwynedd, Sir Drefaldwyn a Glyndŵr.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae’n cynnig cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyfor Meirionnydd ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Sir Drefaldwyn a Glyndŵr fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau a dderbyniwyd o blaid paru Dwyfor Meirionnydd ag Ynys Môn ar sail cysylltiadau ieithyddol, diwylliannol a hanesyddol, yn ogystal â’r cynrychiolaethau a wnaed i aduno Wrecsam yn un etholaeth trwy baru Sir Drefaldwyn a Glyndŵr â Wrecsam. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd rhesymol rhwng ardaloedd yr etholaeth arfaethedig, fel rhwng Machynlleth a Dolgellau. Er nad yw’r Comisiwn o’r farn ei bod yn ddelfrydol cynnig etholaeth mor fawr, dyma’r opsiwn gorau o ran cynnig cyfuniad cyffiniol o 2 etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig yn yr ardal o ganlyniad i etholaeth arfaethedig Bangor Conwy Môn.

Mae’r Comisiwn yn cynnig yr enw unigol Gwynedd Maldwyn ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys enw 1 o’r awdurdodau lleol o fewn yr etholaeth arfaethedig a Maldwyn yw enw Cymraeg hanesyddol Trefaldwyn. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Ceredigion Penfro

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Ceredigion Preseli,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Canol a De Sir Benfro.

Cafodd y Comisiwn 36 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Ceredigion Preseli a Chanol a De Sir Benfro. O’r rhain, roedd 23 o blaid a 10 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 6 drefniadau amgen gan gynnwys paru Ceredigion Preseli â naill ai Dwyfor Meirionnydd neu Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe a pharu Canol a De Sir Benfro â Chaerfyrddin.

Cafodd y Comisiwn 20 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig yn ei adroddiad cychwynnol i enwi’r etholaeth hon yn Geredigion a Sir Benfro. O’r rhain, roedd 3 o blaid a 17 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Ceredigion-Sir Benfro, a Sir Aberteifi a Sir Benfro.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae’n cynnig cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Ceredigion Preseli ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Canol a De Sir Benfro fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau a wnaed i baru Ceredigion Preseli â Dwyfor Meirionnydd. Fodd bynnag, mae’r unig gysylltiad ffordd uniongyrchol o Geredigion i Ddwyfor Meirionnydd yn mynd trwy wardiau Machynlleth a Glantwymyn, sy’n rhan o etholaeth Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, ac nid yw hyn yn ddymunol, ym marn y Comisiwn. Yn ogystal, cafodd y Comisiwn gynrychiolaethau a awgrymodd baru Canol a De Sir Benfro â Chaerfyrddin. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn o’r farn bod ei gynnig cychwynnol, sy’n cadw ardal gyfan Cyngor Sir Caerfyrddin o fewn un etholaeth y Senedd trwy baru Caerfyrddin a Llanelli, yn fwy dymunol.

Mae’r Comisiwn yn nodi y byddai’r etholaeth a gynigir yma yn cyfuno ardaloedd cyfan prif gynghorau Ceredigion a Sir Benfro yn 1 etholaeth, sydd â chysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal ac sydd felly’n etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw unigol Ceredigion Penfro i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn adlewyrchu’r awdurdodau lleol sydd wedi’u cynnwys yn yr etholaeth arfaethedig a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Sir Gâr

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Caerfyrddin,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Llanelli.

Cafodd y Comisiwn 29 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Caerfyrddin a Llanelli. O’r rhain, roedd 23 o blaid a 6 yn erbyn (cynigiodd rhai cynrychiolaethau fwy nag 1 dewis amgen). Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 8 drefniadau amgen gan gynnwys paru Caerfyrddin â naill ai Canol a De Sir Benfro neu Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe a pharu Llanelli â Gŵyr.

Cafodd y Comisiwn 17 o gynrychiolaethau ynglŷn â’i gynnig cychwynnol i enwi’r etholaeth hon yn Geredigion a Sir Benfro. O’r rhain, roedd 2 o blaid a 15 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Sir Gâr a Sir Gaerfyrddin.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae’n cynnig cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Caerfyrddin ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Llanelli fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau o blaid paru Llanelli a Gŵyr, i ganiatáu ar gyfer paru Dwyrain Abertawe a Chastell-nedd â Gorllewin Abertawe er mwyn cyfuno ardaloedd Abertawe o fewn un etholaeth. Fodd bynnag, byddai etholaeth arfaethedig y Comisiwn yn cyfuno ardal gyfan prif gyngor Sir Gaerfyrddin yn un etholaeth. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol cyfuno’r ardaloedd fel y cynigiwyd o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth da a’r cysylltiadau cyfathrebu sefydledig o fewn yr etholaeth arfaethedig. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw unigol Sir Gâr ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cael ei ddefnyddio fel enw’r awdurdod lleol ac enw’r coleg addysg bellach aml-safle mawr ac felly ei fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr yr un rhanbarth eang o Gymru. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Gorllewin Abertawe Gŵyr (Swansea West Gower)

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gŵyr,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Abertawe.

Cafodd y Comisiwn 27 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Gŵyr a Gorllewin Abertawe. O’r rhain, roedd 19 o blaid ac 8 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 8 drefniadau amgen gan gynnwys paru Gŵyr â naill ai Llanelli neu Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe a pharu Gorllewin Abertawe â Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe.

Cafodd y Comisiwn 19 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw Gorllewin Abertawe a Gŵyr. O’r rhain, roedd 2 o blaid a 17 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Penrhyn Gŵyr, ac Abertawe a Gŵyr.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae’n cynnig cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gŵyr ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Abertawe fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau a wnaed i baru Gŵyr a Llanelli i allu paru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Abertawe â Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe er mwyn uno mwyafrif Dinas a Sir Abertawe o fewn un etholaeth. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol cyfuno’r ardaloedd fel y cynigiwyd o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth arfaethedig yn ogystal â chaniatáu i’r Comisiwn gynnig etholaeth sy’n uno ardal gyfan prif gyngor Sir Gaerfyrddin o fewn 1 etholaeth y Senedd. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Gorllewin Abertawe Gŵyr a’r enw Saesneg Swansea West Gower sy’n cyfuno enwau etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig. Nid yw’r Comisiwn o’r farn ei bod yn dderbyniol i’r enw Cymraeg gael ei ddefnyddio yn Saesneg oherwydd ei fod yn cynnwys Gorllewin, felly mae’r Comisiwn wedi cynnig enwau swyddogol amgen yn y ddwy iaith. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enwau arfaethedig.

Hoffai’r Comisiwn amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021, y bydd wardiau etholiadol Clydach a’r Glannau yn cael eu rhannu rhwng yr etholaeth arfaethedig hon ac etholaeth arfaethedig De Powys Tawe Nedd.

De Powys Tawe Nedd (South Powys Tawe Neath)

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Castell-nedd a Dwyrain Abertawe.

Cafodd y Comisiwn 61 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe a Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe. O’r rhain, roedd 19 o blaid a 41 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 19 drefniadau amgen gan gynnwys paru Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe â naill ai etholaethau Caerfyrddin, Gŵyr, Sir Fynwy, Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, Ceredigion neu Ferthyr Tudful ac Aberdâr. Roedd cynigion amgen hefyd yn cynnwys cyfuno Castell-nedd a Dwyrain Abertawe â naill ai Gorllewin Abertawe, Aberafan Maesteg, neu Ferthyr Tudful ac Aberdâr.

Cafodd y Comisiwn 14 o gynrychiolaethau ynglŷn â’i gynnig cychwynnol i enwi’r etholaeth hon yn Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, yr oeddent i gyd yn ei erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys De Powys-Castell-nedd, Cymoedd Tawe a Bannau Brycheiniog.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae’n cynnig cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Castell-nedd a Dwyrain Abertawe fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau o blaid parau amgen yn yr ardal hon, ond byddai’r rhain i gyd yn cael effeithiau cynyddol ar barau eraill a gefnogir yn dda ledled Cymru, gan felly greu set lai dymunol o etholaethau yn gyffredinol. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y ddwy etholaeth ac y byddai’r pâr arfaethedig yn uno ardaloedd sy’n ffurfio rhan o ardal prif gyngor Castell-nedd Port Talbot yn un etholaeth, gan ychwanegu at y cysylltiadau sefydledig sy’n bodoli. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg De Powys Tawe Nedd a’r enw Saesneg South Powys Tawe Neath. Mae’r Comisiwn o’r farn bod yr enw’n cynnwys 1 o’r awdurdodau lleol sydd wedi’u cynnwys yn yr etholaeth arfaethedig yn ogystal â’r afon sy’n mynd trwy bob un o’r 3 awdurdod lleol ac enw tref fawr yn yr ardal. Nid yw’r Comisiwn o’r farn ei bod yn dderbyniol i’r enw Cymraeg gael ei ddefnyddio yn Saesneg oherwydd ei fod yn cynnwys De, felly mae’r Comisiwn wedi cynnig enwau swyddogol amgen yn y ddwy iaith. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enwau arfaethedig.

Hoffai’r Comisiwn amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021, y bydd wardiau etholiadol Clydach a’r Glannau yn cael eu rhannu rhwng yr etholaeth arfaethedig hon ac etholaeth arfaethedig Gorllewin Abertawe Gŵyr.

Hoffai’r Comisiwn hefyd amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021, y bydd ward etholiadol Cimla a Phelenna yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth arfaethedig hon ac etholaeth arfaethedig Afan Ogwr Rhondda.

Afan Ogwr Rhondda

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Aberafan Maesteg,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Rhondda ac Ogwr.

Cafodd y Comisiwn 41 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Aberafan Maesteg a Rhondda ac Ogwr. O’r rhain, roedd 20 o blaid a 21 yn erbyn (cynigiodd rhai cynrychiolaethau fwy nag 1 dewis amgen). Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 27 drefniadau amgen gan gynnwys paru Aberafan Maesteg â Phen-y-bont ar Ogwr a pharu Rhondda ac Ogwr â Merthyr Tudful ac Aberdâr neu Bontypridd.

Cafodd y Comisiwn 14 o gynrychiolaethau ynglŷn â’i gynnig cychwynnol i enwi’r etholaeth hon yn Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr. O’r rhain, roedd 2 o blaid a 12 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Port Talbot Rhondda, Gorllewin Morgannwg ac Afan, ac Ogwr, Garw a Rhondda.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae’n cynnig cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Aberafan Maesteg ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Rhondda ac Ogwr fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau o blaid cyfuniadau amgen, fel yr awgrym i baru Aberafan Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr yn seiliedig ar y cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd pwysig a’r cymeriad tebyg a rennir rhwng y ddwy ardal. Fodd bynnag, byddai hyn yn cael effeithiau cynyddol ar barau eraill a gefnogir yn dda ledled Cymru, gan felly greu set lai dymunol o etholaethau yn gyffredinol. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol cyfuno’r ardaloedd fel y cynigiwyd o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da rhwng y ddwy etholaeth. Mae ardal prif gyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i rhannu ar draws 3 etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig, a byddai’r etholaeth arfaethedig yn cyfuno 2 o’r etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig hynny yn 1 etholaeth y Senedd, gan ychwanegu at y cysylltiadau sefydledig sy’n bodoli. Mae’r Comisiwn hefyd o’r farn bod ymdeimlad cyffredin o gymeriad rhwng cymunedau cymoedd Maesteg, Pontycymer ac Ogwr. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn yn cynnig yr enw unigol Afan Ogwr Rhondda ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn o’r farn bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn adlewyrchu enw’r afon, y coedwigoedd a’r cymoedd sydd wedi’u cynnwys yn yr etholaeth arfaethedig a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Yn gyntaf, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol Cimla a Phelenna yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth arfaethedig hon ac etholaeth arfaethedig De Powys Tawe Nedd.

Yn ail, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol Cymer yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth arfaethedig hon ac etholaeth arfaethedig Merthyr Cynon Taf.

Yn drydydd, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol y Pîl, Cynffig a Chefn Cribwr yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth arfaethedig hon ac etholaeth arfaethedig Pen-y-bont Bro Morgannwg.

Merthyr Cynon Taf

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Merthyr Tudful ac Aberdâr,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Pontypridd.

Cafodd y Comisiwn 78 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Merthyr Tudful ac Aberdâr a Phontypridd. O’r rhain, roedd 60 o blaid a 18 yn erbyn (cynigiodd rhai cynrychiolaethau fwy nag 1 dewis amgen). Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 23 drefniadau amgen gan gynnwys paru Merthyr Tudful ac Aberdâr â Rhondda ac Ogwr a pharu Pontypridd â Gorllewin Caerdydd.

Cafodd y Comisiwn 15 o gynrychiolaethau ynglŷn â’i gynnig cychwynnol i enwi’r etholaeth hon yn Ferthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 14 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Gogledd Morgannwg, Morgannwg Ganol, Taf Cynon, Cynon Taf a Merthyr Tudful, Cwm Cynon a Phontypridd.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae’n cynnig cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Merthyr Tudful ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Aberdâr a Phontypridd fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau o blaid cyfuniadau amgen yn yr ardal hon, fel cyfuno Merthyr Tudful ac Aberdâr â Rhondda ac Ogwr yn seiliedig ar y cysylltiadau economaidd-gymdeithasol a chymeriad tebyg y 2 ardal, a chyfuno Pontypridd â Gorllewin Caerdydd yn seiliedig ar y cysylltiadau trafnidiaeth a chysylltiadau hanesyddol yr ardaloedd hynny (gan nodi bod ardaloedd fel Creigiau a Phentyrch wedi trosglwyddo rhwng yr etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig hynny). Fodd bynnag, byddai’r cyfuniadau amgen hyn yn cael effeithiau cynyddol ar barau a gefnogir yn dda yn yr ardal amgylchynol, gan felly greu set lai dymunol o etholaethau yn gyffredinol. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol cyfuno’r ardaloedd fel y cynigiwyd o ganlyniad i’r cysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 etholaeth. Byddai’r etholaeth arfaethedig hefyd yn uno ardaloedd sy’n ffurfio rhan o ardal prif gyngor Rhondda Cynon Taf yn un etholaeth, gan ychwanegu at y cysylltiadau sefydledig sy’n bodoli. Trwy baru’r etholaethau hyn, bydd y Comisiwn hefyd yn gallu cadw ardal Cwm Cynon o fewn 1 etholaeth. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn yn cynnig yr enw unigol Merthyr Cynon Taf ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn o’r farn bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys enwau’r ddau awdurdod lleol yn yr etholaeth arfaethedig a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Hoffai’r Comisiwn amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol Cymer yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth arfaethedig hon ac etholaeth arfaethedig Afan Ogwr Rhondda.

Hoffai’r Comisiwn hefyd amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol Gorllewin Pont-y-clun yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth arfaethedig hon ac etholaeth arfaethedig Gogledd-orllewin Caerdydd.

Blaenau Gwent Caerffili Rhymni

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Blaenau Gwent a Rhymni,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Caerffili.

Cafodd y Comisiwn 28 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Blaenau Gwent a Rhymni a Chaerffili. O’r rhain, roedd 18 o blaid a 10 yn erbyn (cynigiodd rhai cynrychiolaethau fwy nag 1 dewis amgen). Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 15 drefniadau amgen gan gynnwys paru Blaenau Gwent a Rhymni â Thorfaen a pharu Caerffili â Gorllewin Casnewydd ac Islwyn.

Cafodd y Comisiwn 12 o gynrychiolaethau ynglŷn â’i gynnig cychwynnol i enwi’r etholaeth hon yn Flaenau Gwent, Rhymni a Chaerffili. O’r rhain, roedd 1 o blaid ac 11 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Dwyrain Morgannwg, Gorllewin Gwent a Rhymni, a Sirhywi ac Ebwy.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae’n cynnig cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Blaenau Gwent ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Rhymni a Chaerffili fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y gwrthgynigion a dderbyniwyd, ond byddai’r rhain yn tarfu ar barau a gefnogir yn dda yn yr ardal amgylchynol, gan felly greu set lai dymunol o etholaethau yn gyffredinol. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal ac y byddai’r etholaeth arfaethedig yn uno ardaloedd sy’n ffurfio rhan o ardal prif gyngor Caerffili yn 1 etholaeth, gan ychwanegu at y cysylltiadau sefydledig sy’n bodoli. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn yn cynnig yr enw unigol Blaenau Gwent Caerffili Rhymni ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn o’r farn bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys y 2 awdurdod lleol a chwm mawr yn yr etholaeth arfaethedig a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Hoffai’r Comisiwn amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol Cefn Fforest a Phengam yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth arfaethedig hon ac etholaeth arfaethedig Casnewydd Islwyn.

Mynwy Torfaen

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Sir Fynwy,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Torfaen.

Cafodd y Comisiwn 29 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Sir Fynwy a Thorfaen. O’r rhain, roedd 16 o blaid a 13 yn erbyn. Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 11 drefniadau amgen gan gynnwys paru Sir Fynwy ag Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe a pharu Torfaen â Blaenau Gwent.

Cafodd y Comisiwn 14 o gynrychiolaethau ynglŷn â’i gynnig cychwynnol i enwi’r etholaeth hon yn Sir Fynwy a Thorfaen. O’r rhain, roedd 2 o blaid a 12 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Dwyrain Gwent, Gwent a Phont-y-pŵl Brynbuga.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae’n cynnig cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Sir Fynwy ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Torfaen fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y gwrthgynigion a dderbyniwyd, ond byddai’r rhain yn tarfu ar barau a gefnogir yn dda yn yr ardal amgylchynol, gan felly greu set lai dymunol o etholaethau yn gyffredinol. Mae’r Comisiwn yn nodi y byddai’r etholaeth arfaethedig yn cyfuno ardaloedd cyfan prif gynghorau Sir Fynwy a Thorfaen yn 1 etholaeth, ac mae’n ystyried bod hyn yn briodol o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth arfaethedig. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn yn cynnig yr enw unigol Mynwy Torfaen ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn o’r farn bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys y 2 awdurdod lleol yn yr etholaeth arfaethedig a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Casnewydd Islwyn

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Casnewydd,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Casnewydd ac Islwyn.

Cafodd y Comisiwn 32 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Casnewydd a Gorllewin Casnewydd ac Islwyn. O’r rhain, roedd 23 o blaid a 9 yn erbyn. Cynigiodd y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig drefniadau amgen gan gynnwys paru Dwyrain Casnewydd â Thorfaen a pharu Gorllewin Casnewydd ac Islwyn â Chaerffili.

Cafodd y Comisiwn 13 o gynrychiolaethau ynglŷn â’i gynnig cychwynnol i enwi’r etholaeth hon yn Gasnewydd ac Islwyn. O’r rhain, roedd 2 o blaid ac 11 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Gorllewin Gwent, De Gwent, ac Ebwy Brynbuga.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae’n cynnig cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Casnewydd ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Casnewydd ac Islwyn fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y gwrthgynigion a dderbyniwyd, ond byddai’r rhain yn tarfu ar barau a gefnogir yn dda yn yr ardal amgylchynol, gan felly greu set lai dymunol o etholaethau yn gyffredinol. Byddai’r etholaeth arfaethedig yn cyfuno ardal gyfan prif gyngor Casnewydd yn 1 etholaeth, gan felly ychwanegu at gysylltiadau presennol. Mae’r Comisiwn hefyd o’r farn ei bod yn briodol paru’r ardaloedd fel y cynigiwyd o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth arfaethedig. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn yn cynnig yr enw unigol Casnewydd Islwyn ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys enw’r Ddinas yn ogystal â’r ardal hanesyddol o fewn yr etholaeth arfaethedig a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Hoffai’r Comisiwn amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol Cefn Fforest a Phengam yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth arfaethedig hon ac etholaeth arfaethedig Blaenau Gwent Caerffili Rhymni.

De-ddwyrain Caerdydd Penarth (Cardiff South-east Penarth)

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Caerdydd,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig De Caerdydd a Phenarth.

Cafodd y Comisiwn 48 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Caerdydd a Gogledd Caerdydd. O’r rhain, roedd 32 o blaid ac 16 yn erbyn (cynigiodd rhai cynrychiolaethau fwy nag 1 dewis amgen). Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 18 drefniadau amgen gan gynnwys paru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Caerdydd â De Caerdydd a Phenarth a pharu Gogledd Caerdydd â Gorllewin Caerdydd.

Cafodd y Comisiwn 16 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig i enwi’r etholaeth honno’n Ddwyrain a Gogledd Caerdydd. O’r rhain, roedd 2 o blaid a 14 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys Caerdydd Taf, Gogledd-ddwyrain Caerdydd, a Dwyrain y Brifddinas.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae bellach yn cynnig etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Dwyrain Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth fel pâr amgen. Byddai’r pâr hwn yn uno 2 o’r 4 etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig sy’n rhychwantu Dinas Caerdydd yn 1 etholaeth, gan ychwanegu at y cysylltiadau sefydledig sy’n bodoli yn yr ardal. Mae’r pâr hwn yn ymateb i ddadleuon a wnaed mewn cynrychiolaethau bod cysylltiadau ieithyddol a hanesyddol cryf, yn ogystal â chysylltiadau trafnidiaeth cryfach, rhwng Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd. Byddai hefyd yn aduno ward etholiadol Cathays ag ardaloedd eraill a ffurfiodd hen etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Canol Caerdydd. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol paru’r ardaloedd fel y cynigiwyd o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth arfaethedig. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau a wnaed i baru etholaethau eraill yn yr ardal hon, fel De Caerdydd a Phenarth â Bro Morgannwg oherwydd bod nifer fawr o ardaloedd o ardal prif gyngor Bro Morgannwg wedi’u cynnwys yn etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig De Caerdydd a Phenarth, a’r cymeriad tebyg rhwng y 2 ardal. Fodd bynnag, byddai hyn yn tarfu ar barau a gefnogir yn dda ar draws yr ardal amgylchynol, gan felly greu set lai dymunol o etholaethau yn gyffredinol.

Mae’r Comisiwn yn cynnig yr enw Cymraeg De-ddwyrain Caerdydd Penarth a’r enw Saesneg Cardiff South-east Penarth, sy’n gyfuniad byrrach o enwau etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu na fyddai’n dderbyniol i’r enw Cymraeg gael ei ddefnyddio yn Saesneg oherwydd ei fod yn cynnwys y gair De-ddwyrain, felly mae wedi cynnig enwau swyddogol amgen yn y ddwy iaith. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Gogledd-orllewin Caerdydd (Cardiff North-west)

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gogledd Caerdydd,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Caerdydd.

Cafodd y Comisiwn 87 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynnig cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth. O’r rhain, roedd 59 o blaid a 28 yn erbyn (cynigiodd rhai cynrychiolaethau fwy nag 1 dewis amgen). Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 32 drefniadau amgen gan gynnwys paru Gorllewin Caerdydd â Phontypridd a pharu De Caerdydd a Phenarth â Bro Morgannwg.

Cafodd y Comisiwn 15 o gynrychiolaethau ynglŷn ag enw’r etholaeth arfaethedig honno, y cynigiodd y Comisiwn y dylai fod yn Orllewin Caerdydd, De a Phenarth. Roedd pob un o’r 15 yn ei erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys De-orllewin Caerdydd, Gorllewin y Brifddinas, a Chaerdydd Elái.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae bellach yn cynnig etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd fel pâr amgen. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y gwrthgynigion a dderbyniwyd ac yn deall y dadleuon a wnaed i baru Pontypridd a Gorllewin Caerdydd yn seiliedig ar y cysylltiadau trafnidiaeth a’r cysylltiadau hanesyddol rhwng ardaloedd fel Creigiau a Phentyrch. Fodd bynnag, yn seiliedig ar y dadleuon a wnaed bod cysylltiadau ieithyddol a hanesyddol cryf yn ogystal â chysylltiadau trafnidiaeth da rhwng Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd, mae’r Comisiwn yn cynnig y trefniant amgen hwn. Byddai’r pâr hwn yn uno 2 o’r 4 etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig sy’n rhychwantu Dinas Caerdydd yn 1 etholaeth, gan ychwanegu at y cysylltiadau sefydledig sy’n bodoli yn yr ardal. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol paru’r ardaloedd fel y cynigiwyd o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth arfaethedig. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn yn cynnig yr enw Cymraeg Gogledd-orllewin Caerdydd a’r enw Saesneg Cardiff North-west, sy’n gyfuniad byrrach o enwau etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu na fyddai’n dderbyniol i’r enw Cymraeg gael ei ddefnyddio yn Saesneg oherwydd ei fod yn cynnwys y term Gogledd-orllewin, felly mae wedi cynnig enwau swyddogol amgen yn y ddwy iaith. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Hoffai’r Comisiwn amlygu, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021, bydd ward etholiadol Gorllewin Pont-y-clun yn cael ei rhannu rhwng yr etholaeth arfaethedig hon ac etholaeth arfaethedig Merthyr Cynon Taf.

Pen-y-bont Bro Morgannwg

Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o’r canlynol:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Pen-y-bont ar Ogwr,

ac:

etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Bro Morgannwg.

Cafodd y Comisiwn 30 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r cynigion cychwynnol i baru etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg. O’r rhain, roedd 16 o gynrychiolaethau o blaid a 14 yn erbyn (cynigiodd rhai cynrychiolaethau fwy nag 1 dewis amgen). Ymhlith y cynrychiolaethau yn erbyn y cynnig, cynigiodd 19 drefniadau amgen gan gynnwys paru Pen-y-bont ar Ogwr ag Aberafan Maesteg a pharu Bro Morgannwg â De Caerdydd a Phenarth.

Cafodd y Comisiwn 11 o gynrychiolaethau ynglŷn â’r enw Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. O’r rhain, roedd 1 o blaid a 10 yn erbyn. Roedd yr enwau amgen a gynigiwyd yn cynnwys De Morgannwg, Pen-y-bont Barri, ac Ogwr Morgannwg.

Mae’r Comisiwn wedi ystyried y cynrychiolaethau ac mae’n cynnig cadw etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Pen-y-bont ar Ogwr ac etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Bro Morgannwg fel pâr. Mae’r Comisiwn yn cydnabod y cynrychiolaethau a wnaed i baru etholaethau eraill yn yr ardal hon, fel De Caerdydd a Phenarth a Bro Morgannwg oherwydd nifer yr ardaloedd o ardal prif gyngor Bro Morgannwg sydd wedi’u cynnwys yn etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig De Caerdydd a Phenarth, a’r cymeriad tebyg rhwng y 2 ardal. Fodd bynnag, byddai hyn yn tarfu ar barau a gefnogir yn dda ar draws yr ardal amgylchynol, gan felly greu set lai dymunol o etholaethau yn gyffredinol. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol paru’r ardaloedd fel y cynigiwyd o ganlyniad i’r cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da o fewn yr etholaeth arfaethedig. Felly, mae’r Comisiwn o’r farn bod y cyfuniad arfaethedig yn creu etholaeth gydlynol.

Mae’r Comisiwn yn cynnig yr enw unigol Pen-y-bont Bro Morgannwg ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys enw’r 2 awdurdod lleol yn yr etholaeth arfaethedig a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 5.44 MB

  1. Maint ffeil: 12.55 MB
  2. Maint ffeil: 259.84 KB
  3. Maint ffeil: 165.01 KB

  1. Maint ffeil: 3.05 MB
  2. KML
    Maint ffeil: 12.17 MB

  1. Maint ffeil: 1.36 MB
  2. Maint ffeil: 984.5 KB
  3. Maint ffeil: 988.03 KB
  4. Maint ffeil: 855.42 KB
  5. Maint ffeil: 904.55 KB
  6. Maint ffeil: 951.8 KB
  7. Maint ffeil: 681.78 KB
  8. Maint ffeil: 874.94 KB
  9. Maint ffeil: 715.36 KB
  10. Maint ffeil: 1.01 MB
  11. Maint ffeil: 795.71 KB
  12. Maint ffeil: 899.41 KB
  13. Maint ffeil: 1.14 MB
  14. Maint ffeil: 1.16 MB
  15. Maint ffeil: 713.54 KB
  16. Maint ffeil: 973.68 KB
  17. Maint ffeil: 896.89 KB
  18. Maint ffeil: 1.1 MB

Amser darllen amcangyfrifedig:

37 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: