Gorchymyn Llan-wern (Trefniadau Etholiadol) 2026
Mae Gorchymyn Llan-wern (Trefniadau Etholiadol) 2026 yn rhoi effaith i argymhelliad Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y Comisiwn) i gynyddu nifer yr aelodau a etholir i Gyngor Dinas Casnewydd dros ward etholiadol Llan-wern o un i ddau, o ganlyniad i arolwg cymunedau Casnewydd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cydsynio o dan adran 38(3) o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 i’r Comisiwn wneud y Gorchymyn. Gyda’r cydsyniad hwnnw, mae’r Comisiwn yn gwneud y Gorchymyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 38(1) o’r Ddeddf honno.
Mae’r Gorchymyn yn diwygio’r cofnod ar gyfer Llan-wern yn yr Atodlen i Orchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021 i ddarparu ar gyfer dau aelod yn hytrach nag un. Nid yw’r Gorchymyn ei hun yn newid enw nac ardal y ward etholiadol, trefniadau etholiadol unrhyw ward etholiadol arall, na nifer aelodau Cyngor Cymuned Llan-wern.
Bydd y newid yn gymwys yn yr etholiad llywodraeth leol nesaf.
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 147.2 KB
-
Maint ffeil: 825.05 KB