Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Cymundau Llanboidy a Hendy-gwyn ar Daf) 2025

Mae Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (Deddf 2013) yn ei gwneud yn ofynnol i bob prif gyngor fonitro’r cymunedau a’r trefniadau etholiadol ar gyfer y cymunedau hynny yn ei ardal.

Mae’r arolygon hyn yn bwysig oherwydd eu bod yn adlewyrchu natur gyfnewidiol pob cymuned, ei phoblogaeth a’r cynlluniau ar gyfer ei datblygu, er mwyn sicrhau bod gan bob cymuned gynrychiolaeth ddemocrataidd deg a chyfartal o fewn strwythur y llywodraeth leol.

O dan Ddeddf 2013, gall cyngor naill ai gynnal ei arolwg cymunedau ei hun, neu gall gytuno i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y Comisiwn) gynnal yr arolwg ar ei ran. O dan y drefniant cyntaf, mae’n ofynnol i’r cyngor gyflwyno ei adroddiad a’i argymhellion i'r Comisiwn benderfynu yn eu cylch.

Cwblhaodd y cyngor arolwg o’i gymunedau a chyflwynodd ei adroddiad argymhellion terfynol i’r Comisiwn ar 6 Awst 2025. Ar ôl ystyried yr adroddiad a’r argymhellion ynghyd ag unrhyw gynrychiolaethau a ddaeth i law, ysgrifennodd y Comisiwn i Brif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin ar 8 Hydref 2025 i’w hysbysu o benderfyniad y Comisiwn i gytuno ar yr argymhellion yn yr adroddiad ac y cânt eu gweithredu gyda mân addasiadau (i nodi’r wardiau cymunedol yr effeithir arnynt).

Bydd y Gorchymyn a wneir gan y Comisiwn yn dod â’r newidiadau i rym o yfory ymlaen (5ed Tachwedd 2025).

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 1.44 MB

Rhannwch y post hwn: