Arolwg 2030 o etholaethau'r Senedd

Cynhelir Arolwg 2030 o etholaethau'r Senedd yn unol â Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (2013).

Mae Rheolau'r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i'r Comisiwn greu 16 etholaeth Senedd sydd oll o fewn 10% o'r Cwota Etholiadol.

Cyfrifir y Cwota Etholiadol drwy rannu nifer yr etholwyr ledled Cymru ar gofrestr etholiadol Rhagfyr 2025 (2,402,053) â nifer yr etholaethau (16). Rhaid i bob etholaeth gynnwys rhwng 90% a 110% o'r Cwota Etholiadol.

Ar gyfer yr arolwg hwn, y Cwota Etholiadol yw 150,128, sy'n golygu bod rhaid i bob etholaeth gynnwys rhwng 135,225 a 165,275 o etholwyr.

Dyddiadau allweddol

Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei Gynigion Cychwynnol yn gynnar yn 2027, a fydd yn sbarduno cyfnod ymgynghori 8 wythnos.

Rhaid i'r Comisiwn gyflwyno ei Benderfyniadau Terfynol i Weinidogion Cymru cyn 1 Rhagfyr 2028.

Cyhoeddir dyddiadau allweddol eraill, gan gynnwys ar gyfer gwrandawiadau cyhoeddus ac unrhyw gynigion diwygiedig maes o law. Dylech chwilio am y dudalen ddiweddaraf a gyhoeddwyd o dan y categori Arolygon y Senedd ar y wefan hon am y wybodaeth ddiweddaraf.

Ymgynghoriadau

Yn dilyn cyhoeddi'r Cynigion Cychwynnol bydd cyfnod ymgynghori yn para 8 wythnos.

Mae'r Comisiwn yn gwahodd sylwadau ar ffiniau, enwi, a dynodi etholaethau yn ystod ei gyfnodau ymgynghori. Ni all y Comisiwn ystyried unrhyw gynrychioliadau a wneir y tu allan i'r cyfnodau ymgynghori.

Ni all y Comisiwn chwaith effeithio ar nifer yr Aelodau o'r Senedd i'w hethol na'r system etholiadol a ddefnyddir i'w hethol ac ni ellir ystyried cynrychioliadau ar y materion hyn.

Dylid gwneud cynrychioliadau yn ysgrifenedig, ar borth ymgynghori ar-lein y Comisiwn, drwy e-bost, neu yn y post. Cyhoeddir rhagor o fanylion am yr ymgynghoriadau fel rhan o'r adroddiad Cynigion Cychwynnol.

Yn dilyn cyhoeddi'r Penderfyniadau Terfynol, bydd yr etholaethau newydd yn dod i rym yn etholiad y Senedd yn 2030.

Y Comisiwn

Gallwch ddysgu mwy am y Comisiwn, gan gynnwys ei aelodaeth bresennol, yma.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost atom yn ymholiadau@cdffc.llyw.cymru neu ffoniwch ar 029 2046 4819.

Amser darllen amcangyfrifedig:

2 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: