Arolwg Cymunedau Sir Casnewydd

Mae'r Comisiwn wedi derbyn hysbysiad gan Gyngor Sir Casnewydd ei fod wedi cwblhau Arolwg Cymunedol ac wedi cyflwyno ei adroddiad.

Gallwch ddarllen mwy am Adolygiadau Cymunedol yma.

Mae’n rhaid i’r Comisiwn yn awr benderfynu a ddylid gwneud Gorchymyn i roi effaith i’r argymhellion yn yr adroddiad, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.

Rhaid i'r Comisiwn aros am gyfnod o 6 wythnos ar ôl derbyn yr adroddiad cyn gwneud Gorchymyn. Bydd y Comisiwn yn derbyn cynrychiolaethau ar Argymhellion Terfynol y Cyngor hyd at 11 Medi 2026.

Bydd diweddariad pellach yn cael ei gyhoeddi ar y wefan hon maes o law.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Sir Casnewydd

Amser darllen amcangyfrifedig:

1 minute amser darllen

Rhannwch y post hwn: