Gorchymyn Sir Gwynedd (Cymunedau) 2026

Mae’r arolygon hyn yn bwysig oherwydd eu bod yn adlewyrchu natur gyfnewidiol pob cymuned, ei phoblogaeth a’r cynlluniau ar gyfer ei datblygu, er mwyn sicrhau bod gan bob cymuned gynrychiolaeth ddemocrataidd deg a chyfartal o fewn strwythur y llywodraeth leol.

O dan Ddeddf 2013, gall cyngor naill ai gynnal ei arolwg cymunedau ei hun, neu gall gytuno i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y Comisiwn) gynnal yr arolwg ar ei ran. O dan y drefniant cyntaf, mae’n ofynnol i’r cyngor gyflwyno ei adroddiad a’i argymhellion i'r Comisiwn benderfynu yn eu cylch.

Cwblhaodd y cyngor arolwg o’i gymunedau a chyflwynodd ei adroddiad argymhellion terfynol i’r Comisiwn ym Mis Ebrill 2026. Ar ôl ystyried yr adroddiad a’r argymhellion ynghyd ag unrhyw gynrychiolaethau a ddaeth i law, ysgrifennodd y Comisiwn i Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd ar 2 Gorffennaf 2026 i’w hysbysu o benderfyniad y Comisiwn i gytuno ar yr argymhellion yn yr adroddiad ac y cânt eu gweithredu gyda mân addasiadau (i nodi’r wardiau cymunedol yr effeithir arnynt).
 

Bydd y Gorchymyn a wneir gan y Comisiwn yn dod â’r newidiadau i rym yn yr etholiad llywodraeth leol nesaf.

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 1.46 MB

Rhannwch y post hwn: