The County of Pembrokeshire (Communities) Order 2026

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru(1) (“y Comisiwn”), o dan adran 36(5)(a) o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Ionawr 2025 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion adolygiad o’r trefniadau cymunedol o fewn Sir Benfro.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i’r rhan fwyaf o argymhellion y Comisiwn heb addasiadau, ond i beidio â chymryd unrhyw gamau mewn perthynas â rhai argymhellion. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn gwneud darpariaeth atodol fel yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus.

O dan adran 37(3) o Ddeddf 2013(3), mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 37(1) a 40(1) a (2)(a) o Ddeddf 2013.

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 302.39 KB

Rhannwch y post hwn: