Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Cymunedau) 2026

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru(1) (“y Comisiwn”), o dan adran 36(5)(a) o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Ebrill 2024 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion adolygiad o’r trefniadau cymunedol o fewn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i argymhellion y Comisiwn heb addasiadau. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn gwneud darpariaeth atodol fel y’i hystyrir yn angenrheidiol neu’n hwylus.

O dan adran 37(3A) a (3B) o Ddeddf 2013(3), mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru ac mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod y cyfnod hwn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn nodi eu penderfyniad ar gyfer pob argymhelliad o dan adran 37(6) o Ddeddf 2013(4).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 37(1) a 40(1) a (2)(a) o Ddeddf 2013. O dan adran 37(2A) o Ddeddf 2013(5), mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn fwy na 6 mis cyn diwrnod etholiad cyngor cyffredin o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(6).

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 448.24 KB

Rhannwch y post hwn: